Tad eisiau yswiriant cŵn gorfodol ar ôl ymosodiad ar ei ferch

Lilly gyda chraith ar ei hwyneb yn dilyn ymosodiad gan gi yn 2023Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Lilly sydd bellach yn 11 oed, graith ar ei boch ac o amgylch ei llygad yn dilyn yr ymosodiad yn 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae tad i ferch o Ben-y-bont ar Ogwr sydd â chreithiau ar ei hwyneb yn dilyn ymosodiad gan gi yn galw am newid y gyfraith yn ymwneud ag yswiriant ar gyfer anifeiliaid anwes.

Ar hyn o bryd, does dim rheidrwydd cyfreithiol i berchnogion anifeiliaid yn y Deyrnas Unedig gael yswiriant.

Ond ar ôl yr ymosodiad ar ei ferch Lilly, mae Alex yn credu y dylai fod yn orfodol, yn yr un modd ag yswiriant car, er mwyn gallu hawlio am gostau fel gofal meddygol a iawndal.

Dywedodd llefarydd ar ran adran DEFRA Llywodraeth y DU eu bod yn gweithio'n galed i edrych ar ffyrdd o leihau ymosodiadau gan gŵn, a hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol o gŵn o bob brîd.

Alex a'i ferch Lilly ar ôl i gi ymosod arni
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Alex fynd â'i ferch Lilly i'r ysbyty ar ôl yr ymosodiad, gan ddweud ei fod yn "erchyll"

Rhybudd: Mae'r stori yn cynnwys manylion a lluniau all beri loes

Roedd Lilly yn 10 oed pan ddigwyddodd yr ymosodiad ym mis Medi 2023.

Roedd hi newydd orffen chwarae pêl-droed gyda chymydog pan wnaeth ci Staffodshire bull terrier ei brathu ar ei hwyneb.

Dywedodd ei thad ei fod "yn erchyll".

"Roedd fy ngwraig a fi yn gwylio'r teledu, gyda fy merch ieuengaf yn cael plethu ei gwallt," meddai Alex.

"Roedd Lilly wedi bod yn chwarae pêl-droed gyda'r bechgyn lleol, ac fe aeth yn ôl i gartref un ohonyn nhw, ac fe glywson ni sgrech gan mai dim ond 50 llath i ffwrdd oedd hi.

" Fe welson ni Lilly yn dod oddi yno gyda rhan o'i hwyneb ar goll.

"Roedd yna lawer o waed."

Fe yrrodd Alex ei ferch i'r uned ddamweiniau yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont.

Dywedodd Alex iddi ofyn iddo yn y car "ydw i'n mynd i farw, dad?".

"Mae hi'n blentyn cryf, ond roedd yn amlwg yn boenus ac roedd hi'n crio llawer, gyda'r sioc wedi ei throi yn welw," meddai.

Cafodd Lilly lawdriniaeth yn Ysbyty Treforys yn Abertawe yn fuan wedyn ac fe dreuliodd ddwy noson yn yr ysbyty.

"Roedd fy ffrindiau yn poeni amdana i pan oeddwn i yn yr ysbyty. Dwi'n gwella, ond bob hyn a hyn mae'n codi braw a weithiau dwi'n edrych ar fy nghraith a dwi ddim yn hoffi sut mae'n edrych ac mae'n fy nychryn i bod hyn yn gallu digwydd," meddai.

"Rwy'n rhoi eli ar y graith bron bob nos i'w helpu i wella."

'Ofni y gall ddigwydd i eraill'

Mae gan y teulu hefyd gi o'r enw Snapple, ac roedd Lilly yn bryderus am fynd yn agos ato ar ôl yr ymosodiad gan gi'r cymydog.

