Y teulu o Faesteg a'u cwmni deifio yn Yr Aifft

Deifiwr o dan y môrFfynhonnell y llun, Nigel Wade/Elite Diving
  • Cyhoeddwyd

Pan roedd yn ifanc, roedd Alun Evans yn breuddwydio am gael deifio o dan y môr fel Jacques Cousteau, ei arwr o'i hoff raglen deledu.

Dros hanner canrif yn ddiweddarach, mae'n byw'r freuddwyd, ac yn rhedeg cwmni deifio llwyddiannus gyda'i deulu draw yn Sharm El-Sheikh yn Yr Aifft.

"Oedden ni'n deifio yng Nghymru am flynyddoedd cyn dod yma," eglurodd wrth BBC Cymru Fyw.

"Roedd deifio wedi dechrau dod yn fwy poblogaidd, a dechreuodd clybiau bach o amgylch y wlad. 'Nes i ddysgu gyda chlwb Port Talbot gynta', ac wedyn o'n i gyda Chlwb Deifio Ogwr am tua 20 mlynedd.

"O'dden ni'n deifio yn Sir Benfro, yr Alban, Ynysoedd y Sianel, ac wrth gwrs ddaethon ni yma i Sharm."

crwban y môrFfynhonnell y llun, Nigel Wade/Elite Diving
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na lawer o greaduriaid i'w gweld oddi ar yr arfordir yng nghyffiniau Sharm El-Sheikh

Mae Sharm El-Sheikh yn un o lefydd gorau'r byd ar gyfer deifio, ac roedd Alun a'i wraig Moyra wrth eu boddau yn gweld yr holl olygfeydd a chreaduriaid o dan y tonnau.

Blwyddyn mas

Felly pan gollodd Alun ei swydd fel cynghorydd ariannol yn ardal Maesteg, penderfynodd ddefnyddio'r tâl diswyddo i fynd yn syth yn ôl i'r Aifft i wneud cymhwyster i fod yn hyfforddwr deifio.

"Pan o'n i'n gwneud y cwrs, 'nath y perchennog yna ofyn i mi weithio yna full-time. O'n i eisiau bach o saib o weithio adre, a falle mynd 'nôl mewn blwyddyn. O'n i'n ei alw yn gap year, ond o'n i'n 46 pryd 'ny, felly roedd pawb yn dweud mai sabbatical oedd e!

Alun yn deifioFfynhonnell y llun, Nigel Wade/Elite Diving
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun wrth ei fodd pan mae'n deifio

"O'dden ni'n cael o sbort, ac o'n i'n meddwl fydd rhaid i fi fynd yn ôl i weithio yn y swydd o'n i'n ei 'nabod. Ond beth wnaeth i ni aros yma oedd 'naethon ni golli sawl ffrind yn ifanc, a feddylion ni 'ni'n byw fan hyn, ry'n ni'n hapus ofnadwy... a mae bywyd yn rhy fyr'.

Felly aeth Alun a Moyra ati i sefydlu eu cwmni deifio eu hunain.

Huw, Alun a GwynFfynhonnell y llun, Elite Diving
Disgrifiad o’r llun,

Alun (canol) gyda'i feibion, Huw a Gwyn. Mae'r ddau fab wedi gweithio i'r cwmni dros y blynyddoedd, a Gwyn yw rheolwr y ganolfan, bellach

Ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae'r cwmni'n mynd o nerth i nerth; mae ganddyn nhw 18 o staff llawn amser, a phob un yr un mor angerddol am ddeifio â'r perchnogion.

"Roedd rhai o'r cwmnïoedd deifio eraill mor fawr, roedden nhw fel ffatri braidd. Felly 'nes i ddechrau ar ben fy hun, i roi personal service i bobl. Mae'r cwsmeriaid yn cwrdd â Moyra a fi bob dydd, ar ôl y cwch cyn mynd yn ôl i'r gwesty, fy mab hynaf, Gwyn, yw rheolwr y ganolfan a mae pawb sy'n gweithio 'da ni yn glos iawn.

