Terfysg Trelái: Cyhuddo 11 yn rhagor o bobl

Terfysg TreláiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau, gan gynnwys tân gwyllt, eu taflu at yr heddlu yn yr anhrefn

  • Cyhoeddwyd

Mae 11 yn rhagor o bobl wedi eu cyhuddo o droseddau yn ymwneud â'r anhrefn dreisgar yn Nhrelái, Caerdydd ym mis Mai 2023.

Cafodd heddlu arfog a'r gwasanaethau brys eu galw i ardal Trelái ar 22 Mai ar ôl i tua 100 i 150 o bobl ymgasglu wedi gwrthdrawiad angheuol yn yr ardal.

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15 yn y gwrthdrawiad.

Cafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau, gan gynnwys tân gwyllt, eu taflu at yr heddlu.

Bydd 10 oedolyn ac un person 17 oed yn ymddangos yn y llys ddydd Mercher, 22 Ionawr.

Mae 31 o bobl eisoes wedi'u cyhuddo mewn perthynas â'r anhrefn.

Pynciau cysylltiedig