Timau Cymreig yr EFL gam yn nes at chwarae ar lefel Ewropeaidd
- Cyhoeddwyd
Mae clybiau pêl-droed Caerdydd, Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd gam yn nes at gael y cyfle i gystadlu ar lefel Ewropeaidd.
Fel rhan o gynlluniau i ad-drefnu Cwpan y Gynghrair Cymru, fe fyddai'r clybiau sy'n cystadlu ym mhyramid Lloegr yn herio 12 tîm prif gynghrair Cymru y tymor nesaf.
Fe fyddai enillydd y gystadleuaeth ar ei newydd wedd yn cael lle yn rownd ragbrofol cystadleuaeth Ewropeaidd UEFA.
Daeth hi i'r amlwg ym mis Medi 2024 bod timau Cymreig sy'n chwarae yng nghynghrair pêl-droed Lloegr yn trafod camau "trawsnewidiol" a fyddai'n eu gweld yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth Cwpan Cynghrair Cymru er mwyn cymhwyso ar gyfer pêl-droed Ewropeaidd
Wrth gyhoeddi rhagor o fanylion ddydd Llun, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn dweud y bydd y newid yn creu £3m ychwanegol i gefnogi'r gêm ar bob lefel.
Pam newid?
Mae CBDC yn dweud bod angen mwy o arian er mwyn hybu'r gêm a chodi safonau dros Gymru.
Drwy wahodd pedwar o glybiau mwyaf Cymru i gystadlu yn y gwpan, y gobaith yw y bydd yn denu rhagor o arian drwy'r gemau sy'n cael eu cynnal yn erbyn timau'r Cymru Premier.
Dywedodd CBDC bod Caerdydd, Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd wedi cytuno i fodel o rannu arian ychwanegol er mwyn rhoi hwb i'r gêm yn genedlaethol, a bod holl glybiau'r Cymru Premier yn gefnogol.
Bydd yr arian felly yn cael ei ddosbarthu ar draws y Cymru Premier, cynghrair merched y Genero Adran Premier, ac ar lawr gwlad.
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
- Cyhoeddwyd6 Ionawr
- Cyhoeddwyd30 Medi 2024
Fe fydd enillydd y gwpan hefyd yn symud ymlaen i un o gystadlaethau Ewropeaidd UEFA - sy'n cynnig buddion ariannol sylweddol.
Yn ogystal â rhoi cyfle i dimau Cymru brofi eu hunain yn erbyn timau Ewrop, dywedodd CBDC y byddai'n gwella'r siawns o berfformiadau da yn Ewrop gan glybiau Cymru - a fyddai yn ei dro yn gwella safle Cymru ar restr detholion UEFA.
Byddai'r clybiau'n parhau i chwarae yng nghynghreiriau Lloegr, ond ni fyddai modd iddynt gyrraedd cystadlaethau Ewropeaidd drwy ennill unrhyw un o dlysau Lloegr.
Er bod Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd wedi cystadlu yn y gwpan o'r blaen, doedden nhw ddim yn dewis eu chwaraewyr gorau ar gyfer y gemau.
Dan y cynllun newydd, fe fydd disgwyl i'r clybiau ddewis eu chwaraewyr gorau.
'Pedair gêm i ffwrdd o gyrraedd Ewrop'
Dadansoddiad Owain Tudur Jones, cyn-chwaraewr Cymru, ar Dros Frecwast
"Newyddion cyffrous, rhaid cyfadde', dyna oedd y teimlad wrth weld y datganiad.
"Un o'r pethau pwysicaf os ydy hyn yn digwydd ydy'r ochr ariannol. Dyna'r marc cwestiwn oedd gen i pan nes i glywed am y syniad.
"Mae Noel Mooney i weld wedi ateb y cwestiwn hollbwysig yna, o safbwynt yr arian mae o yn newyddion cyffrous ac o bosib yn siwtio pawb.
"Fydd 'na sawl person dal ddim yn hapus, ond i fi yn bersonol, os 'da ni isio denu mwy o lygaid, denu mwy o sylw, mae ffeindio rwbeth newydd wastad yn beth da ac yn rwbeth sy'n werth rhoi tro arni.
"Marc cwestiwn arall oedd un o glybiau Cymru Premier yn rhoi'r gorau i safle yn Ewrop, pam fysan nhw'n rhoi'r gorau i un safle?
"Ond drwy sbio ar y syniad - cystadleuaeth 16 clwb, pedair rownd yn unig, am gyfle i gyrraedd Ewrop - ia i'r pedwar mawr sy'n ymuno, ond hefyd i glybiau'r Cymru Premier...
"Mae hwn yn gyfle euraidd - pedair gêm yn unig i ffwrdd o gyrraedd Ewrop - pwy fysa ddim yn gyffrous am hynny?"
Fe fydd y cynllun newydd yn "drawsnewidiol", yn ôl Prif Weithredwr CBDC, Noel Mooney.
"Bydd yn uno pêl-droed Cymru, yn gwella'r gêm ar bob lefel, ac yn cynnig buddion cymdeithasol dros Gymru gan wneud ein clybiau a'n cymunedau yn fwy cynaliadwy."
Ychwanegodd ei fod yn "cynrychioli ysbryd o gydweithio rhwng cymdeithasau pêl-droed y DU cyn cynnal Euro 2028 ar y cyd".
"Os fydd pobl yn gwrthwynebu'r syniad yma, rydw i wir yn credu eu bod nhw'n dal Cymru yn ôl. A phwy fyddai eisiau gwneud hynny?"
Dywedodd CBDC bod y cynllun wedi ei drafod gan UEFA, Ysgrifennydd Cymru yn San Steffan a gan Lywodraeth Cymru.
Mae nawr yn ddibynnol ar benderfyniad terfynol gan FA Lloegr.
Dywedodd Mr Mooney ei fod "yn disgwyl i FA Lloegr wneud y penderfyniad cywir ar gyfer eu cymdogion a'u hunain" ac y byddai cymeradwyo'r cynllun yn golygu "y bydd pawb ar eu hennill".