Beth yw Ymchwiliad Covid-19 Cymru?
- Cyhoeddwyd
Bydd Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig yn clywed tystiolaeth yng Nghymru o ddydd Mawrth 27 Chwefror i ddydd Iau 14 Mawrth.
Fe gafodd yr ymchwiliad ei sefydlu i ystyried parodrwydd ac ymateb y DU i bandemig Covid-19, ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.
Tra yng Nghymru fe fydd yr ymchwiliad yn holi arbenigwyr, swyddogion a gwleidyddion am "benderfyniadau craidd" a gafodd eu gwneud gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.
Fe fydd cyfle hefyd i deuluoedd a gollodd anwyliaid i rannu eu profiadau yn ystod y gwrandawiadau.
Pwy sy'n arwain yr ymchwiliad?
Mae'r ymchwiliad dan gadeiryddiaeth cyn-farnwr y Llys Apêl, y Farwnes Heather Hallett DBE.
Mae eisoes wedi cynnal gwrandawiadau yn Llundain a'r Alban.
Strwythur yr ymchwiliad
Er mwyn edrych ar wahanol agweddau mae'r ymchwiliad wedi'i rannu yn gyfres o fodiwlau.
Modiwl 1 - Gwydnwch a pharodrwydd y DU ar gyfer pandemig.
Fe gafodd gwrandawiadau'r modiwl hwn eu cynnal yn Llundain ym Mehefin a Gorffennaf 2023.
Pwrpas y modiwl yw asesu a oedd cynllun digonol ar gyfer y pandemig, ac a oedd y DU yn gwbl barod ar gyfer y posibilrwydd hwnnw.
Modiwl 2 - Penderfyniadau craidd y DU a rheolaeth wleidyddol.
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar edrych ar lywodraethu gwleidyddol a gweinyddol a phenderfyniadau "craidd" yn ystod y pandemig.
Mae hyn yn cynnwys yr ymateb cychwynnol, penderfyniadau’r llywodraeth ganolog, perfformiad gwleidyddol a'r perfformiad gwasanaeth sifil, yn ogystal ag effeithiolrwydd y berthynas â llywodraethau datganoledig a’r sectorau lleol a gwirfoddol.
Mae modiwl 2 wedi'i rannu ymhellach er mwyn ystyried penderfyniadau'r llywodraethau datganoledig.
Modiwl 2A - Yr Alban
Modiwl 2B - Cymru (Mae'r gwrandawiadau yng Nghaerdydd yn rhan o'r modiwl hwn)
Modiwl 2C - Gogledd Iwerddon
Modiwl 3 - Effaith pandemig Covid-19 ar systemau gofal iechyd ym mhedair gwlad y DU
Modiwl 4 - Brechlynnau a therapiwteg
Modiwl 5 - Caffael
Modiwlau newydd
Bydd modiwlau ychwanegol yn cael eu cyhoeddi yn y misoedd nesaf ac yn ystyried y meysydd canlynol:
Profi ac olrhain
Ymatebion busnes ac ariannol y llywodraeth
Anghydraddoldebau iechyd ac effaith Covid-19
Addysg, plant a phobl ifanc
Gwasanaethau cyhoeddus eraill, gan gynnwys darpariaeth rheng flaen gan weithwyr allweddol.
Beth fydd y pynciau trafod yng Nghymru?
Fe fydd y gwrandawiadau yn canolbwyntio ar y penderfyniadau gan grwpiau allweddol neu unigolion o fewn Llywodraeth Cymru, yn bennaf yn ystod y cyfnod rhwng Ionawr 2020 a Mai 2022 - pan godwyd y cyfyngiadau diwethaf.
Mae'n debygol y bydd yr ymchwiliad yn ystyried y canlynol:
Y berthynas a'r cyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, llywodraethau datganoledig eraill ac awdurdodau lleol;
Dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o natur a lledaeniad Covid-19, yn ogystal â'r ymateb, gan ystyried gwybodaeth ddaeth gan Lywodraeth y DU, cyrff cenedlaethol/rhyngwladol ynghyd ag ymgynghorwyr gwyddonol a meddygol;
Amseru a pha mor rhesymol oedd penderfyniadau fel cyflwyno'r cyfnod clo, cyfyngiadau lleol, gweithio gartref, cadw pellter cymdeithasol, lleihau cyswllt rhwng pobl, gorchuddion wyneb ac unrhyw wahaniaethau polisi yng Nghymru;
Y defnydd o arbenigedd meddygol a gwyddonol. Pa fath o gasglu neu fodelu data oedd yn digwydd i asesu cyfraddau trosglwyddo, heintio a marwolaethau;
Negeseuon a chyfathrebu iechyd cyhoeddus - tryloywder y negeseuon yn ogystal â hyder y cyhoedd ynddyn nhw;
Deddfwriaeth a rheoliadau - pa mor gyfrannol oedden nhw, yn ogystal â sut y cawson nhw eu gorfodi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2024