Pennaeth Prifysgol Caerdydd yn amddiffyn toriadau

Un o adeiladau'r brifysgol gyda arwydd coch yn dweud Prifysgol Caerdydd a Cardiff UniversityFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu Aelodau'r Senedd yn holi penaethiaid y brifysgol am effaith y cynlluniau i dorri swyddi ar enw da y sefydliad

  • Cyhoeddwyd

Mae Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd wedi amddiffyn y ffordd mae'r sefydliad wedi mynd ati i dorri cannoedd o swyddi a chau rhai adrannau.

Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, dywedodd yr Athro Wendy Larner bod y broses wedi bod yn "anodd" ond eu bod wedi ei wneud yn "y ffordd iawn".

Cafodd ei holi am yr effaith ar enw da y brifysgol ac ar les staff, yn enwedig ar ôl gwneud tro pedol ar ddileu rhai cyrsiau, gan gynnwys nyrsio.

Daeth y cyfarfod pwyllgor ddiwrnod ar ôl i undeb ddweud bod staff yn wynebu "argyfwng iechyd meddwl difrifol" yn sgil yr ad-drefnu.

Yn ôl undeb UCU, dyw sylwadau'r is-ganghellor heb lwyddo i dawelu eu pryderon, "ac mewn rhai ffyrdd, mae hi wedi dyfnhau'r pryderon hynny".

Roedd y cynigion gwreiddiol yn cynnwys torri 400 o swyddi a chau rhai pynciau yn gyfangwbwl, gan gynnwys cerddoriaeth, ieithoedd modern a nyrsio.

Ond yn ystod proses ymgynghori, dywedodd y brifysgol na fyddai'r adrannau hynny'n cau wedi'r cyfan.

Am fod yna newidiadau i'r cynlluniau, yn ogystal a150 o staff yn gadael yn wirfoddol, mae nifer y staff sydd angen torri bellach wedi gostwng i 69 erbyn 2029-30, meddai'r Athro Larner.

Dywedodd ei bod "wrth fy modd" gyda rhai o'r cynlluniau amgen sydd wedi cael eu cynnig, ac sy'n golygu eu bod wedi gallu newid y cynlluniau gwreiddiol "yn sylweddol".

Ond dywedodd bod y cynllun, fydd yn mynd at gyngor y brifysgol i gael ei gadarnhau ar 17 Mehefin, dal yn cynnwys y bwriad i gau adrannau hanes yr henfyd a chrefydd a diwinyddiaeth.

Sylw 'anghymesur' i'r brifysgol

Pan ofynnwyd iddi a oedd hi'n difaru unrhyw beth am y broses, cyfeiriodd yr Athro Larner at y ffaith bod rhai aelodau staff wedi darganfod bod eu swyddi dan fygythiad trwy'r cyfryngau.

Dywedodd hefyd ei bod yn difaru bod y brifysgol wedi cael sylw "anghymesur" am y toriadau roedden nhw'n gwneud, er bod nifer o brifysgolion eraill yn wynebu sefyllfaoedd tebyg.

"Rwy'n gwybod bod gyda ni waith i wneud nawr wrth i ni ddod allan o'r pen arall, ond ein bwriad drwy'r adeg oedd sicrhau bod Prifysgol Caerdydd yn llwyddiannus ar gyfer y dyfodol," meddai.

Menwy gyda gwallt cyrliog brown i'w hysgwyddau yn gwenu ar y cameraFfynhonnell y llun, Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Wendy Larner ei bod "yn poeni'n fawr" am les staff y brifysgol

Daw ymddangosiad yr Athro Larner a chadeirydd cyngor y brifysgol, Patrick Younge, o flaen y pwyllgor ar ôl i Undeb y Prifysgolion a'r Colegau (UCU) ddweud bod "argyfwng iechyd a diogelwch", gyda staff yn teimlo nad oedd eu lles yn cael ei ystyried yn ddigonol.

"Rwy'n poeni'n fawr am les ein staff ac er mor galed fu'r broses hon, rydw i'n credu ein bod wedi gweithio yn galed i wneud yr hyn allwn ni i sicrhau bod staff wedi cael eu cefnogi'n ddigonol," meddai'r Athro Larner.

Dywedodd Mr Younge eu bod wedi synnu bod yr undeb wedi gofyn i'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) edrych ar effaith prosesau'r brifysgol ar les staff pan oedden nhw ar fin cytuno ar strategaeth i ateb y pryderon.

Ychwanegodd ei fod wedi'i "siomi".

Dywedodd bod y brifysgol yn parhau i wynebu heriau ariannol a bod angen gwario unrhyw arian wrth gefn ar ddyfodol y sefydliad, gan gynnwys gwella neuaddau preswyl.

Fe fyddai cost hynny tua £300m i £400m meddai.

Wrth ymateb i gwestiynau am gampws newydd y brifysgol ym mhrifddinas Kazakhstan, Astana, dywedodd yr Athro Larner eu bod wedi bod yn drwyadl wrth asesu unrhyw risgiau cyn arwyddo cytundeb.

Dywedodd bod 186 cais wedi bod hyd yma am lefydd ar y ddau gwrs sylfaen sy'n cael eu cynnig o fis Medi fel rhan o'r broses "araf" o sefydlu'r campws.

'Dyfodol y brifysgol mewn peryg'

Dywedodd llefarydd ar ran UCU fod 160 o academyddion arbenigol wedi eu colli ers cyhoeddi'r toriadau, a bod 400 yn dal i wynebu'r posibilrwydd o golli eu swyddi.

"Fe fyddai'r cynlluniau y maen nhw wedi eu llunio yn dinistrio'r brifysgol ac yn rhoi dyfodol y sefydliad mewn peryg," meddai'r undeb.

"Dan bwysau gan staff, myfyrwyr, a'r gymuned yn ehangach mae'r brifysgol wedi gorfod newid rhai o'u cynigion mwyaf niweidiol.

"Ond rydyn ni'n dal i bryderu yn fawr am y toriadau sy'n dal i gael eu cynnig - a fyddai'n peryglu enw da Prifysgol Caerdydd, ei ddyfodol ariannol, yn ogystal â'i allu i gyfrannu at addysgu o'r safon uchaf, ymchwil a hyfforddiant proffesiynol yng Nghymru."