Ailagor lein bron i wythnos ers gwrthdrawiad trên laddodd un

Gweithwyr yn edrych ar ddifrod i un o'r trenau oedd yn y gwrthdrawiad
Disgrifiad o’r llun,

Gweithwyr yn edrych ar ddifrod i un o'r trenau oedd yn y gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd

Mae rheilffordd y Cambrian wedi ailagor bron i wythnos ers i ddau drên daro ei gilydd ym Mhowys.

Mae'r lein wedi bod ynghau ers y gwrthdrawiad ym mhentref Talerddig nos Lun diwethaf.

Bu farw un o'r teithwyr - Tudor Evans, 66, o Gapel Dewi ger Aberystwyth - a chafodd pedwar arall eu hanafu'n ddifrifol.

Fe gadarnhaodd Network Rail fore Llun bod trenau'n teithio unwaith yn rhagor rhwng Machynlleth ac Amwythig.

Yn y cyfamser mae saith wythnos o waith i drwsio rhan o'r A470 yn Nhalerddig, oedd i fod i ddechrau ddydd Iau, wedi cael ei ohirio tan y flwyddyn newydd oherwydd y gwrthdrawiad.

Dywedodd Network Rail ddydd Gwener bod timau ymchwilio wedi cwblhau eu harchwiliadau yn safle'r digwyddiad, gan olygu bod modd i beirianwyr Trafnidiaeth Cymru wahanu a symud y ddau drên.

Mae peirianwyr Network Rail hefyd wedi gwneud gwaith atgyweirio a chwblhau "cyfres o wiriadau ac archwiliadau diogelwch manwl".

Ychwanegodd eu datganiad bod yn "parhau i wirio ac archwilio" systemau diogelwch trenau sy'n defnyddio'r lein, a bod "trenau prawf" wedi teithio ar hyd y lein "i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn ôl yr arfer cyn dechrau cludo teithwyr ddydd Llun".

Ond maen nhw'n rhybuddio y gallai'r digwyddiad barhau i gael effaith ar wasanaethau trên "yn y tymor byr" ac yn cynghori teithwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn dechrau ar eu siwrne.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Tudor Evans yn dilyn y gwrthdrawiad - roedd yn teithio adref o wyliau yn Yr Eidal ac ar y trên oedd yn teithio o Amwythig i Aberystwyth

"Bydd digwyddiadau trasig nos Lun wedi eu serio yn fy nghof am byth ac mae fy meddyliau'n parhau gyda phawb a gafodd eu heffeithio," dywedodd Nick Millington, cyfarwyddwr llwybr Cymru a'r Gororau Network Rail.

Dywedodd bod gwrthdrawiadau o'r fath ar y rheilffyrdd yn "brin iawn" a'i fod "yn ddiolchgar iawn i'r gymuned leol am fod mor "gymwynasgar drwy'r wythnos diwethaf wrth i ni reoli'r digwyddiad yma".

Mae hefyd wedi canmol teithwyr "am eu hamynedd, dealltwriaeth a chefnogaeth" wrth i beirianwyr "weithio'n ddiflino i adfer y rheilffordd gynted â phosib".

Ffynhonnell y llun, Network Rail
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddau drên wedi cael eu symud erbyn hyn i'r depo ym Machynlleth ble mae mwy o brofion yn cael eu cynnal

Mae prif swyddog Trafnidiaeth Cymru, Jan Chaudhry van der Velde, hefyd wedi cydymdeimlo eto gyda theulu Tudor Evans, a dymuno "gwellhad buan" i deithwyr ac aelodau staff a gafodd eu hanafu.

Ychwanegodd bod gan reilffyrdd Cymru "record ddiogelwch dda iawn" a bod Trafnidiaeth Cymru a Network Rail "yn benderfynol" o gadarnhau achos y gwrthdrawiad, gan gydweithio'n llawn â'r awdurdodau sy'n ymchwilio i'r digwyddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen gwaith trwsio yn ardal Talerddig wedi i ran o wal gynnal yr A470 gwympo bro i flwyddyn yn ôl

Yn sgil y gwrthdrawiad mae saith wythnos o waith i drwsio rhan o'r A470 yn Nhalerddig, oedd i fod i ddechrau ddydd Iau, wedi cael ei ohirio tan y flwyddyn newydd.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd clerc Cyngor Cymuned Llanbrynmair, Sarah Reast bod yr wythnos ddiwethaf wedi bod yn gymysgedd o dristwch a rhwystredigaeth i bobl yr ardal.

Roedd damwain "mor ddifrifol ac annisgwyl" yn "sioc i bawb yn y gymuned", ac mae diffyg trafnidiaeth mewn ardal mor ddaearyddol heriol yn golygu bod pobl sy'n defnyddio'r trên "yn dibynnu'n llwyr arno".

Ond mae gohirio'r gwaith i'r ffordd hefyd yn creu cur pen o'r newydd i bawb oedd wedi "ymdopi efo'r syniad" ac addasu eu trefniadau, gan gynnwys "gohirio apwyntiadau" ac aildrefnu cludiant i ddisgyblion.

"Rhaid bod yn hyblyg ac yn amyneddgar," meddai, gan gydnabod "does dim amser delfrydol" i wneud y gwaith.

Mae yna "risg o dywydd gwaeth" yn sgil gohirio tan fis Ionawr, ond "fydde 'na lawer mwy o draffig" yn yr haf.

"Dwi'n meddwl fysa lot o bobl yn hoffi jyst bwrw ymlaen efo'r peth a ca'l o drosodd."