Beirniadu 'diffyg cynllun a gweithredu' i warchod natur
- Cyhoeddwyd
Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i warchod a hybu bioamrywiaeth wedi'i gwestiynu mewn adroddiad beirniadol.
Rhybuddiodd pwyllgor amgylchedd y Senedd fod "diffyg cynllun, gweithredu a buddsoddiad" digonol i daclo'r colledion pryderus ym myd natur.
Mae un ym mhob chwe rhywogaeth - gan gynnwys llygoden y dŵr a'r gylfinir - mewn perygl o ddiflannu o Gymru.
Mae Cymru wedi gweld gostyngiad o 20% ar gyfartaledd mewn bywyd gwyllt yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf.
Dywedodd elusennau bod "tanariannu cronig" wedi cyfrannu at ddirywiad byd natur.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "ymroddedig i daclo'r argyfwng natur" ac y byddai'n ystyried y 30 argymhelliad yn yr adroddiad.
- Cyhoeddwyd27 Medi 2023
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2024
Daeth yr adroddiad i'r casgliad fod y ddeddfwriaeth bresennol i warchod yr amgylchedd heb gyflawni'r hyn roedd wedi bwriadu ei wneud, gyda biomarywiaeth yn dal i ddioddef.
Roedd nifer o ddogfennau polisi allweddol, oedd fod i lywio gwaith y llywodraeth yn y maes, heb eu diweddaru "ers blynyddoedd", hefyd.
Er fod na addo wedi bod ar sawl achlysur i gyhoeddi fersiwn newydd o'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur, er enghraifft, roedd hi'n "hynod bryderus" nad oedd hynny wedi digwydd, meddai'r pwyllgor.
Clywodd yr ymchwiliad gan nifer o arbenigwyr a sefydliadau a ddaeth i'r casgliad bod enghreifftiau niferus o "oedi, ymrwymiadau heb eu cyflawni, a therfynau amser a fethwyd".
Maen nhw'n rhoi'r bai yn rhannol ar ddiffyg staff ac adnoddau wedi'u clustnodi i natur o fewn Llywodraeth Cymru, gan bwysleisio'r toriadau sydd wedi bod i'r rheoleiddiwr amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae disgwyl i weinidogion ddatgelu manylion hir-ddisgwyliedig Bil Natur yn ddiweddarach eleni, fydd yn cynnwys mesurau newydd i warchod yr amgylchedd.
Yn 2021, fe ddywedodd y llywodraeth y byddai hyn yn cynnwys targedau statudol, penodol o ran adfer rhywogaethau ac ecosystemau.
Ond clywodd y pwyllgor y byddai'r gwaith manylach yma ar dargedau bioamrywiaeth yn debygol o gymryd pedair blynedd arall, gan olygu na fydden nhw yn eu lle tan o leiaf 2029.
Mae hyn yn arwyddocaol oherwydd cefnogaeth Llywodraeth Cymru o gytundeb rhyngwladol nodedig i atal a dechrau gwyrdroi'r dirywiad ym myd natur erbyn 2030.
Fe deithiodd y gweinidog newid hinsawdd ar y pryd, Julie James, i gynhadledd COP15 ym Montreal, Canada yn 2022 - lle cafodd y fargen hanesyddol ei tharo - gan ymrwymo hefyd i darged ar gyfer gwarchod 30% o dir a môr ar gyfer natur erbyn 2030.
"Er ein bod ni'n clywed geiriau cynnes gan y llywodraeth a bod y rhethreg yn gadarnhadol, yr hyn dy'n ni ddim yn ei weld yw gweithredu," meddai Llyr Gruffydd AS, cadeirydd pwyllgor newid hinsawdd, amgylchedd a seilwaith y Senedd.
Os nad ydy'r targedau statudol ar hybu bioamrywiaeth yn eu lle tan 2029, all y llywodraeth "ddim fod o ddifri'" ynglŷn â'u huchelgais i ddechrau gwyrdroi'r dirywiad ym myd natur erbyn 2030, ychwanegodd.
"Allwn ni siarad drwy'r dydd ond natur fydd yn dioddef yn y pendraw, ac os ydy natur yn dioddef yna ry'n ni fel pobl a chymunedau ar ein colled yn sylweddol," meddai.
Dywedodd Alex Philips o WWF Cymru "nad oes modd aros am bedair blynedd arall" ar gyfer gosod targedau, gan fod "natur yng Nghymru'n diflannu ar raddfa bryderus".
Ychwanegodd bod angen i Lywodraeth Cymru "flaenoriaethu gosod targedau i atal a gwrthdroi colledion byd natur erbyn 2030 er mwyn sicrhau bod Cymru'n cyd-fynd â'r cytundebau bioamrywiaeth y mae eisoes wedi cytuno iddynt".
"Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi argyfwng natur, ond hyd yma nid yw polisïau'n ddigonol i fynd i'r afael â hyn."
Yn ôl Annie Smith o RSPB Cymru, mae "tanariannu cronig mewn rhywogaethau a chynefinoedd yn golygu mai ond cyfran fach o'n hardaloedd gwarchodedig sydd mewn cyflwr da ac mae ein bywyd gwyllt yn dirywio ar raddfa bryderus".
"Does dim lle i amau maint yr her. Mae cyfreithiau cadarn sy'n gosod targedau i adfer natur a chynlluniau clir yn hanfodol."
'Nid mater i'r llywodraeth yn unig'
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod "yr angen i gynyddu graddfa a chyflymdra ein gweithredu er mwyn cyrraedd targedau bioamrywiaeth presennol a rhai'r dyfodol".
Fe gyfeiriodd llefarydd at raglen Coedwig Genedlaethol i Gymru a chynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, gan ddweud bod £150m wedi'i fuddsoddi yn ystod tymor y Senedd bresennol ar waith i adfer natur.
"Fel mae'r adroddiad yn nodi mae angen ymdrech ar draws Cymru, dyw hyn ddim just i'r llywodraeth daclo ar ei phen ei hun," ychwanegodd.