Tydyn nhw ddim yn gadael i'w ci fod o gwmpas pan mae yna westeion yn y tŷ oherwydd ei fod yn gwneud i Lilly deimlo'n bryderus

Dywedodd Lilly: "Pan oedd Snapple yn tisian, fe fyddai'n gwneud i fi neidio ac fe fyddwn i'n dechrau crio, ond rwan dwi ddim yn wir yn poeni amdanaf fy hun, ond yn ofni y gall ddigwydd i bobl eraill."

Yn ôl Alex cafodd y ci wnaeth ymosod ar Lilly ei ddifa, a chafodd y perchennog ddirwy.

"Mae'n fy ypsetio gan nad oedd unrhyw beth arall y gallwn i ei wneud a dim byd y gallen ni fod wedi ei wneud i'w atal," meddai.

"Tydi o ddim yn rhywbeth yr ydach chi'n ei ddisgwyl 50 llath o'ch drws blaen eich hun."

Anafiadau Lilly yn syth ar ôl yr ymosodiad gan gi yn 2023Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Yr anafiadau gafodd Lilly ar ôl i gi frathu ei hwyneb

Tydi Lilly ddim wedi cael cwnsela oherwydd y rhestrau aros, ac mae ei thad yn ei disgrifio fel plentyn "gwydn".

Ar ôl cael cyngor gan feddyg teulu lleol, fe wnaeth Lilly ddechrau cadw dyddiadur, gyda'i rhieni yn cael ei ddarllen ac yn mynd i'r afael ag unrhyw faterion ynddo ac yn gweld sut y gallen nhw helpu.

Mae hi hefyd wedi derbyn cymorth gan ei hysgol gynradd, gan gael sgyrsiau wythnosol gydag athro a rhannu sut mae hi'n ymdopi ar ôl yr ymosodiad.

Dywedodd Alex bod ei ferch yn emosiynol oherwydd y graith wrth iddi fynd i'w noson prom wrth adael yr ysgol gynradd.

"Mae'n adeg pan mae pawb yn gwisgo i fyny ac roedd Lilly yn upset wrth iddi baratoi," meddai,

"Fy mhryder wrth iddi fynd yn hŷn, os bydd angen iddi gael llawdriniaeth i wella'r graith, na fydd hi'n gallu cael hynny ar y GIG, ac y bydd yn rhaid iddo gael ei wneud yn breifat.

"Dwi ddim yn meddwl ei fod yn deg na all hi gael cymorth i wella craith pan nad oes bai arni hi am yr hyn ddigwyddodd."

Mae Lilly yn dweud bod gweld y graith yn codi braw arni weithiauFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lilly yn dweud bod gweld y graith yn codi braw arni weithiau, a'i bod yn poeni y gall ddigwydd i rywun arall

Mae Alex bellach yn galw am newid y gyfraith, ac i bob perchennog ci orfod yswirio eu hanifail.

Mae grŵp defnyddwyr, Which, yn dweud y byddai gan y polisïau yswiriant anifeiliaid sydd ar gael ar hyn o bryd, atebolrwydd trydydd parti.

Mae hynny'n golygu, petai eich ci yn anafu rhywun neu'n difrodi eiddo, y byddai'r yswiriant yn talu am gostau a iawndal.

Dywedodd Alex: "Fe ddylai fod mor arferol a bod yn berchen ar gar, y dylai unrhyw berchennog anifail, ac yn enwedig cŵn gael yswiriant.

"Os ydach chi'n berchen ar anifail allai achosi niwed, y peth lleiaf ddylai ddigwydd ydi eu bod wedi eu hyswirio ar gyfer unrhyw niwed posib.

"Mae'n ymddangos yn wallgof nad ydi hynny eisoes yn digwydd."

"Mae ganddon ni yswiriant ar gyfer ein ci a tydi o ddim yn rhad, mae llawer o bobl yn cael trafferthion ariannol, felly tydyn nhw ddim eisiau talu yswiriant.

"Rydyn ni eisiau iddo fod yn rheidrwydd cyfreithiol, os ydach chi'n berchen ar gi bod yn rhaid ei yswirio."

Pynciau cysylltiedig