Prifysgol Caerdydd yn edrych i dorri 400 o swyddi

Prifysgol CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai torri 400 o swyddi academaidd llawn amser yn cyfateb i 7% o'r weithlu Prifysgol Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu torri 400 o swyddi academaidd llawn amser er mwyn "diogelu dyfodol hirdymor" y sefydliad.

Mae'r cynigion hefyd yn cynnwys cau rhai pynciau ac adrannau yn llwyr, ac uno adrannau eraill.

Mae'r pynciau hynny'n cynnwys cerddoriaeth, nyrsio, ac ieithoedd modern a chyfieithu.

Fe gafodd y staff wybod am y newidiadau arfaethedig ddydd Mawrth, ac mae'r brifysgol wedi lansio ymgynghoriad fydd yn para 90 diwrnod.

Roedd y brifysgol wedi dweud eisoes bod angen cymryd camau i fynd i'r afael â diffyg ariannol o £30m yn y gyllideb, wrth i gostau cynyddol a llai o fyfyrwyr rhyngwladol greu pwysau ar y sector addysg uwch yn gyffredinol.

Beth fyddai'r prif newidiadau?

  • Torri 400 o swyddi academaidd llawn amser - 7% o'r gweithlu, gan ddefnyddio diswyddiadau gorfodol os oes angen;

  • Byddai pynciau Hanes yr Henfyd, Ieithoedd Modern a Chyfieithu, Cerddoriaeth, Nyrsio a Chrefydd a Diwinyddiaeth yn dod i ben;

  • Uno Cymraeg, Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, ac elfennau sy'n weddill o Hanes Archaeoleg a Chrefydd ac Ieithoedd Modern i greu Ysgol y Dyniaethau Byd-eang;

  • Uno Cemeg, Gwyddorau Daear a Ffiseg i greu Ysgol y Gwyddorau Naturiol;

  • Uno Cyfrifiadureg a Mathemateg i greu Ysgol Gwyddor Data, Cyfrifiadura a Mathemateg;

  • Uno Gwyddorau Cymdeithasol, Daearyddiaeth a Chynllunio i greu Ysgol Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol.

Yr Athro Lloyd Llewellyn-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Yr Athro Lloyd Llewellyn-Jones, Athro Hanes yr Henfyd ym Mhrifysgol Caerdydd bod y newyddion "yn sioc"

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Yr Athro Lloyd Llewellyn-Jones, Athro Hanes yr Henfyd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae hwn di bod yn seismic shock i fod yn onest.

"Mae mor depressing, mae mor drist i'n cydweithwyr ni, i teulu ni, a wy'n credu ein bod wedi cael ein stripio o'n dignity ni.

"Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw'n dyfodol ni - mae'n ofnadwy."

Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Wendy Larner: "Mae ein strategaeth newydd, a grëwyd ar y cyd â'n cymuned, yn gosod dyfodol uchelgeisiol i'n prifysgol lle mae'n gydweithredol, yn arloesol ac yn darparu gwerth i Gaerdydd, Cymru a'r byd ehangach.

"Mae sicrhau'r dyfodol hwnnw, yng nghyd-destun tynhau cyllid, yn golygu bod angen i ni wneud penderfyniadau anodd i wireddu ein huchelgeisiau i wella ein haddysg a'n hymchwil, a gwella profiad staff a myfyrwyr.

"Rydym wedi gweithio'n ddiwyd i greu cynigion cychwynnol ar gyfer prifysgol ychydig yn llai, wedi'i hailffocysu o amgylch ein cryfderau craidd.

"Rwyf am bwysleisio mai cynigion yw'r rhain, a bydd ein cynlluniau terfynol yn cael eu llunio gan ein cymuned – yn fewnol ac yn allanol – drwy ymgynghoriad ffurfiol."

