Polisi ail gartrefi newydd Gwynedd i wynebu adolygiad barnwrol

Bwriad Erthygl 4 ydy gorfodi unrhyw un sydd am drosi cartref eiddo yn ail gartref i dderbyn sêl bendith gan bwyllgor cynllunio'r awdurdod perthnasol
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu mesurau sy'n ei gwneud hi'n anoddach i drosi eiddo i fod yn ail gartref wedi cael yr hawl i gynnal adolygiad barnwrol.
Yn dilyn gwrandawiad cychwynnol ym mis Rhagfyr, mae barnwr Uchel Lys wedi dod i'r casgliad y dylid cynnal gwrandawiad i ystyried un o'r honiadau sy'n cael eu gwneud gan yr ymgyrchwyr - bod Cyngor Gwynedd wedi camddeall y newidiadau i'r drefn gynllunio gafodd eu gwneud yn 2022.
Fe wnaeth Mr Ustus Pepperall wrthod pedwar honiad arall gafodd eu cyflwyno gan Enlli Angharad Williams.
Cyngor Gwynedd oedd yr awdurdod lleol cyntaf wneud defnydd o'r rheoliadau sy'n cael eu hadnabod fel Cyfarwyddyd Erthygl 4 - sy'n ei gwneud yn orfodol i sicrhau caniatâd cynllunio cyn gallu troi tŷ yn ail gartref neu lety gwyliau.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Fe wnaeth y Cyngor gyflwyno'r Cyfarwyddyd Erthygl 4 i geisio rheoli'r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau o fewn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd.
"Daeth y newid hwn i rym ar 1 Medi, 2024, sy'n golygu bod yn rhaid i berchnogion eiddo wneud cais am ganiatâd cynllunio i ddefnyddio prif breswylfa fel ail gartref, llety gwyliau tymor byr neu at ddefnydd cymysg penodol.
"Byddwn yn ystyried y datblygiad hwn a'n camau nesaf, gan nodi fod penderfyniad y barnwr yn rhoi caniatâd am wrandawiad ar un sail, ac nad yw'n ddyfarniad terfynol."
Bydd y ddwy ochr yn cyflwyno eu dadleuon yn llawn mewn gwrandawiad sydd eto i'w bennu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Chwefror