Diogelwch breciau heb eu gwirio cyn i ddau drên daro'i gilydd gan ladd un

Buodd rheilffordd y Cambrian ar gau am bron i wythnos yn dilyn y digwyddiad
- Cyhoeddwyd
Ni chafodd gwiriadau diogelwch eu cynnal ar system frecio trên cyn gwrthdrawiad rheilffordd angheuol yn y canolbarth, mae adroddiad wedi datgelu.
Bu farw Tudor Evans, 66, pan fuodd dau drên Trafnidiaeth Cymru mewn gwrthdrawiad ger Llanbrynmair fis Hydref diwethaf.
Cafodd pedwar arall eu hanafu yn ddifrifol a chafodd 23 o bobl eraill fân anafiadau yn y digwyddiad.
Roedd y ddau drên yn teithio i gyfeiriadau gwahanol ar yr un llinell, ac roedden nhw fod i basio ei gilydd ar ran ychwanegol o'r llinell, sef Dolen Talerddig.
Ond methu wnaeth system frecio'r trên oedd yn teithio tua'r gorllewin am Aberystwyth, a llithrodd heibio'r ddolen gan wrthdaro â'r trên oedd yn teithio o gyfeiriad Machynlleth.
Cafodd pedwar nam eu canfod ar y system ddiogelwch meddai, ymchwilwyr.

Roedd un o'r trenau yn teithio o Amwythig i Aberystwyth, a'r llall o Fachynlleth i Amwythig
Cafodd yr adroddiad interim 20 tudalen ei gyhoeddi gan y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) ddydd Mercher.
Datgelodd fod y trên gyda'r system ddiogelwch a fethodd - yn teithio ar tua 24mya, pan fu mewn gwrthdrawiad â thrên arall oedd yn teithio ar gyflymder o tua 6mya.
Yn flaenorol roedd RAIB wedi dweud fod system awtomataidd, sy'n helpu olwynion trenau i afael mewn traciau, wedi methu.
Dywedon nhw eu bod wedi archwilio'r system, sydd wedi'i gosod ar y trên sy'n mynd i Aberystwyth.
Mae'n system sy'n chwistrellu tywod yn awtomatig trwy bibellau pan fydd olwyn yn cael ei chanfod i fod yn llithro yn ystod brecio - mewn ymgais i gynhyrchu mwy o ffrithiant.
Mae'r adroddiad yn dweud fod y pibellau hyn wedi'u blocio, a fyddai wedi "atal y tywod rhag cael ei daflu allan" ohonynt.
Cafodd dau blât sy'n mesur cyfradd llif y tywod eu gosod yn anghywir, gyda'r ddau ben i waered.
Cafodd dau nam trydanol eu darganfod hefyd, meddai'r adroddiad.
'Ni ellid gwirio rhai systemau diogelwch'
Mae'r adroddiad yn dangos fod systemau diogelwch y trên wedi cael eu gwirio yn y dyddiau cyn y digwyddiad.
Ond ar ddiwrnod y gwrthdrawiad, doedd y gyrrwr ddim wedi gallu gwirio'r system dywod gan fod y trên wedi parcio wrth ymyl platfform.
"Yn gynnar ar fore 21 Hydref, roedd gyrrwr trên yn paratoi'r trên ar gyfer gwasanaeth. Ond roedd y trên wedi'i leoli wrth ymyl platfform," meddai'r adroddiad.
"Golygodd hyn nad oedd gan y gyrrwr fynediad at offer ar ffrâm isaf y trên, gan gynnwys y botwm i brofi'r system dywod."
Mae'r adroddiad yn ychwanegu mai dyma pam, fel canlyniad, "ni ellid gwirio rhai systemau diogelwch, gan gynnwys gweithrediad y system dywod awtomatig".

Methodd system frecio un o'r trenau oedd yn teithio ar Reilffordd y Cambrian fis Hydref 2024
Sonia'r adroddiad am ffactorau eraill hefyd, a fyddai wedi gallu cyfrannu at y gwrthdrawiad.
Mae'r rhain yn cynnwys:
Glaw trwm o Storm Ashley, dridiau ynghynt;
Dail coed yn disgyn yn nhymor yr Hydref - fyddai wedi medru effeithio ar yr olwynion;
Ni chafodd jel i wella adlyniad y llinell ei ddefnyddio.
Dywedodd yr adroddiad bod "gwiriad sylfaenol" o'r system wedi cael ei gynnal y diwrnod cyn y ddamwain - sy'n "awgrymu nad oedd y pibellau tywod wedi'u rhwystro ar yr amser hynny".
Yn dilyn y ddamwain, dywedodd Network Rail fod un o'u trenau sy'n mynd i'r afael â chwymp dail yr hydref - wedi rhedeg ar hyd y rheilffordd dan sylw ar y noson cyn y ddamwain.
Mae ymchwiliad RAIB yn parhau, a bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2024