Is-ganhellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy LarnerFfynhonnell y llun, Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner, eisoes wedi amlinellu sawl cam y mae'r sefydliad yn eu hystyried mewn ymateb i'r pwysau ar y sector addysg uwch

Ychwanegodd: "Rwy'n gwybod fod y cynigion hyn yn effeithio ar rai staff yn fwy nag eraill ac y byddant yn achosi llawer iawn o ansicrwydd a phryder.

"Rydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i osgoi cyrraedd y sefyllfa hon, ond... mae angen i ni weithredu nawr i sicrhau ein bod yn gallu gwireddu dyheadau ein strategaeth newydd a chael prifysgol hyfyw ar gyfer y dyfodol."

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am dri mis, ac mae disgwyl i'r cynlluniau terfynol gael eu hystyried gan Gyngor y Brifysgol ym mis Mehefin 2025.

Beth yw'r cyd-destun?

Fe gafodd ceisiadau 155 o aelodau staff am ddiswyddiad gwirfoddol eu derbyn rhwng Mehefin a Medi y llynedd, a bydd ail rownd o geisiadau yn cael ystyriaeth yn dilyn dyddiad cau yn gynharach fis yma.

Ond mae cyhoeddiad diweddaraf y brifysgol yn mynd ymhellach, gyda'r bwriad o gau 400 o swyddi.

Dywedodd yr Athro Larner yn yr hydref y byddai'r brifysgol yn datblygu ffynonellau incwm newydd a ffyrdd gwahanol o ddarparu cyrsiau.

Roedd bwriad hefyd i asesu sut mae adeiladau'r brifysgol yn cael eu defnyddio.

Ychwanegodd y byddai'r brifysgol hefyd yn ceisio sicrhau partneriaethau rhyngwladol.

Daeth cyhoeddiad ym mis Rhagfyr bod yna drafodaethau ynghylch agor cangen gyntaf y brifysgol dramor ym mhrifddinas Kazakhstan, Astana.

Dr Sion Llywelyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Sion Llywelyn Jones o UCU Caerdydd bod y toriadau "yn greulon"

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Dr Sion Llywelyn Jones UCU Caerdydd (Undeb Prifysgol a Choleg Cymru): "Ma'r toriada' 'ma just yn sioc, ma nhw'n greulon, dydan nhw ddim yn angenrheidiol.

"Ma'n neud chdi just teimlo weithie, be di pwynt gweithio'n y Brifysgol 'ma, os mai dyna sut 'ma aeloda'r grŵp rheoli yn trin i staff nhw?"

'Diffyg cyfathrebu'

Cyn y cyfarfodydd ddydd Mawrth, dywedodd cadeirydd UCU, Estelle Hart, fod yna "ddiffyg cyfathrebu" ar ran rheolwyr y brifysgol a oedd yn achosi "poen meddwl" i staff.

Wrth siarad ar raglen BBC Radio Wales Breakfast dywedodd bod rheolwyr Prifysgol Caerdydd wedi "achosi dyfalu trwy fethu â chyfathrebu".

"Mae'n deg dweud bod y sector mewn argyfwng ond yr hyn rydym wedi ei weld yng Nghaerdydd yw diffyg ystyried opsiynau eraill gan reolwyr.

"Mae anfon ebyst yn gwahodd pobl i gyfarfodydd heb unrhyw rag-rybudd yn mynd i achosi pryder."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n deall y pryder difrifol y mae cyhoeddiad Prifysgol Caerdydd wedi ei achosi i'r rhai sydd wedi eu heffeithio.

"Mae prifysgolion ar draws y DU yn wynebu cyfnod ariannol heriol o ganlyniad i nifer o ffactorau, ac ry'n ni'n disgwyl i sefydliadau weithio gydag undebau llafur, staff a myfyrwyr wrth lunio eu cynigion.

"Mae prifysgolion yn sefydliadau annibynnol, ond mae'r ffaith bod cyrsiau nyrsio yn rhan o'r cyhoeddiad yma yn siomedig, ac ry'n ni'n gweithio ar frys gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau ein bod ni'n parhau i hyfforddi'r un nifer o nyrsys yng Nghymru."