Canfod math newydd o wyfyn yng Nghymru yn 'rhyfeddol'
- Cyhoeddwyd
Mae rhywogaeth newydd o wyfyn wedi'i ddarganfod yng Nghymru - a hynny miloedd o filltiroedd o'i gynefin brodorol yn Ne America.
Y gred yw bod dau wyfyn cliradain wedi teithio 4,500 o filltiroedd o jyngl trofannol yn Guyana i Bort Talbot y tu mewn i fag ffotograffydd.
Ym mis Chwefror cafodd y creaduriaid eu gweld ar silff ffenestr gan yr ecolegydd 22 oed Daisy Cadet a'i mam Ashleigh - sy'n ffotograffydd proffesiynol.
Mae gwyddonwyr wedi disgrifio'r cyfan fel "digwyddiad annhebygol" sy'n "anodd ei esbonio mewn modd rhesymegol".
Dywedodd Ms Cadet: “Doedd e (y gwyfyn) ddim yn hedfan o gwbl - mae’n debyg gan fod y tŷ’n rhy oer ar y pryd, a’r un arall wrth ei ymyl eisoes wedi marw.
“Pan welais i nhw am y tro cyntaf, roeddwn i’n gwybod mai cliradain oedden nhw ac roeddwn i’n cymryd yn ganiataol ei fod yn rhywogaeth sy'n gyffredin yn y DU.
"I mi, roedd dod o hyd i wyfyn newydd yn ddigon cyffrous ond ar y pwynt hwn, doedd gen i ddim syniad ei fod mor anarferol."
I ddarganfod mwy am y gwyfynod, fe wnaeth Ms Cadet rannu lluniau ar Instagram ac fe gysylltodd un o'i dilynwyr i ddweud nad oedd yn edrych fel rhywogaeth sy'n hysbys yn y DU.
Cafodd y lluniau eu rhannu'n eang cyn cyrraedd arbenigwyr gwyfynod yr Amgueddfa Hanes Naturiol Mark Sterling a David Lees.
Trwy ddadansoddiad DNA, cadarnhaodd y gwyddonwyr fod y gwyfynod yn rhai nad oedd wedi eu cofnodi o'r blaen.
Ysgogodd hyn Ms Cadet i edrych y tu mewn i fag cist ei mam, ac fe aeth Ashleigh gyda hi yn ystod ei thaith i Guyana.
Daeth y pâr o hyd i weddillion dau gocŵn oedd wedi eu claddu yn y mwd oedd ar yr esgidiau yr oedd hi wedi'u gwisgo ar y daith.
Mae'r creadur, sydd tua 18mm o hyd, wedi'i enwi'n Carmenta brachyclados.
Mae adenydd C. brachyclados yn dryloyw, gyda gwythiennau du a blaenau du ac mae gan ochr uchaf ei gorff streipiau glas symudliw ag ymyl melyn gyda'r ochr isaf yn felyn sylffwraidd llachar, meddai'r ymchwilwyr.
Fe wnaeth yr arbenigwyr ddarganfod darn bach o lystyfiant yn y bag hefyd, sydd mwy na thebyg wedi dod o fath o goeden sy'n tyfu yng Nghanolbarth a De America o'r enw Mora excelsa.
Y gred yw y byddai'r llystyfiant yma wedi gallu diogelu'r larfa rhag cael eu difrodi yn ystod y daith, tra bod y lleithder a’r tymheredd yn y bag esgidiau wedi helpu’r larfa trofannol i oroesi a thyfu yn ystod y gaeaf.
Dywedodd Mark Sterling o'r Amgueddfa Hanes Natur ei bod hi'n "hynod o anodd dod o hyd i wyfynod cliradain, hyd yn oed i entomolegwyr proffesiynol".
"Maen nhw hyd yn oed yn fwy anodd eu magu o larfa neu chwilerod, sydd fel arfer yn sychu neu'n llwydo o fewn ychydig ddyddiau i'w casglu."
Ychwanegodd fod y siawns o ddau wyfyn cliradain o jyngl trofannol De America "yn dod i'r amlwg yn llwyddiannus yn Ne Cymru, dros dri mis ar ôl iddyn nhw gyrraedd, yn ystod gaeaf oer Cymreig, a chael eu cadw mewn cyflwr da, yn rhyfeddol".
Dywedodd Ms Cadet, er ei bod hi'n teimlo'n "anhygoel o lwcus" i fod wedi chwarae rhan yn y darganfyddiad, a'i bod wedi profi "llawer o dristwch a phryder" am faint o rai eraill sy'n cael eu colli oherwydd newid hinsawdd.
“Mae’n fraint i ni allu gwneud darganfyddiadau fel hyn, ond rwy’n gobeithio bod y stori hon yn gwthio am weithredu go iawn ar gyflwr ein planed a’r argyfwng bioamrywiaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi
- Cyhoeddwyd25 Medi