Gobeithion timau Cymreig yr EFL o gynrychioli Cymru yn Ewrop ar ben?
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi gwrthod cynnig i ganiatáu timau Cymreig sy'n cystadlu dros y ffin i gael y cyfle i gynrychioli Cymru ar lefel Ewropeaidd.
Roedd clybiau Caerdydd, Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd wedi bod yn cyd-weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) ar gynlluniau "trawsnewidiol" i ad-drefnu Cwpan y Gynghrair.
Fel rhan o gynlluniau 'Prosiect Cymru' fe fyddai'r clybiau sy'n cystadlu ym mhyramid Lloegr yn herio 12 tîm prif gynghrair Cymru y tymor nesaf, gyda'r enillydd yn cael lle yn rownd ragbrofol Cyngres UEFA.
Ond ar ôl i'r Gynghrair Bêl-droed yn Lloegr (EFL) a rhai clybiau godi pryderon, cafodd y cynlluniau eu gwrthod gan fwrdd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr mewn cyfarfod ddydd Iau.
- Cyhoeddwyd13 Ionawr
- Cyhoeddwyd30 Medi 2024
- Cyhoeddwyd27 Medi 2024
Mae'r penderfyniad yn ergyd i CBDC oedd wedi dadlau y byddai'r newidiadau wedi cael effaith "trawsnewidiol" ar bêl-droed yng Nghymru.
Roedden nhw'n dweud y byddai Cwpan y Gynghrair ar ei newydd wedd wedi codi £3m bob tymor - arian fyddai'n cael ei fuddsoddi mewn prosiectau pêl-droed llawr gwlad.
Roedd y clybiau, ar y cyfan yn gefnogol, tra bod UEFA hefyd wedi rhoi sêl bendith i'r cynlluniau.
Ond er nad oedd yr EFL wedi gwneud sylw cyhoeddus ar y mater cyn y cyfarfod ddydd Iau, roedd yna awgrym fod yna bryderon ynglŷn â nifer y gemau ychwanegol a'r ffaith y gallai'r cynlluniau roi mantais ariannol annheg i glybiau Cymru.
Roedd CBDC wedi dweud na fyddai'r clybiau yn cynnwys unrhyw arian oedd yn cael ei ennill drwy'r gystadleuaeth yn eu cyfrifon PSR (system rheolaeth ariannol y Gynghrair Bêl-droed).
CBDC 'wedi eu siomi'
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr mewn datganiad eu bod "wedi cynnal ymgynghoriad dwys gyda'u rhanddeiliaid", a'u bod yn gwrthod y cynigion yn sgil "pryderon ynghylch a thegwch y gystadleuaeth, nifer y gemau a lles y chwaraewyr, a'r effaith ar gystadlaethau eraill".
"Mae'r clybiau Cymreig yn agored i benderfynu os ydyn nhw am fod yn rhan o'r system yng Nghymru neu yn Lloegr ar sail eu hasesiadau nhw o fanteision y ddau.
"Ond os ydyn nhw'n dewis parhau i chwarae yn Lloegr yna mae'n rhaid iddyn nhw wneud hynny gan ddilyn yr un rheolau a'r clybiau eraill sy'n rhan o'r system honno."
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd CBDC: "Mae CBDC wedi eu siomi fod y cynnig wedi cael ei wrthod gan y byddai wedi bod yn hwb i bêl-droed ar bob lefel drwy Gymru.
"Fe fydd CBDC yn parhau i ganolbwyntio ar godi safonau ar draws y gêm yng Nghymru a chyflwyno strategaeth uchelgeisiol i wella'r Cymru Premier ar, ac oddi ar y cae.
"Byddwn yn gwneud hynny gyda threfn newydd gyffrous i'r gystadleuaeth, cryfhau gweinyddiaeth y gynghrair, proffesiynoli gweinyddiaeth y clybiau, tyfu'r brand, ymgysylltu â chymunedau a chodi'r safon ar y cae."