Gwaharddiad oes i gyn-reolwr am daro llumanwr yn ystod gêm

Disgrifiad,

Rhybudd: Fe allai cynnwys y fideo o'r digwyddiad beri gofid i rai

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-reolwr pêl-droed - a gafodd ei ddal ar gamera yn rhoi dwrn i lumanwr yn ystod gêm ar Ynys Môn - wedi cael gwaharddiad am oes gan Gynghrair Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru (NWCFA).

Digwyddodd yr ymosodiad ym mis Ebrill 2024 yn ystod gêm ar faes Lôn Bach rhwng CPD Penrhyndeudraeth a Thref Amlwch.

Cafodd Robert Williams-Jones, rheolwr Amlwch ar y pryd, ei ddedfrydu i 24 wythnos o garchar wedi ei ohirio am 12 mis ar ôl pledio'n euog i ymosod gan achosi gwir niwed corfforol.

Yn ogystal â'r gwaharddiad am oes, dywedodd NWCFA mewn datganiad ddydd Gwener fod Williams-Jones wedi cael dirwy o £3,000.

"Fe gafodd y digwyddiad cryn dipyn o sylw yn y wasg, ond doedd dim modd ystyried y mater tan fod ymchwiliad yr heddlu wedi dod i ben," meddai NWCFA.

"Mae panel disgyblu NWCFA wedi penderfynu rhoi gwaharddiad oes i'r sawl oedd yn gyfrifol, yn ogystal â dirwy o £3,000 a gorchymyn i dalu £50 o gostau."

Mae Clwb Pêl-droed Amlwch, yr oedd Williams-Jones yn ei reoli ar y pryd, hefyd wedi cael dirwy o £2,500, gyda £2,000 o hwnnw yn cael ei atal am 12 mis.

'Dim lle i ymddygiad ymosodol'

Yn fuan wedi'r gêm cadarnhaodd CPD Tref Amlwch eu bod wedi torri pob cysylltiad gyda Williams-Jones, gan ymddiheuro i CPD Penrhyndeudraeth a'r llumanwr.

Ychwanegodd y gymdeithas: "Mae'r neges gan y panel disgyblu yn glir: does dim lle i ymddygiad ymosodol mewn pêl-droed o fewn ardal y gymdeithas hon.

"Byddwn yn parhau i gymryd camau cadarn ar unrhyw achosion o'r fath.

"Mae'r mater hwn bellach ar gau, ac ni fyddwn yn gwneud sylw pellach ar y mater."

Dywedodd Clwb Pêl-droed Tref Amlwch eu bod yn "wirioneddol drist" am y digwyddiad a'u bod yn "ymddiheuro'n ddiamod eto i Benrhyndeudraeth a phawb gafodd eu heffeithio".

"Rydym yn derbyn dyfarniad yr NWCFA a byddwn rŵan yn symud ymlaen fel clwb," meddai datganiad ddydd Gwener.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cael cais i wneud sylw.

Pynciau cysylltiedig