Byd natur Cymru: 'Colledion ar raddfa ddinistriol'

Madfall y tywodFfynhonnell y llun, Ben Andrew/RSPB
Disgrifiad o’r llun,

Madfall y tywod - un o blith dros 600 o rywolaethau sydd mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Mae cyfrifiad newydd o fywyd gwyllt yng Nghymru wedi datgelu colledion ym myd natur "ar raddfa ddinistriol", medd cadwraethwyr.

Wrth graffu ar ddata o'r hanner canrif ddiwethaf, maen nhw'n canfod dros 100 o rywogaethau sydd wedi diflannu'n llwyr o Gymru.

Mae un ym mhob chwech - o'r bron i 3,900 o rywogaethau a gafodd eu hastudio - mewn perygl o ddiflannu cyn hir.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn benderfynol o lunio polisïau uchelgeisiol ar adfer natur.

Tra bod grwpiau bywyd gwyllt yn cydnabod bod camau'n cael eu cymryd i daclo'r argyfwng natur yng Nghymru, maen nhw'n rhybuddio bod yr ymateb hyd yma "yn bell o fod yr hyn sydd ei angen".

Ddegawd ers i'w hadroddiad cyntaf godi pryderon, maen nhw'n dweud bod y sefyllfa'n dal i waethygu a bod Cymru, fel y DU, yn un o'r gwledydd sydd "wedi gweld y dirywiad gwaethaf o ran natur yn y byd".

Beth yw adroddiad Sefyllfa Byd Natur?

Ers 2003, mae dros 60 o gyrff ac arbenigwyr wedi gweithio gyda'i gilydd ar asesiad rheolaidd o gyflwr byd natur yn y Deyrnas Unedig.

Cafodd eu hadroddiad diwethaf ei gyhoeddi yn 2019, pan ymunodd asiantaethau amgylcheddol bob gwlad, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, â'r ymdrech hefyd.

Mae adroddiadau ar wahân yn cael eu cyhoeddi hefyd ar y darlun ym mhob rhan o'r DU.

Ffynhonnell y llun, Mike Waller/Plantlife
Disgrifiad o’r llun,

Tegeirian y fign - un o'r planhigion sydd dan fygythiad

Beth yw'r penawdau i Gymru?

Mae'r adroddiad yn craffu ar bob math o fywyd gwyllt - o'n hoff famaliaid ac adar i blanhigion a phryfed sydd efallai'n llai adnabyddus.

O 3,897 o rywogaethau lle roedd digon o ddata i asesu eu cyflwr yng Nghymru, roedd 18% neu 663 mewn perygl o ddiflannu - gan gynnwys y llygoden ddŵr, madfall y tywod a thegeirian y fign galchog.

Roedd 95 o fathau gwahanol o anifeiliaid, planhigion a ffwng wedi diflannu o Gymru yn barod.

Yn y cyfamser mae 11 o rywogaethau o adar eisoes wedi cael eu nodi fel rhai sydd wedi'u colli o Gymru yn ystod y degawdau diwethaf - gan gynnwys bras yr ŷd (corn bunting) a rhegen yr ŷd (corncrake).

Mae'r asesiad diweddaraf yn dangos bod 27% o rywogaethau o adar bellach ar y rhestr goch ryngwladol, sy'n golygu eu bod mewn perygl difrifol, o'i gymharu â 12% yn 2002.

Beth sydd ar fai?

Ein ffordd o reoli ffermdir yw'r "ffactor mwyaf dylanwadol" o ran newidiadau mewn poblogaethau bywyd gwyllt, medd yr adroddiad.

Mae 90% o dirwedd Cymru'n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaeth, gyda'r rhan helaeth yn gaeau gwair i fwydo defaid a gwartheg.

Mae'r adroddiad yn dweud ein bod wedi colli'r amrywiaeth o ran cynefinoedd ar raddfa eang sydd mor allweddol i fywyd gwyllt.

Hyd yn oed lle mae tir wedi'i ddynodi yn swyddogol ar gyfer gwarchod natur - fel safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, er enghraifft - dyw'r rhan helaeth o'r rhain ddim mewn cyflwr da nac yn cael eu rheoli'n iawn.

Newid hinsawdd yw'r ail brif reswm dros y colledion.

Mae'r adroddiad yn cynnig gwyfynod fel enghraifft, gan ddweud bod cannoedd o rywogaethau wedi gweld colledion sylweddol yng Nghymru yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf.

Mae'r newid yn yr hinsawdd yn amharu ar amseru'r gwanwyn, gan effeithio pryd mae planhigion yn tyfu sy'n darparu bwyd i wyfynod, a phryd y maen nhw'u hunain yn ymddangos yn ystod y flwyddyn.

Oes 'na obaith?

Oes. Mae'r adroddiad yn tanlinellu nifer o esiamplau lle mae ymdrechion cadwraethau wedi gwneud gwahaniaeth go iawn.

Yn achos ystlumod, er enghraift, mae'r doreth o chwe rhywogaeth wedi cynyddu 76% ar gyfartaledd ers 1998 yng Nghymru - diolch i fwy o ymdrech o ran diogelu'r llefydd lle maen nhw'n byw.

Mae nifer o rywogaethau o bilipalod yn dangos arwyddion cadarnhaol hefyd.

Beth yw ymateb yr arbenigwyr natur?

Disgrifio canfyddiadau'r adroddiad fel rhai "ysgytwol" wnaeth pennaeth elusen Plantlife Cymru, Lizzie Wilberforce.

"Mae'n dangos yn glir am yr angen i weithredu, a gwneud hynny'n gyflym er mwyn atal y colledion a chreu mwy o le i natur," meddai.

Yn ôl Alun Pritchard, Rheolwr RSPB Cymru, mae'r adroddiad yn dangos bod Cymru'n wynebu "pwynt tyngedfennol yn yr argfwng natur".

Fe ychwanegodd Jim Foster o'r elusen Amphibian and Reptile Conservation ei bod hi'n bosib i brosiectau cadwraeth adfer poblogaethau o rywogaethau prin a dywedodd ei bod hi'n hynod bwysig ein bod "yn dwysáu ein hymdrechion ni".

Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud ynghylch colledion natur?

Bydd Cynllun Ffermio Cynaliadwy'n cael ei gyflwyno o 2025, gan wobrwyo ffermwyr yn ariannol yn y dyfodol am gynnal a chreu cynefinoedd natur.

Fe fydd yna gymorthdaliadau hefyd i ffermydd gydweithio ar waith ar raddfa tirwedd eang sy'n hybu bioamrywiaeth.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth fydd yn cynnwys targedau newydd ar gyfer adfer natur cyn diwedd tymor y Senedd hon yn 2026.

Dywedodd llefarydd y bydd y llywodraeth yn "ystyried yn ofalus y syniadau yn yr adroddiad pwysig yma am waith pellach ar natur".

Ychwanegodd bod miloedd o bobl yn gwneud cyfraniadau pwysig i helpu bywyd gwyllt yn eu cymunedau eu hunain, gan gynnwys drwy brosiectau wedi'u hariannu gan y llywodraeth fel Llefydd Lleol ar gyfer Natur, Rhwydweithiau Natur a'r Goedwig Genedlaethol.

"Fel llywodraeth, ry'n ni'n benderfynol o osod polisi uchelgeisiol i helpu mwy o bobl chwarae rôl - hyd yn oed yn fwy wrth fynd i'r afael â'r her byd-eang yma, fel y'n ni'n gwybod y mae'n rhaid i ni," meddai.

Pynciau cysylltiedig