Busnesau Aberaeron yn troi at CCTV i daclo lladrata 'sylweddol'

Canol tref Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Mae pob busnes yn Aberaeron bellach dan warchodaeth system teledu cylch cyfyng, yn ôl y cynghorydd lleol

  • Cyhoeddwyd

Mae busnesau Aberaeron wedi dechrau defnyddio system teledu cylch cyfyng (CCTV) i fynd i'r afael â'r "broblem sylweddol" o ladrata yn yr ardal.

Yn ôl y Cynghorydd lleol Elizabeth Evans, mae pob busnes yn y dref bellach dan warchodaeth y camerâu.

Dywedodd ar raglen Dros Frecwast fod busnesau yn y dref wedi cael eu heffeithio'n fawr gan achosion o ddwyn a bod siopau a'r heddlu'n bellach yn gweithredu er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r broblem.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn annog pobl i gysylltu â nhw yn dilyn pob achos o siopladrata.

Elizabeth Evans
Disgrifiad o’r llun,

"Mae pob siop nawr efo CCTV... ond mae'n dal i ddigwydd," meddai'r cynghorydd Elizabeth Evans

Dywedodd y cynghorydd Evans fod yr "effaith yn bwrw ni gyd yn enwedig yn ein trefi bach".

"Mae'n effeithio busnesau bach hefyd [yn ogystal â rhai mwy] - pobl busnesau bach sy'n trio'n galed i wneud bywoliaeth, mae hyn yn bwrw nhw ac mae'r gost yn sylweddol."

Dywedodd ei bod yn teimlo yn y gorffennol nad oedd yr heddlu wedi rhoi digon o sylw i achosion o ddwyn mewn siopau yn y gorffennol.

Ond mae Heddlu Dyfed Powys bellach wedi "cynyddu'r ymateb i adroddiadau o ladrata mewn siopau yn enwedig mewn lleoliadau ble mae'n digwydd tro ar ôl tro," meddai.

'Pob siop nawr efo CCTV'

Ychwanegodd Ms Evans y bydd y buddsoddiad gan fusnesau lleol yn cynnig gwerth am arian ond na fydd yn rhoi diwedd ar y broblem yn gyfan gwbl.

"Mae pob siop nawr efo CCTV, mae hynna'n costio arian hefyd ond mae'n dal i ddigwydd," meddai.

"Maen nhw mor effeithiol a gobeithio bydden nhw'n neud i bobl feddwl dwywaith."

Nododd y cynghorydd bod angen hefyd edrych ar y rhesymau tu ôl i'r broblem, fel y cynnydd diweddar mewn costau byw.

Ond dywed hefyd bod "rhai pobl yn meddwl bo' hawl 'da nhw - ac weithiau nid y rhai sydd wir angen sydd yn gwneud".

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: "Rydym yn deall yr effaith y gall achosion o ladrata eu cael ar fusnesau bach, eu staff, a'r gymuned.

"Mae ein timau Plismona Cymdogaeth yn ymgysylltu â busnesau.

"Rydym yn annog pobl i adrodd unrhyw ddigwyddiadau neu bryderon i ni, gan ganiatáu i ni sicrhau y gallwn ymateb yn effeithiol i anghenion ein cymunedau a chynyddu'r siawns o ganlyniadau cadarnhaol i fusnesau, gan lunio ein blaenoriaethau plismona lleol hefyd.

"Mae ein timau hefyd yn adolygu troseddau o'r fath i nodi tueddiadau, nodi unigolion amheus (megis o gamerâu cylch cyfyng) a chyflwyno dull datrys problemau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.