"Dyna'r awyrgylch ni wedi ei greu, fel o'n ni yn y clwb deifio 'nôl adre. Roedd teimlad grêt yno; pawb yn dod 'mlaen a chwrdd i ddeifio a chymdeithasu a chael sbort. Dyna fodel y cwmni yma. Ac mae pobl yn dod 'nôl dro ar ôl tro i ddeifio gyda ni."

Morya ac Alun gyda thystysgrifauFfynhonnell y llun, Elite Diving
Disgrifiad o’r llun,

Moyra ac Alun yn dathlu ennill gwobrau'r ganolfan ddeifio orau a'r hyfforddwr gorau mewn seremoni wobrwyo yn 2019

Mae'r cwsmeriaid yn amlwg yn hapus; mae Elite Diving wedi cael ei enwi yn gwmni deifio gorau'r byd deirgwaith, a'r cwmni deifio gorau yn y Môr Coch hyd yn oed mwy o weithiau, sydd yn gwneud iddyn nhw deimlo'n falch ofnadwy, meddai Alun.

Ddim angen bod ofn siarcod!

Daw pobl o bell ac agos i ddeifio lleoliadau trawiadol ger Sharm El-Sheikh, a phawb eisiau cael gweld creaduriaid y môr yn agos; y cwrel, y pysgod a'r morgathod neidiol (manta rays).

A does dim rhaid poeni am fod yn rhy agos at siarcod, eglurodd Alun:

"Mae'r deifwyr am weld siarcod, ond dydyn ni ddim yn gweld gymaint â liciwn ni! Dydyn nhw ddim yn hoffi'r swigod mae deifwyr yn eu creu, felly maen nhw'n aros i ffwrdd. Falle'n edrych ychydig bach ond wedyn yn mynd.

"Dim pobl yw eu bwyd nhw. Dwi wedi bod yn y môr gyda phedwar tiger shark o amgylch fi. Doedden nhw ddim eisiau ni o gwbl; y cwbl oedden nhw eisiau oedd pysgod eraill, neu bethau marw.

Deifiwr a haig o bysgodFfynhonnell y llun, Nigel Wade/Elite Diving

"Nawr yw'r tymor gorau i ddeifio i weld heigiau mawr o siarcod hammerhead.

"Ni wedi bod yn gweld rhai unigol yn dod 'nôl a 'mlaen. Ond mae 'na le yn yr haf lle maen nhw'n dod gyda'i gilydd pan mae'r dŵr wedi twymo, ac mae criw mawr yn mynd o'n cwmpas ni."

Nôl i Gymru?

Mae'r pâr yn dychwelyd i Gymru bob hyn a hyn, i ymweld â theulu, ac wedi prynu tŷ yn Sir Benfro, yn yr ardal roedden nhw mor hoff o ddeifio ynddi, yr holl flynyddoedd hynny yn ôl.

Mae'r tywydd yn Sharm El-Sheikh yn llawer brafiach nag yn ôl yng Nghymru fach, wrth gwrs, gyda'r tymheredd yn cyrraedd tua 20C yn y gaeaf ac yn codi i 45C yn yr haf.

Felly ar ôl 23 o flynyddoedd, ydi'r cwpwl o Faesteg wedi cyfarwyddo â gwres tanbaid yr Aifft?

"Oherwydd ni'n byw yma, mae'r corff yn dod i arfer ychydig. Ac ry'n ni'n treulio'r dydd tu fewn yn y swyddfa gydag air-con. Ar y bws i fynd i'r cwch, mae air-con. Mae 'na awel y môr ar y cwch, a chysgod..."

Felly efallai bod Cymry byth yn dod i arfer â gwres mawr wedi'r cwbl?!

Cwch EliteFfynhonnell y llun, Elite Diving
Disgrifiad o’r llun,

Diolch byth am awel y môr ar y cwch, yng nghanol gwres llethol Sharm El-Sheikh

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig