Ydych chi'n cofio Stryd Fawr Bangor yn edrych fel hyn?

Hen Ganolfan Siopau Cae Ffynnon - neu'r Wellfield - yng nghanol Bangor gafodd ei dymchwel yn 2004, a'r siop goffi boblogaidd drws nesaf
- Cyhoeddwyd
Wrth i arolwg enwi Bangor fel y dref glan môr waethaf ym Mhrydain, mae’r fideo yma yn dangos sut le oedd canol y ddinas bron i chwarter canrif yn ôl.
I bobl o oedran penodol fe fydd yn dod ag atgofion o gyfnod pan oedd y ddinas yn brysur gyda siopau poblogaidd fel Woolworths a Debenhams yn denu pobl i’r Stryd Fawr - a chanolfan Wellfield yn ganolbwynt.
A phethau eraill sy’n amlwg wedi newid ydi’r ffasiwn - a'r ffaith bod ambell i gar yn mynd heibio’r cloc.
Fideo wedi ei ffilmio ym Mangor yn y flwyddyn 2000 gan George Hare. Hawlfraint fideo: Judmusic Publishing
Fel nifer o drefi a dinasoedd eraill, mae Bangor wedi diodde’ dros y blynyddoedd diwethaf gyda nifer yn pryderu am ddirywiad yng nghanol y ddinas wedi i nifer o siopau gau a chwmnïau mawr adael.
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2022

Mae siop Debenhams a banc yr Alliance and Leicester i'w gweld yn y fideo - dyma'r safle heddiw

Fe symudodd y siop Debenhams i adeilad newydd Canolfan Menai fel rhan o ddatblygiadau i ganol y ddinas - ond mae'r siop yma wedi cau ers tair blynedd
Yn ôl arolwg gan gylchgrawn Which?, lle’r oedd 4,700 o bobl wedi rhannu eu profiadau o drefi glan y môr Prydain, Bangor ddaeth ar waelod y tabl gyda nifer yn dweud ei fod wedi mynd â’i ben iddo.

Siop chwaraeon sydd bellach yn lleoliad hen fynediad i ganolfan siopa Wellfield. Mae'r siop drws nesaf yn wag ers i H&M gau
Ond fe wnaeth yr ymatebion hefyd ganmol nifer o bethau positif am dreftadaeth a diwylliant Bangor - gan gynnwys y pier, y gadeirlan a’r olygfa o’r Fenai.
Mae grŵp lleol a’r cyngor wedi bod yn gweithio i geisio adfywio’r ddinas a’r gobaith ydi bod rhai o’r asedau hyn am fod yn sylfaen dda i ddenu llewyrch yn ôl i’r Stryd Fawr.

Rhai o atyniadau Bangor - y Brifysgol a chanolfan celfyddydau newydd Pontio
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2022