Ymateb chwyrn i ad-drefnu posib yn ysbytai'r gorllewin

Mae Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin yn un o bedair prif ysbyty yr ardal
- Cyhoeddwyd
Mae gwleidyddion wedi ymateb yn chwyrn i gynlluniau i ad-drefnu gofal yn ysbytai yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n gwasanaethu Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, wedi dweud bod angen newidiadau mewn naw maes gofal er mwyn sicrhau y gellir eu darparu'n ddiogel a lleihau amseroedd aros i gleifion.
Gallai'r newidiadau i wasanaethau - gan gynnwys gofal critigol, strôc ac orthopaedeg - olygu eu bod yn cael eu canoli mewn llai o leoliadau a fyddai'n golygu amseroedd teithio hirach i gleifion a pherthnasau.
Ond mae gwleidyddion lleol wedi dweud bod y cynlluniau'n annerbyniol, a bod gwasanaethau a phobl yr ardal "yn haeddu cefnogaeth a buddsoddiad".
Dywedodd Mark Henwood, cyfarwyddwr meddygol gweithredol y bwrdd iechyd, fod y rhesymau am y newidiadau yn cynnwys anawsterau staffio a'r her o fynd yn ôl i'r un lefelau o driniaethau â chyn y pandemig.

Un o'r cynigion yw bod unedau strôc ysbytai Bronglais a Glangwili yn darparu gwasanaeth 'trin a throsglwyddo'
Mae pedwar prif ysbyty o fewn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda - Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli, Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd a Bronglais yn Aberystwyth.
Dywedodd y bwrdd fod timau wedi eu rhannu ar hyd sawl safle, dros ardal eang a bod "gorddibyniaeth ar nifer fach o unigolion".
Y naw gwasanaeth sy'n cael eu hystyried fel y rhai mwyaf bregus yw Gofal Critigol, Dermatoleg, Llawfeddygaeth Gyffredinol Frys, Endosgopi, Offthalmoleg, Orthopedeg, Strôc, Radioleg ac Wroleg.

Mae Elin Jones AS wedi dweud bod yn "rhaid derbyn 'Na' clir gan Geredigion"
Ond mae'r newyddion wedi ennyn ymateb chwyrn gan wleidyddion yr ardal.
Mae Elin Jones AS Ceredigion wedi dweud bod yn "rhaid derbyn 'Na' clir gan Geredigion ynghylch cynigion y bwrdd iechyd a allai weld gwasanaethau strôc yn cael eu hisraddio yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth".
Dywedodd AS Plaid Cymru: "Byddai'r model gofal hwn yn ei gwneud hi bron yn amhosibl i berthnasau ymweld â chleifion yn ddyddiol neu'n aml, ac rydym yn gwybod pa mor bwysig yw'r ymweliadau hyn i gynorthwyo adferiad o strôc.
"Ni allwn dderbyn y cynnig hwn o fodel trin a throsglwyddo."
Yn ôl y Gymdeithas Strôc, mae ansawdd y gofal strôc a ddarperir gan ysbytai'r DU yn cael eu graddio o A-E, gydag A yn lefel gofal uchaf.
Ar hyn o bryd mae gan Fronglais sgôr o B, sy'n dangos bod y gwasanaeth yn darparu gofal da iawn.

"Digon yw digon" yn ôl Paul Davies AS sydd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn israddio gwasanaethau Llwynhelyg
Mae'r aelodau Ceidwadol o'r Senedd Paul Davies AS a Samuel Kurtz AS wedi tanlinellu pwysigrwydd hanfodol Ysbyty Llwynhelyg hefyd.
Yn ôl Mr Davies, sydd wedi bod yn ymgyrchu ers tro yn erbyn israddio gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg, "digon yw digon".
"Mae Ysbyty Llwynhelyg a'r bobl y mae'n ei gwasanaethu yn haeddu cefnogaeth a buddsoddiad, nid mwy o doriadau."
Dywedodd Mr Kurtz MS, a aned yn Llwynhelyg: "Mae pobl leol yn parhau i deimlo'n ddwfn am golli gwasanaethau hanfodol yn Llwynhelyg, gan gynnwys Uned Gofal Arbennig i Fabanod, gofal mamolaeth dan arweiniad ymgynghorwyr, ac Adran Damweiniau ac Achosion Brys plant.
"Yn aml, mae cael gwared ar un gwasanaeth yn gwneud eraill yn anhyfyw.
"Pe bai colli unrhyw wasanaeth pellach yn bygwth hyfywedd yr adran Damweiniau ac Achosion Brys, byddai hynny'n gwbl annerbyniol, ac yn wynebu gwrthwynebiad ffyrnig gan y gymuned."
'Y peth iawn i'w wneud'
Wrth lansio yr ymgynghoriad 13 wythnos, dywedodd cadeirydd y bwrdd iechyd, Neil Wooding: "Bydd angen i ni dawelu meddwl y gymuned ehangach mai dyma'r peth iawn i'w wneud nawr ar yr adeg benodol hon, a'n cymhelliad yw bod eisiau darparu gwasanaethau diogel o ansawdd gwell."
Bydd nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus yn ystod y cyfnod ymgynghori, a fydd yn dod i ben ar 31 Awst.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd24 Ionawr
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2024