Ffonau symudol rhieni yn achub cyngerdd ysgol a gollodd bŵer

Fe gollodd pentref Llanrhaeadr drydan ar ddechrau cyngerdd Nadolig Ysgol Bro Cinmeirch
- Cyhoeddwyd
Roedd effaith y tywydd garw yn amlwg ar draws Cymru yr wythnos ddiwethaf, ond ni lwyddodd i ddifetha ysbryd y Nadolig mewn un ysgol yn y gogledd.
Wrth i blant Ysgol Bro Cinmeirch yn Llanrhaeadr, Sir Ddinbych, ddechrau diddanu rhieni gyda charolau, torrodd y cyflenwad trydan yn ddirybudd.
Ond diolch i ganhwyllau a golau ffonau symudol y rhieni, fe aeth y sioe yn ei blaen.
I un disgybl naw oed, Nansi, roedd y cyfan wedi gwneud i'r cyngerdd "deimlo'n fwy Nadoligaidd".
Yng nghanol y tywyllwch, "aru pawb cael ffonau symudol a chwifio nhw o ochr i ochr, ac o'n i efo canhwyllau o'r gân gyntaf ac o'n i'n canu efo nhw i bob cân", meddai Nansi ar y Post Prynhawn.
Fel pob perfformiwr da, dywedodd Nansi bod "pawb wedi dyfalbarhau a cario ymlaen", a sicrhau cyngerdd cofiadwy i'r rhieni a'r plant.

Perfformiodd y plant stori'r geni trwy ganu carolau traddodiadol - yng ngolau ffonau symudol y rhieni
Cyngerdd draddodiadol oedd hi yng nghapel y pentref, gyda'r plant yn adrodd stori'r geni a chanu carolau.
Ond yn dilyn y gân gyntaf, collodd yr holl bentref eu trydan.
Dywedodd tad Nansi, Rhys, ei bod hi'n gyngerdd cofiadwy er gwaetha'r diffyg pŵer: "Roedden ni'n crafu ein pennau, doedd neb yn gwybod beth oedd yn digwydd.
"Yna roedden ni wedi sylweddoli bod trydan yn yr holl bentref wedi mynd i ffwrdd."
Dywedodd Rhys bod y pianydd "heb roi nodyn o'i le, er nad oedd hi'n gallu gweld ei chopi".
Roedd Nansi'n chwarae rhan angel yn y sioe, a dywedodd ei thad bod "cyngerdd hen ffasiwn wedi talu ffordd".
"Roedd y plant wedi parhau ac ni aeth unrhyw beth o'i le."
Ychwanegodd prifathrawes yr ysgol, Ffion Higgins: "Er gwaethaf y trydan roedd hi'n noson llwyddiannus a naws Nadoligaidd iddi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2021