Cymru yn curo Japan - ac yn ennill eu gêm gyntaf ers 2023

Josh AdamsFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Ennill fu hanes tîm rygbi Cymru o 22 i 31 fore Sadwrn yn erbyn Japan gan ddod â'u rhediad o golli 18 gêm o'r bron i ben.

Cafwyd hanner cyntaf llawn cyffro er gwaetha'r gwres tanbaid.

Cymru sgoriodd gyntaf gyda Josh Adams yn tirio'r bêl wedi deng munud o chwarae.

Collodd yr un chwaraewr gyfle iddyblu'r fantais rai munudau'n ddiweddarach wedi iddo daro'r bêl ymlaen.

Sgoriodd y mewnwr Kieran Hardy ddau gais pellach i'r Cymry cyn hanner amser ond tarodd Siapan yn ôl eiliadau cyn yr egwyl â chais gan Takeuchi.

10-21 i Gymru oedd y sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Johny WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images

Tarodd y tîm cartref yn ôl yn gryf ddechrau'r ail hanner gyda cheisiau gan Dearns a Riley o fewn tair munud i'w gilydd.

Gyda hyder yn brin yn eu chwarae, gwelwyd y Cymry'n gwneud camgymeriadau di-ri wrth i'r gêm fynd rhagddi.

Gyda phum munud o'r gêm yn weddill, sgoriodd maswr Cymru, Dan Edwards, gais yn dilyn pas gampus gan yr eilydd, Plumtree.

Wedi 644 diwrnod o ddisgwyl am fuddugoliaeth, gall tîm Cymru a'u cefnogwyr ddathlu o'r diwedd.

Tîm Cymru

Cymru: Blair Murray; Tom Rogers, Johnny Williams, Ben Thomas, Josh Adams; Dan Edwards, Kieran Hardy; Nicky Smith, Dewi Lake (capten), Archie Griffin, Freddie Thomas, Teddy Williams, Alex Mann, Josh Macleod, Aaron Wainwright.

Eilyddion: Liam Belcher, Gareth Thomas, Chris Coleman, James Ratti, Taine Plumtree, Tommy Reffell, Reuben Morgan-Williams, Keelan Giles.

Tîm Japan

Japan: Ichigo Nakakusu; Kippei Ishida, Dylan Riley, Shogo Nakano, Halatoa Vailea; Seungsin Lee, Naito Sato; Yota Kamimori, Mamoru Harada, Keijiro Tamefusa, Epineri Uluiviti, Warner Deans, Michael Leitch (capten), Jack Cornelsen, Faulua Makisi.

Eilyddion: Hayate Era, Sena Kimura, Shuhei Takeuchi, Waisake Raratubua, Ben Gunter, Shinobu Fujiwara, Sam Greene, Kazema Ueda.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig