Colled i Gymru yng ngêm olaf Jess Fishlock

Jess FishlockFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jess Fishlock wedi chwarae 166 o weithiau i dîm merched Cymru

  • Cyhoeddwyd

Colli a wnaeth Cymru yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Awstralia ar brynhawn Sadwrn.

Fe gyhoeddodd Fishlock yn gynharach yn y mis ei bod yn bwriadu ymddeol o bêl-droed rhyngwladol wedi'r gêm yn erbyn Y Matildas yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Dyma oedd cap rhif 166 i Fishlock, sydd hefyd wedi sgorio 48 o goliau i Gymru - mwy nag unrhyw chwaraewr arall yn hanes y gêm yng Nghymru.

Sgoriodd Courtney Nevin i'r Matildas o gic rydd ar ôl 28 munud, gan adael sgôr o 0-1 ar yr hanner.

Brwydrodd Cymru yn ôl yn yr ail hanner wrth i'r ferch o Drawsfynydd, Mared Griffiths, sgorio i'w gwneud hi'n gyfartal wedi 56 munud.

Ond, daeth Awstralia eto i gosbi Cymru yn agos at y terfyn - trwy gôl Caitlin Foord, gan ddod i'r brig gyda sgôr o 1-2.

Mared Griffiths yn dathluFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mared Griffiths wnaeth sgorio unig gôl Cymru o'r diwrnod

Ar ôl y chwiban olaf, diolchodd Fishlock i'r "holl gefnogwyr am ymddangos bob amser yn fy ngyrfa".

"Mae wedi bod yn anrhydedd oes i chwarae o'ch blaenau chi. Plîs cefnogwch y grŵp yn mynd ymlaen.

"Dwi wrth fy modd hefo bod yn Gymraes," meddai Jess Fishlock.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.