O leiaf 180 yn erlyn yr MoD ar ôl cael canser

Dywedodd Anna-Louise fod ei diweddar ŵr Zach bob amser yn falch iawn o'i amser yn gwasanaethu
- Cyhoeddwyd
Mae o leiaf 180 o aelodau presennol a chyn-aelodau criw awyr y lluoedd arfog yn ceisio cael iawndal gan y Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD), gan honni bod eu canser wedi cael ei achosi gan fwg gwenwynig mewn hofrenyddion.
Bu farw'r sarjant hedfan gyda'r Awyrlu Brenhinol, Zach Stubbings o Gaerdydd, yn 47 oed ym mis Ionawr.
Mae'n un o o leiaf chwech o bobl sydd wedi derbyn setliad y tu allan i'r llys gan yr MoD, er nad ydyn nhw wedi derbyn cyfrifoldeb.
Mae grŵp sy'n cynrychioli cyn-filwyr wedi annog yr MoD i weithredu'n gyflym er mwyn diogelu'r bobl sy'n dal i wasanaethu, ac i godi ymwybyddiaeth ymhlith cyn-filwyr.
Dywedodd yr MoD nad oedden nhw'n credu bod allyriadau egsôst yn peri unrhyw risg i iechyd pobl, ond eu bod yn cynnal gwaith monitro er mwyn profi hyn.

Roedd y sarjant hedfan Zach Stubbings yn benderfynol o ganfod beth achosodd ei ganser
Cadarnhaodd yr MoD ym mis Chwefror eu bod yn ceisio darganfod faint o bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser ar ôl gwasanaethu gyda'r criw awyr.
Dywedon nhw hefyd eu bod yn profi allyriadau egsôst eu hofrenyddion.
Mae cwmni cyfreithiol o Gaerdydd wedi dweud wrth y BBC ei fod wedi derbyn ymholiadau gan 180 aelod o griwiau awyr a chyn-filwyr.
Dywedodd cwmni Hugh James eu bod yn bwriadu gwneud hawliadau yn ymwneud â phedwar hofrennydd milwrol - y Sea King, y Westland Wessex, y Puma a'r CH-47 Chinook.

Roedd Zach Stubbings yn gwasanaethu ar hofrennydd Sea King yn Ynys Môn pan gafodd ddiagnosis o myeloma
Cafodd y Sea King ei defnyddio gan Brydain mewn gweithrediadau milwrol rhwng 1969 a 2018, ac yn y gorffennol mae wedi cael ei hedfan gan y Brenin Charles a Thywysog Cymru.
Dyw'r Westland Wessex ddim wedi cael ei defnyddio ers 2003, ond mae'r Puma a'r CH-47 Chinook yn dal i gael eu defnyddio.
Mae rhai fu'n hedfan yr hofrenyddion wedi cael cyflyrau fel canser yr ysgyfaint, canser y gwddf, canser y ceilliau a rhai mathau prin o ganser y gwaed.

Fe briododd Anna-Louise a Zach yn 2020, ac mae hi bellach yn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r mater yma
Roedd y sarjant hedfan Zach Stubbings yn 33 oed pan gafodd ddiagnosis o myeloma ymledol - math o ganser y gwaed nad oes modd gwella ohono.
Mae'n effeithio'n bennaf ar bobl dros 65.
Dywedodd ei weddw Anna-Louise: "Dechreuodd feddwl, 'arhoswch funud, rwy'n ddyn 33 oed sydd wedi cael y diagnosis yma o ganser y gwaed sydd ddim yn gyffredin mewn dynion yn eu tridegau... Dwi am edrych mewn i hyn'."
Fe wnaeth y cwpl gwrdd ar ôl ei ddiagnosis, ac fe briodon nhw yn 2020.
'Gwybod bod ei amser yn brin'
Dywedodd Anna-Louise bod Zach yn gwybod bod ei amser yn brin, ac roedd yn benderfynol o ddeall beth achosodd ei ganser ac i godi ymwybyddiaeth.
Dysgodd bod pobl eraill oedd wedi gweithio ar awyrennau milwrol hefyd wedi cael diagnosis o ganser.
"Doedd Zach byth yn chwerw... roedd yn ddyn caredig iawn ac roedd yn caru ei flynyddoedd yn gwasanaethu," meddai Anna-Louise.
Cafodd achos Zach ei setlo, heb i'r MoD dderbyn cyfrifoldeb.
'Parhau â gwaith Zach'
"Roedd y setliad hwnnw'n rhoi cyfle i Zach gael rhyw fath o iawndal, ond yn bwysicach fyth, i allu creu rhai atgofion," meddai Anna-Louise.
Mae hi bellach yn canolbwyntio ar barhau â gwaith Zach i annog yr MoD i lansio rhaglen sgrinio canser a chodi ymwybyddiaeth o'r mater i griwiau awyr a chyn-filwyr.
"Faint mwy o bobl sydd ddim yn ymwybodol?" meddai.
"Faint o bobl sydd ddim yn gwybod oherwydd dydyn nhw ddim wedi cael eu sgrinio?
"Faint o bobl sydd ddim yn gwybod beth sydd ar y gorwel?"

