'Gobeithio symud llyfrgell Aberaeron erbyn yr haf'
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i'r cynllun dadleuol o symud llyfrgell Aberaeron o ganol y dref i adeilad ar gyrion neuadd y sir ym Mhenmorfa gael ei gwblhau erbyn canol 2025, medd llefarydd ar ran y cyngor.
Ym mis Hydref, fe wnaeth cabinet Cyngor Ceredigion gymeradwyo cynnig i adleoli llyfrgell Aberaeron, er bod nifer o bobl wedi dweud eu bod yn gwrthwynebu'r cynllun.
Dywed Cyngor Ceredigion y bydd symud y llyfrgell o'i safle presennol yng nghanol y dref i bencadlys y cyngor ar y cyrion yn helpu i arbed £70,000.
Ond mae mwyafrif y bobl a ymatebodd i ymgynghoriad cyhoeddus yn credu na fydd yr adleoliad yn arwain at arbedion nac yn annog mwy o bobl i ddefnyddio'r llyfrgell.
Mae Aberaeron yn un o bedair prif lyfrgell yng Ngheredigion – mae'r lleill yn Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus tebyg ar ddyfodol llyfrgell Llanbedr Pont Steffan yn sgil pwysau ariannol.
Yn ôl Cyngor Ceredigion fe fydd y newid yn golygu creu llyfrgell newydd yn swyddfeydd Penmorfa "i foderneiddio'r ddarpariaeth", gyda'r nod o gynyddu defnydd o'r llyfrgell, cynyddu oriau agor, gwella cyfleusterau i blant a sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy yn ariannol ac amgylcheddol.
Fe wnaeth oddeutu 900 ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus - y mwyafrif llethol yn erbyn symud o neuadd y dref.
Roedd yna bryderon y byddai busnesau lleol yn dioddef ac y byddai llai o bobl yn dod i'r dref i gymdeithasu.
Roedd eraill yn poeni bod y lleoliad newydd yn rhy bell - yn enwedig i rai sydd ag anableddau.
Ym mis Hydref dywedodd y cynghorydd lleol - Elizabeth Evans - bod yn rhaid ailystyried y penderfyniad a chadw'r llyfrgell yn yr adeilad presennol.
"Mae hyder y cyhoedd ar ei liniau, a gallaf weld pam," meddai.
Ers hynny, mae'r Cynghorydd Evans wedi mynegi pryderon am yr amserlen ar gyfer symud: "Nid yw'r amserlen ar gyfer symud llyfrgell y dref i Benmorfa yn hysbys o hyd, ac mae pawb yn dal yn flin iawn am y penderfyniad," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: "Mae proses dendro ar waith ar hyn o bryd i gontractwyr adeiladu gwblhau'r gwaith, gyda'r dyddiad cychwyn disgwyliedig ym mis Chwefror a'r dyddiad gorffen ym mis Mehefin 2025."
'Casgliad gwell o lyfrau'
"Bydd y manylion diweddaraf am gynnydd y gwaith yn cael eu rhannu ar ôl i gontractwyr gael eu penodi," ychwanegodd llefarydd.
"Bydd y llyfrgell newydd yn fwy a bydd ganddi gasgliad gwell o lyfrau gyda chasgliad plant llawer gwell.
"Bydd ffocws newydd ar les a llawer mwy o le ar gyfer gweithgareddau, astudio a llu o adnoddau digidol newydd.
"Bydd y llyfrgell newydd ar agor am oriau hwy yn ystod yr wythnos yn ogystal â boreau Sadwrn.
"Ar adeg o gyllid heriol, rydym yn edrych ymlaen at ddechrau ar y prosiect hwn i wella a diogelu cyfleusterau llyfrgell a chysylltiadau cwsmeriaid yn Aberaeron.
"Rydym hefyd yn buddsoddi yn ein hadnoddau digidol ar gyfer holl ddefnyddwyr Ceredigion ac rydym yn annog pawb i ymuno â llyfrgell yn bersonol neu drwy ein tudalennau ar-lein er mwyn manteisio ar yr holl adnoddau gwych sydd ar gael."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref
- Cyhoeddwyd16 Mehefin