Gweithiwr iechyd yn cyfaddef troseddau rhyw yn erbyn plant

Tracy Turner yn cael ei thywys i'r llys ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae dau o bobl o Gaerdydd - un ohonynt yn weithiwr iechyd - wedi pledio'n euog i nifer o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Mae Tracy Turner, 51 oed o ardal y Rhath - sy'n gynorthwyydd theatr yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas - wedi cyfaddef i chwe chyhuddiad o drefnu i gyflawni troseddau rhyw yn erbyn plant, a dau gyhuddiad o wneud delweddau anweddus o blentyn.
Plediodd Stuart Compton, 45 oed o ardal Cathays, hefyd yn euog i chwe chyhuddiad o drefnu i gyflawni troseddau rhyw yn erbyn plant.
Yn wreiddiol cafodd y ddau eu cyhuddo o gynllwynio i lofruddio, ond dywedodd yr erlyniad wrth y llys bod y cyhuddiadau hynny wedi cael eu gollwng erbyn hyn.

Plediodd Stuart Compton yn euog i chwe chyhuddiad o drefnu i gyflawni troseddau rhyw yn erbyn plant
Plediodd y diffynyddion yn ddieuog i nifer o gyhuddiadau eraill, gan gynnwys cynllwynio i dreisio merch, cynllwynio i ymosod yn rhywiol, a herwgipio.
Bydd y cyhuddiadau hynny nawr ar ffeil.
Cafodd y ddau ddiffynnydd eu cadw yn y ddalfa, a byddan nhw'n cael eu dedfrydu ar 28 Gorffennaf.
Fe gawson nhw rybudd gan y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke fod dedfryd o garchar yn anochel.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro bod Turner wedi cael ei diswyddo ar 12 Mawrth eleni, a'u bod wedi cydweithio â'r heddlu trwy gydol eu hymchwiliad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr