'Argyfwng iechyd a diogelwch' ymhlith staff Prifysgol Caerdydd

Adeilad Prifysgol CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae prosesau'r brifysgol wedi eu disgrifio fel "trychineb llwyr ar gyfer iechyd staff" gan undeb UCU

  • Cyhoeddwyd

Mae undeb yn dweud bod cynlluniau i dorri swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd wedi arwain at "argyfwng iechyd a diogelwch", gyda staff yn teimlo nad oes digon o ystyriaeth wedi cael ei roi i'w lles.

Mae Undeb y Prifysgolion a'r Colegau (UCU) wedi cyfeirio Bwrdd Gweithredol Prifysgol Caerdydd (UEB) at y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) yn sgil "diffyg ymddiriedaeth a morâl" rhwng rheolwyr a staff.

Fe wnaeth y brifysgol gyhoeddi yn wreiddiol eu bod yn ystyried torri 400 o swyddi ac ailstrwythuro adrannau fel rhan o fesurau i arbed arian.

Ond yn ddiweddarach fe wnaethon nhw addo na fydd unrhyw ddiswyddiadau gorfodol yn digwydd eleni.

Dywedodd Prifysgol Caerdydd eu bod yn gweithio i gryfhau'r gefnogaeth sydd ar gael i aelodau staff.

Dydd Llun, fe wnaeth y brifysgol gyhoeddi bod 151 o staff bellach wedi ymddiswyddo yn wirfoddol, gan olygu mai 69 o swyddi llawn amser fydd angen eu torri er mwyn gallu cyrraedd eu targed ariannol.

Dywedodd yr UCU fod y sefydliad wedi methu ag ymateb i bryderon eu haelodau, y tu hwnt i gynnig datrysiadau "cosmetig ar y cyfan".

Wrth gyfeirio'r UEB at yr HSE ar 5 Mehefin, dywedodd yr undeb fod y sefyllfa yn "argyfwng iechyd a diogelwch llwyr".

Nododd fod rhai aelodau wedi dioddef problemau iechyd meddwl, gan gynnwys meddyliau ynglŷn â hunanladdiad, trafferthion wrth gyflawni cyfrifoldebau gofal, a phoeni am eu beichiogrwydd oherwydd gorbryder.

Cafodd prosesau'r sefydliad eu disgrifio fel "trychineb llwyr ar gyfer iechyd staff, llwyth gwaith y brifysgol, gwaith dydd i ddydd a'r gymuned academaidd".

Y gefnogaeth yn 'ofnadwy'

Fe wnaeth arolwg gan yr UCU ym mis Mawrth - gafodd ei anfon at 1,500 o aelodau o fewn y brifysgol - nodi bod toriadau wedi cael "effaith negyddol" ar iechyd a lles staff.

Ymhlith y 197 o aelodau wnaeth ymateb, fe wnaeth rhai nodi eu bod wedi profi iselder a gorbryder yn ogystal â phroblemau corfforol fel trafferth cysgu, colli pwysau neu flinder difrifol.

Nododd un ei bod wedi "ystyried cael erthyliad o ganlyniad i'r pryder".

Dywedodd aelod arall ei fod wedi cael meddyliau am hunanladdiad ar fwy nag un achlysur, gydag un arall yn dweud bod y gefnogaeth oedd yn cael ei gynnig gan y brifysgol yn "ofnadwy".

Adeilad Prifysgol CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae undeb UCU yn dadlau bod cynlluniau'r brifysgol wedi cael "effaith negyddol" ar iechyd a lles eu haelodau

Dyw cyhoeddiad diweddaraf y brifysgol ddim yn eu hatal rhag cyflwyno diswyddiadau gorfodol y tu hwnt i 2025, ac mae UCU wedi galw arnynt i fynd gam ymhellach er mwyn diogelu staff rhag diswyddiadau posib.

Maen nhw am weld rheolwyr yn "cydnabod yr argyfwng ac yn cymryd cyfrifoldeb llawn am yr effaith mae eu penderfyniadau yn ystod y broses yma wedi ei gael", yn ogystal â "bwrw ati i gefnogi iechyd meddwl staff ar frys a buddsoddi yn sylweddol mewn rhagor o adnoddau iechyd meddwl a chefnogaeth lles".

Fe wnaeth yr undeb gydnabod fod gofynion sy'n wynebu tîm lles y brifysgol yn sylweddol, ond nad oeddyn nhw wedi gweld unrhyw arwyddion bod y mater am gael ei ddatrys.

"O ystyried yr hyn rydyn ni wedi ei weld hyd yma o ran effaith y broses ar iechyd staff, rydyn ni'n poeni yn fawr am y ffaith bod dros 400 o staff dal yn wynebu'r posibilrwydd o golli swyddi," meddai'r undeb.

"Mae cynllun presennol y rheolwyr, fydd yn cael ei ystyried gan gyngor y brifysgol yr wythnos nesaf, yn golygu y byddai'r bobl hynny mewn peryg am flynyddoedd i ddod.

"Fe allai hyn arwain at sefyllfa drychinebus ble mae'r hyn rydyn ni wedi ei glywed wedi'n harolwg diweddar yn dod yn normal newydd.

"I fod yn gwbl blaen, fe allai hyn fod yn fater o fyw neu farw."

Arolwg UCU 'yn ddarllen anodd' i'r brifysgol

Dywedodd Prifysgol Caerdydd eu bod yn deall yr effaith mae'r misoedd diwethaf wedi ei gael ar gydweithwyr, gan ychwanegu eu bod yn wynebu "heriau sylweddol" sydd wedi eu harwain at orfod gwneud "penderfyniadau anodd iawn".

Fe wnaethon nhw ddisgrifio canlyniadau'r arolwg fel "darllen anodd iawn", a bod "cynllun gweithredu drafft wedi ei lunio ar frys, ar y cyd gyda'r undebau llafur yn dilyn trafodaethau pellach gyda UCU".

"Rydyn ni'n gwrando ac yn barod i weithio mewn partneriaeth gyda'r undebau llafur i geisio ymateb i rai materion penodol, i wella lles ar gyfer pob aelod o'n cymuned ac i sicrhau ein bod yn ymateb yn amserol."

Dywedon nhw fod cael eu cyfeirio at yr HSE yn "syndod" iddynt, ond eu bod yn barod i ddarparu "unrhyw wybodaeth sydd ei angen".

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.