3 Llun: Lluniau pwysicaf Dilwyn Morgan

Dilwyn Morgan
  • Cyhoeddwyd

Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?

Y cyflwynydd, digrifwr a'r cynghorydd sir, Dilwyn Morgan sy'n trafod rhai o'i hoff luniau gyda Cymru Fyw.

Tŷ Nain a Taid DilwynFfynhonnell y llun, Dilwyn Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dilwyn wrth ei fodd yn mynd i dŷ ei Nain a'i Daid

Wel dyma i chi rhywbeth anodd! Dewis tri llun i gynrychioli fy mywyd hyd yma.

Y peth ydy mae llun yn rhyw fath o snapshot o eiliad mewn amser, ond yn rhywbeth sy'n dod ag atgofion cryf o le, pobol neu achlysur.

Felly ar ôl chwalu a thwrio drwy ambell i hen albym a bocseidiau o luniau dyma ddewis tri.

Dyma lun teuluol sydd yn fwrlwm o atgofion o fynd ar wyliau i dŷ Taid a Nain, Ernest a Margaret, yn Llanelwy. Dad, Mam, Taid, Nain, Fi a fy chwaer yn ei phonsio ffasiynol ar y pryd.

Roedd mynd ar wyliau i dŷ Taid a Nain yn arbennig iawn a dwi 'rioed yn cofio cael unrhyw hiraeth yno er fod Llanelwy yn bell iawn o Garnfadryn, yn enwedig mewn Ford Anglia.

Byddai fy nhad yn paratoi am ddiwrnodiau cyn gwneud y siwrna... checio oel, anti-freeze (hyd yn oed yn ganol yr Haf), oel gêrbocs ,pob dim!!

Byddai Nain yn un dda am fynd â ni i ar y bws i Rhyl a Llanerch Sŵ Park a hyd yn oed Castell Gwrych.

Byddai ci Nain a Taid, Judy, yn ein cofio a byddai croeso ganddi bob amser. A wedyn yr uchafbwynt oedd cael mynd at yr afon i nofio ac adeiladu "dam".

Os bydda ni'n blant direidus a braidd yn fywiog yna bydda na sgwner o sherry bob un gan Nain i wneud yn siŵr bo ni'n cysgu yn iawn. Diolch Nain.

Dilwyn yn SouthamptonFfynhonnell y llun, Dilwyn Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Cyfnod Dilwyn ar y môr. Mae Dilwyn yn sefyll ar ben chwith yr ail rês

Dyma gychwyn ar gyfnod o antur yn 17 oed.

Criw ohonom fel cadetiaid yn cael ein hyfforddi lawr yn Southampton. Pawb yn edrych braidd yn betrusgar yn disgwyl yr alwad i'r antur nesa'. Pawb yn ei lifrau yn hynod smart ond roeddwn i wastad yn cael "Taff, is it your cap that's crooked or your bl***y head?"

Bu'r cyfnod ar y môr (ac ynddo weithiau) yn amser dwi'n fethu fwyaf am ŵn i, ac eleni mae gennym ni aduniad 50 mlynedd ers i wyth ohonom gael ein taith gyntaf yn cychwyn o Mwmbai am gwlff Persia, Awstralia a Singapore.

Dyma'r rhan o'r byd y byddwn yn treulio llawer o amser dros y blynyddoedd nesa ac roedd yn wir yn ysgol brofiad a hanner.

Priodas Gwydion a SiwanFfynhonnell y llun, Dilwyn Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Dydd priodas merch Dilwyn, Siwan gyda'i gŵr Gwydion a'r plant, Owen a Ned.

Taswn i wedi cael dewis 100 o luniau, mae'n siwr y byddwn wedi methu llawer allan.

Yr heriau beicio, yr heriau hwylio (gan gynnwys Codi Hwyl ac anturiaethau efo John Pierce Jones), Yr Urdd a Glan Llyn, rhedeg tafarn, y motorbeicio a finna yn aelod llawn or Winsconsin Hogs (Hell's Angels go iawn).

Ond dwi wedi dewis y llun yma fel rhyw gipolwg i'r dyfodol.

Priodas fy Merch Siwan a Gwydion yn 2024 ar ddau sgiamp Owen a Ned fy wyrion sydd yn gwneud eu gorau drwy lawer antur i nghadw yn ifanc.

Dau sgally-wag go iawn!