Medalau newydd i arwr D-Day, 101, yn lle rhai gafodd eu dwyn

Tony Bird gyda'i fedalau yn ystod digwyddiad ar gyfer cyn-aelodau'r lluoedd arfog yng Nglanaman ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae medalau newydd wedi eu cyflwyno i gyn-forwr Ail Ryfel Byd ar ôl i'w rai gwreiddiol gael eu dwyn 55 mlynedd yn ôl.
Roedd Tony Bird, sy'n 101 oed ac o Freshwater East yn Sir Benfro, yn aelod o'r Llynges Frenhinol yn ystod y gwrthdaro, ac yn rhan o ymgyrch Glaniadau D-Day yn 1944.
Mewn digwyddiad gyda Military Veterans Club Cymru yng Nglanaman ddydd Llun, fe gafodd y medalau newydd eu rhoi i Mr Bird er mwyn nodi ei ddewrder yn y brwydro.
"Yn 1970, symudais o Sir Gaerloyw i Sir Benfro," eglurodd.
"Doedd y tŷ wnes i brynu ddim yn barod, felly fe wnes i roi llawer o bethau mewn storfa, gan gynnwys medalau.
"Fe wnes i ddarganfod tua dwy flynedd yn ddiweddarach eu bod wedi cael eu dwyn."

Tony Bird (rhes flaen, trydydd o'r chwith) yn gadét yn Michigan yn yr Unol Daleithiau yn 1943, fel rhan o gwrs ar gyfer darpar beilotiaid
Fe gafodd casgliad o bedair medal eu rhoi i Mr Bird ddydd Llun.
"Wnes i ddim gweld eu heisiau ar y pryd mewn gwirionedd," dywedodd.
"Ond, y dyddiau hyn gyda'r gwirfoddolwyr rhyfeddol hyn yn coffáu'r D-Day, VJ Day, VE Day, mae angen i rywun wisgo ei fedalau.
"Yn garedig iawn, mae cymdeithas y Llynges Frenhinol wedi rhoi rhai newydd i fi.
"Rwy'n teimlo'n falch iawn a bydd fy mhlant yn falch iawn o'u cael. Mae gen i dri o blant felly bydd yn rhaid i fi eu rhannu!"
'Dyn diymhongar' sy'n 'ysbrydoliaeth'
Ar ôl y rhyfel, fe gafodd Mr Bird ei anfon i'r Dwyrain Pell cyn iddo adael y Llynges Frenhinol yn 1946 i ymuno â busnes peirianneg amaethyddol y teulu.
Eglurodd cadeirydd y grŵp cyn-filwyr, Owen Dobson, bod Mr Bird yn ddyn "diymhongar".
"Ry'n ni wedi llwyddo i'w berswadio heddiw i ddod draw a chael ei fedalau wedi'u cyflwyno iddo," meddai Mr Dobson.
"Mae'n hanfodol bwysig i Tony a'i deulu, ac wrth gwrs i'r cyhoedd yn ehangach, oherwydd mae'n rhaid i ni gofio popeth wnaethon nhw er mwyn ein rhyddid ni heddi'."

Owen Dobson, Wanda Bolton a Max Boyce - tri o'r rhai oedd yn falch o weld y gydnabyddiaeth yn y digwyddiad i Tony Bird
Dywedodd aelod arall o'r clwb, Wanda Bolton, fod Mr Bird yn "ddyn eithaf swil".
"Mae hyn yn wych. Fi wedi cwrdd â Tony sawl gwaith lawr yn Sir Benfro.
"Mae'n berson 'itha' preifat ond ni mor falch bo' nhw wedi ei berswadio fe i ddod 'ma heddi' i gael ei fedalau."
Wrth i glwb y cyn-filwyr ddathlu eu pen-blwydd cyntaf yn ystod y digwyddiad ddydd Llun, roedd y diddanwr Max Boyce yno'n westai arbennig.
"Mae'r rhain yn bobl arbennig," meddai, "a Tony gyda'i holl fedalau - mae'n ysbrydoliaeth i ni i gyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2024