Grwpiau sy'n 'achub bywydau' cyn-filwyr 'angen mwy o help'

Mae Jeremy Paul Robertson yn ystyried y grŵp fel teulu iddo
- Cyhoeddwyd
Mae angen mwy o help ar bobl sy'n gadael y lluoedd arfog, a rhagor o arian i ddatblygu'r cymorth sydd ar gael eisoes.
Dyna'r neges gan grŵp o wirfoddolwyr yng Nghwm Rhondda, Valley Veterans, a gafodd ei sefydlu bron i chwarter canrif yn ôl.
Llond llaw o ddynion oedd yn dod at ei gilydd bryd hynny i drafod eu pryderon dros baned mewn tŷ yn y pentref.
Erbyn hyn mae'r grŵp yn helpu hyd at 100 o gyn-aelodau'r lluoedd arfog a'u teuluoedd bob wythnos.
'Lle tywyll am 22 o flynyddoedd'
Mae Jeremy Paul Robertson ymhlith y rhai sydd wedi gweld budd o'r grŵp.
Fe dreuliodd Mr Robertson dair blynedd a hanner gyda 1 PARA, cyn ymuno â'r Heddlu Milwrol Brenhinol.
"Dwi 'di bod mewn lle tywyll iawn am 22 o flynyddoedd, dwi'n diodde' gyda PTSD", meddai.
"Heb y bobl yma, heb eu help, fydden i ddim yma. A dwi wir yn meddwl hynny, fydden i ddim yma heddiw."

Mae Alan Jones yn dod i'r grŵp i gael hwyl, ac i gofio am hen ffrindiau
Roedd Alan Jones yn aelod o'r lluoedd arfog am 37 o flynyddoedd: "Dyma un o'r grwpiau gorau o ran rhoi cefnogaeth.
"Mae'n codi'ch ysbryd chi os ydych chi'n teimlo'n isel. Ni'n dod yma i drafod yr hen fechgyn, y bechgyn ry' ni wedi colli."

Mae grwpiau fel Valley Veterans yn achub bywydau, meddai Lowri Woodington
Mae'r grŵp yn mynd o nerth i nerth, ond mae pryder nad yw cyn-aelodau'r lluoedd arfog mewn rhannau eraill o Gymru mor ffodus.
Yn ôl un o wirfoddolwyr Valley Veterans, Lowri Woodington, mae cyn-filwyr angen "mwy o arweiniad" er mwyn canfod help.
"Mae grwpiau cymorth fel Valley Veterans, does dim llawer ohonyn nhw, a mae angen i bobl allu gwybod bod 'na le iddyn nhw fynd, bod 'na help ar gael.
"Mae popeth angen mwy o arian, mwy o funding… mwy o arian, mwy o wybodaeth, lledaenu'r neges bod angen yr help yna a bod angen i fwy o bobl wirfoddoli.
"Achos mae fe literally yn achub bywydau rhai pobl."
'O 2 neu 3 i dros 100 o deuluoedd'
Os yw prysurdeb y bore coffi'n mynd yn ormod, mae cyfle i gael seibiant yn y gerddi sydd wedi eu creu gan aelodau'r grŵp.
Maen nhw'n defnyddio ceffylau fel therapi, yn plannu blodau a llysiau, ac yn gofalu am yr ieir mewn gardd gymunedol yn y pentref.
"Ma' pobl yma'n ddyddiol yn gwneud gwaith garddio, neu gyda'r ieir a'r ceffylau", meddai Rhian Roberts, un arall o'r gwirfoddolwyr.

Cyfeillgarwch a phwrpas mewn bywyd yw dau beth mawr sy'n cael eu cynnig, meddai Rhian Roberts
"Mae gyda nhw'r clwb brecwast ar gyfer y cymdeithasu a bod gyda'i gilydd a'r cameraderie ma' nhw'n gyfarwydd gyda ar ôl bod yn y lluoedd arfog, a wedyn ma' gyda nhw fan hyn ar gyfer y pwrpas, a'r rheswm i ddod yn ddyddiol a cael y budd o be' sy'n dod o'r equine therapy, y therapi ceffylau a'r garddio, a'r tawelwch sy'n dod gyda bod mas tu fas."
Mae'r nifer sy'n elwa o'r gwasanaethau wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd, ychwanegodd.
"Chi ond yn gorfod gweld faint o bobl sy 'na. Fi 'di bod ar y siwrne 'ma ers y dechre... odd dau neu dri o ddynion yn cwrdd bob wythnos, i 90 i 100 o deuluoedd sy'n dod yma'n wythnosol.
"Mae rhai yn dweud mai dyma'r rheswm ma nhw dal yma."
Mae'r elusen bellach yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd a Chyngor Rhondda Cynon Taf fel bod modd iddyn nhw helpu mwy fyth o gyn-aelodau'r lluoedd arfog a'u teuluoedd.
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cael cais am eu hymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf