'Galar a rhyddhad' cael diagnosis awtistiaeth yn oedolyn

  • Cyhoeddwyd
Catrin
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Catrin Wager wybod ei bod hi'n awtistig ddiwedd y llynedd

Mae gwleidydd o'r gogledd wedi disgrifio'r profiad o gael diagnosis o awtistiaeth fel "galar a rhyddhad".

Cafodd Catrin Wager, sy'n ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholiad San Steffan, wybod ei bod hi'n awtistig ddiwedd y llynedd ac mae'n dweud fod "y geiniog wedi disgyn" iddi.

Mae hi'n galw am wella ymwybyddiaeth o'r hyn y gall pobl gyda chyflyrau niwrolegol gyfrannu i'r gymuned.

Yn ôl data gan elusen NAS Cymru, mae menywod yn fwy tebygol o gael diagnosis yn hwyrach na dynion.

'Drwy fy oes dwi wedi teimlo'n wahanol'

Fe ddechreuodd Ms Wager amau fod ganddi gyflwr niwroamrywiol pan gafodd ffrind agos iddi ddiagnosis.

"Wrth edrych yn ôl dwi'n meddwl, drwy fy oes dwi 'di teimlo yn wahanol," meddai.

"Mae 'na heriau wrth gymdeithasu a dydi cymdeithasu ddim yn reddfol."

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd fod 'na arwyddion ers ei phlentyndod.

"Mae rhywun yn edrych yn ôl ar fod yn blentyn a chofio'r holl adegau o drio gwneud jôc neu drio gwneud rhywbeth oedda' chi'n meddwl oedd yn iawn, a doedd o ddim, ac mae rhywun yn brifo."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin Wager yn galw am wella ymwybyddiaeth o'r hyn y gall pobl gyda chyflyrau niwrolegol gyfrannu i'r gymuned

A hithau'n gyn-gynghorydd sir a bellach yn ymgeisydd ar gyfer etholiad San Steffan, mae'n dweud ei bod yn dechrau dod i ddeall yr hyn sy'n effeithio arni a sut mae goresgyn yr heriau.

"Yn benodol i fi, sain ydy'r peth dwi'n cael trafferth efo. Os oes lot o sŵn gwahanol dwi methu dehongli'r synau.

"O'n i wastad yn meddwl, 'fi 'di hwn... dwi'n rili weird a be sy'n wrong efo fi?'

"Pam bod pawb arall yn gallu eistedd mewn pub a chael sgwrs ond dwi methu clywed beth mae'r person reit drws nesa imi yn ei ddweud a heb syniad mai awtistiaeth oedd hynny.

"Dwi'n gallu gwneud stwff strategol lefel uchel a dwi'n ei fwynhau, ond dwi'n cael trafferth gadael y tŷ oherwydd mae ffeindio fy ngoriadau a ffeindio' ffôn yn anodd... ac oedd o jest y geiniog yn disgyn [pan gafodd ddiagnosis].

"Nid fi sy'n od... jest fel'ma ma' fy mrên i'n gweithio."

'Proses i ddelio efo teimladau'

Fe gafodd ddiagnosis o awtistiaeth a ADHD ym mis Tachwedd 2023, gan ddweud bod ganddi deimladau cymysg.

"Mae fatha galar bron yn cael y diagnosis... oedd o'n brifo edrych nôl ar hanes a meddwl am yr hogan fach 'na oedd mor unig, yn teimlo doedd hi'm yn ffitio mewn, yn wynebu gymaint o heriau yn tyfu fyny a ddim yn gwybod fod o'n iawn iddi fod yn hi ei hun.

"Mae o'n rhyddhad yn gallu adnabod pethau ond ma'n broses i ddelio efo teimladau."

Yn ôl Ms Wager roedd ceisio penderfynu a oedd hi am siarad yn gyhoeddus am ei diagnosis yn "heriol", gan boeni be' fyddai pobl yn feddwl.

Disgrifiad o’r llun,

Lucy Hemmings (chwith) a Mared Gwyn Jones

Yn ôl data gan elusen NAS Cymru a Llywodraeth Cymru, mae menywod yn fwy tebygol o gael diagnosis yn hwyrach na dynion.

Mae'n duedd sydd hefyd i'w gweld gan adran newydd o fewn Cyngor Gwynedd sy'n helpu pobl sydd ag awtistiaeth.

Mae'r cyngor bellach wedi creu arolwg er mwyn ceisio deall anghenion y gymuned.

"Oeddan ni'n teimlo bod angen arolwg er mwyn trio dal picture gwell o be' oedd yn mynd ymlaen ar draws y sir - be' oedd angen, lle oedd angen o a sut 'da ni'n mynd i gyfarch yr angen", meddai Lucy Hemmings, arweinydd ymarfer awtistiaeth.

"Ers i'r tîm ddatblygu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth - mae 'na alw mawr am hynny i bobl sydd isho gwybodaeth."

Ychwanegodd Mared Gwyn Jones, gweithiwr allweddol awtistiaeth Gwynedd fod "patrwm yn dangos bod 'na dipyn o ferched a genod ifanc isio cael y cymorth achos bod nhw'n ffeindio bod nhw wedi bod ella yn cuddio neu ddim isio sôn am eu hawtistiaeth... ma'n batrwm 'dan ni yn gweld".

'Gweld o fel gwendid'

Mae Catrin Wager yn cytuno, gan ddweud "bod merched yn cuddio fo mwy".

"Mae o am y syniad 'ma o fod yn anabl ac yn methu gwneud rhywbeth, a'r ofn bron o sut mae pobl mewn cymdeithas yn mynd i ngweld i.

"Mae pobl yn gweld o fel gwendid."

Mae hi hefyd yn gobeithio, drwy rannu ei phrofiad, y bydd hynny yn arwain at ragor o amrywiaeth o fewn y byd gwleidyddol yn y pendraw.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi clustnodi £12m yn rhagor er mwyn gwella cyfleusterau sydd eisoes yn bodoli i bobl sydd ag awtistiaeth" gan ddweud eu bod hefyd yn cydweithio gydag asiantaethau eraill er mwyn cefnogi pobl sydd â'r cyflwr.