Mae Louisa Donaghy wedi cyflwyno 50 cais am iawndal i'r MoD, ac wedi cael chwe achos wedi'u setlo
Mae cyfreithiwr Zach, Louisa Donaghy, wedi bod yn gweithio drwy ymholiadau gan gyn-filwyr a chriwiau awyr sydd â chanser, ac mae wedi cyflwyno 50 cais am iawndal hyd yn hyn.
"Dwi'n teimlo bod hyn ond yn codi cwr y llen," meddai Ms Donaghy, o adran filwrol Hugh James yng Nghaerdydd.
"Mi fydd pobl allan yna sydd ddim yn gwybod bod ganddyn nhw ganser ac yn cael diagnosis yn y dyfodol."
'Gallai hyn fod wedi cael ei atal'
Wrth gyfeirio at y chwe achos a gafodd ei setlo heb i'r MoD dderbyn cyfrifoldeb, dywedodd y bu'n rhaid iddi sefydlu bod gan yr MoD ddyletswydd gofal i'w gweithwyr, ac nad oedden nhw wedi cyflawni'r ddyletswydd honno.
"Mae'r bobl rwy'n eu cynrychioli, heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain, wedi bod yn agored yn ddiangen am gyfnodau hir - ac am filoedd o oriau hedfan - i'r mwg gwenwynig yma," meddai.
"Ac fe allai hyn fod wedi cael ei atal pe bai'r MoD wedi rhoi PPE ychwanegol fel masgiau ffiltro, a fyddai wedi lleihau eu cysylltiad â'r mwg."

Mae Graham Jones am i'r MoD rybuddio criwiau awyr presennol a'r gorffennol am y peryglon posibl
Mae elusen i gyn-filwyr wedi galw ar yr MoD i fod yn fwy rhagweithiol i godi ymwybyddiaeth.
"Dydw i ddim yn credu bod yr MoD yn mynd yn ddigon pell," meddai Graham Jones o Woody's Lodge.
"Mae angen i ni gyfleu'r neges honno i gymuned y cyn-filwyr a chael pobl trwy broses sgrinio fel y gallan nhw gael arwydd cynnar o ganser, ac yna efallai y byddai hyn yn golygu cyfradd well o ran y cyn-filwyr sy'n goroesi."
Dywedodd Mr Jones nad yw llawer o gyn-filwyr lle mae'n byw yng ngogledd Cymru yn ymwybodol o'r mater.
"Roedden ni i gyd yn gwybod pan wnaethon ni wasanaethu yn y lluoedd arfog y byddai rhai risgiau, ond roedden nhw'n dod o wrthdaro," meddai.
"Dydych chi ddim yn ei ddisgwyl o'r offer rydych chi'n ei ddefnyddio."

Mae AS lleol Zach yng Nghaerdydd, Julie Morgan, wedi annog yr MoD i gynnal eu hymchwiliadau cyn gynted â phosib
Mae'r Aelod o'r Senedd dros Ogledd Caerdydd, Julie Morgan am i PPE gael ei gyflwyno ar gyfer y rhai sy'n dal i wasanaethu ar hofrenyddion Puma a Chinook.
Mae hefyd yn galw am raglen sgrinio canser i filwyr presennol a chyn-filwyr.
"Mae'n bwysig iawn cofio bod hyn yn ymwneud â bodau dynol, mae'n ymwneud â theuluoedd sy'n bryderus iawn... ac mae fy etholwr wedi marw," meddai.
"Mae'n destun pryder mawr.
"Dylai'r MoD fod mor dryloyw ag y gallen nhw fod ac rwy'n eu hannog i barhau â'u hymchwiliadau mor gyflym ag y gallan nhw, gan fod hynny'n ddyledus i bobl."
'Ddim yn credu bod risg'
Dywedodd yr MoD nad ydyn nhw'n credu bod allyriadau egsôst yn peri unrhyw risg i iechyd pobl, ond eu bod yn cynnal gwaith monitro er mwyn gallu profi hyn.
Ym mis Mai fe wnaeth yr Independent Medical Expert Group (IMEG), sy'n cynghori'r MoD, adolygu tystiolaeth am gysylltiad posibl rhwng allyriadau egsôst o hofrenyddion Sea King a chanserau prin - yn benodol myeloma ymledol a leiomyosarcoma.
Doedd y dystiolaeth gafodd ei chanfod ddim yn ddigon i sefydlu bod yna berthynas achosol glir.
Ychwanegodd datganiad: "Mae unrhyw farwolaeth yn drychineb ac mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu a ffrindiau Zach Stubbings."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
- Cyhoeddwyd5 Mehefin