Arestio 17 yn rhan o ymgyrch i daclo cyffuriau yn ardal Bangor

Ers dechrau'r ymgyrch mae Heddlu'r Gogledd wedi arestio 17 o bobl mewn cysylltiad â chyffuriau
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio ymgyrch arbennig i fynd i'r afael â'r cyflenwad a gwaith dosbarthu cyffuriau yn ninas Bangor.
Daw'r cynllun yn dilyn cyfres o ddarganfyddiadau yn y ddinas, gan gynnwys sawl fferm ganabis fu'n tyfu mewn siopau gweigion ar hyd y stryd fawr.
Mae swyddogion yn gobeithio drwy gynyddu presenoldeb a chynnal cyrchfeydd arbennig y bydd modd mynd i'r afael â phroblemau yn y ddinas, a bydd effaith hynny i'w weld ar draws y gogledd orllewin.
Mae'r ymgyrch wedi cael ei chroesawu gan arweinwyr cymunedol sy'n dweud bod troseddwyr tebyg yn "pardduo enw da Bangor".

Mae swyddogion wedi cynnal cyrchoedd ar draws ardal Bangor
Mi gafodd BBC Cymru fynediad arbennig i fynd gyda swyddogion ar gyrch ar stad Maesgeirchen ar gyrion y ddinas.
Gan ganolbwyntio ar dri unigolyn penodol sy'n cael eu hamau o fod yn rhan o'r broblem o gyflenwi, creu a dosbarthu cyffuriau yn y ddinas mi lwyddodd swyddogion i'w harestio.
"'Da ni dan obaith y bydd hyn yn arwain ni at rhywbeth arall - sydd wedyn yn arwain ni at gael rhein i gyd i fewn yn y ddalfa," meddai PC Iwan Williams sy'n arwain y cynllun.
"Investigation ydi o sydd wedi bod yn arwain mewn i gyffuriau yn enwedig yn ardal Bangor ond hefyd ar draws y wlad, felly mae'n neis cael dod i rhyw fath o frig heddiw a gobaith y byddwn ni'n cael y canlyniad 'da ni angen," meddai.

Yn ddiweddar roedd cyrch gan yr heddlu ar stad Maesgeirchen
Ers dechrau'r ymgyrch mae Heddlu'r Gogledd wedi arestio 17 o bobl mewn cysylltiad â chyffuriau neu droseddau tebyg.
O'r 45 o bobl gafodd eu harchwilio yn ddiweddar, roedd 23 â chyffuriau o ddosbarth un ai A, B neu C yn eu meddiant.
Yn ôl yr heddlu, mae lleoliad canolog Bangor ger yr A55 yn golygu y bydd lleihau trosedd sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn y ddinas yn cael effaith bositif mewn rhannau eraill o Wynedd ac Ynys Môn hefyd.

Mae mwy o blismyn i'w gweld ar Stryd Fawr Bangor yn ddiweddar
Dywedodd yr Uwcharolygydd Arwel Hughes o Heddlu Gogledd Cymru: "Ar hyn o bryd, mae'r problemau rydyn ni'n delio â nhw yn ymwneud yn bennaf â chyffuriau, ond da ni'n gwybod bod problemau ehangach a throseddu pellach yn gallu dod yn sgil cyffuriau.
"Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn adeiladu gwell darlun o'r problemau sy'n gysylltiedig â'r fasnach cyffuriau anghyfreithlon, i'n galluogi ni i dargedu'r rheini hefyd."
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd25 Chwefror
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2024
Fel rhan o'r ymgyrch mae tîm penodol o chwe heddwas a sarsiant wedi'u sefydlu i batrolio'r stryd fawr ac ardaloedd Hirael a Maesgeirchen yn fwy aml.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw'n awyddus i helpu gwella delwedd Stryd Fawr Bangor, sydd wedi profi problemau gydag yfed alcohol yn yr awyr agored ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gorffennol.
Cafodd pedair fferm ganabis eu darganfod yn y ddinas yn y misoedd hyd at Ebrill 2023, gyda dwy ohonyn nhw mewn adeiladau siopau gwag ar y stryd fawr.

Mae John Wyn Jones yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yn codi hyder pobl ar y stryd fawr
Mae Cyngor Dinas Bangor hefyd wedi bod yn ceisio adfywio'r stryd fawr trwy orchuddio ffenestri siopau gwag gyda lluniau o atyniadau twristiaeth leol.
"Mae'n pardduo enw da Bangor," meddai un o gynghorwyr y ddinas John Wyn Jones.
"Da ni'n boenus am hynny ond 'da ni hefyd yn werthfawrogol o be' mae'r heddlu yn gallu gwneud.
"Dros dro ydi o a da ni'n gobeithio y bydd o'n cael effaith a bydd hynny'n helpu i godi y hyder sydd gan bobl yn y stryd fawr."

Y nod y tro hwn yw sylwi ar broblemau wrth iddyn nhw godi, meddai'r Uwcharolygydd Arwel Hughes
Mae'r Uwcharolygydd Arwel Hughes yn amddiffyn record yr heddlu o ddelio â throseddau yn y ddinas.
"Yn hanesyddol, rydym wedi ceisio delio â throseddau drwy arestio llawer o bobl.
"Tra bod hynny wedi falle gwella pethau yn y byr dymor, ni'n gwybod nad yw'n ateb hir dymor.
"Yr hyn sy'n wahanol y tro hwn yw ein bod ni eisiau gwrando ar y gymuned a sylwi ar broblemau wrth iddyn nhw godi - ac yna gweithio gyda'r cyngor a'r GIG i wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n dod yn ôl."