Dewch i grwydro... Conwy, Môn a Gwynedd

Mae Rhian Davies yn arwain teithiau ers dros ddeng mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru Fyw wedi gofyn i dywysion swyddogol o amgylch Cymru i roi cyngor am lefydd difyr i fynd dros gyfnod gwyliau'r Pasg.
Mae Rhian Davies yn byw mewn bwthyn ar ochr mynyddoedd y Carneddau.
Dywedodd: "Fel Tywysydd Twristiaid Bathodyn Glas Swyddogol dros Gymru, derbyniais BA Anrhydedd mewn Tywys Twristiaid yn 2010, ac erbyn hyn yn arbenigo mewn tywys profiadau unigryw, difyr a hwyliog.
"Mae cymaint o lefydd arbennig ag ysbrydoledig o fewn cyrraedd hawdd i ardal Conwy, a dwi'n teimlo'n lwcus iawn i fyw a gweithio mewn lle mor fendigedig.
"Felly dyma rhai i'w rhannu gyda chi…"
Plas Mawr, Conwy

Mae'n cael ei adnabod fel y tŷ Elisabethaidd gorau ym Mhrydain. Mae llawer o ymwelwyr yn canolbwyntio ar y Castell, sydd wrth gwrs yn werth ei weld.
Ond mae Plas Mawr yn drysor go iawn hefyd.
Adeiladwyd rhwng 1576 a 1585 gan Syr Robert Wynn, trydydd mab y teulu Wynniaid, Castell Gwydir, Llanrwst ar y pryd.
Ewch i mewn, a byddwch yn cerdded i mewn i'r gorffennol. Mae wedi ei ddodrefnu fel y byddai yn y 1600au.
Mae Plas Mawr wedi'i leoli ar y brif stryd yn nhref Conwy.
Hen Eglwys Llangelynnin

Fy milltir sgwâr go iawn. Ewch i'r Eglwys i gael ennyd o heddwch – safle ysbrydol iawn gyda'r rhan hynaf yn dyddio yn ôl i'r ddeuddegfed ganrif.
Wedyn cerddwch am ryw ddau gan llath i gyfeiriad Rowen ac mi welwch olygfeydd godidog dros Ddyffryn Conwy. Mae'r hen ffordd y byddwch yn sefyll arni yn rhan o Lwybr y Pererin, sy'n rhedeg o Dreffynnon i Ynys Enlli.
Os ydych yn edrych i gerdded ychydig ymhellach, trowch yn ôl am yr Eglwys, a'i heglu hi fyny am y mynydd.
Ewch am grwydr i ddarganfod trysorau – Maen Penddu, Caer Bach, Cylch Hafoty – a byddwch yn cael eich taflu yn ôl miloedd o flynyddoedd. Golygfeydd heb eu hail!
Mi welwch yr arfordir, Castell Conwy, ag i fyny'r Dyffryn.
Ag os ydych yn cadw reit dawel, efallai y gwelwch rhai o ferlod gwyllt y Carneddau…
Ynys Llanddwyn, Ynys Môn

Tua phedair milltir i'r ynys ag yn ol o'r maes parcio, ond cofiwch edrych amseroedd y llanw!
Am le godidog, a chartref ysbrydol Santes Dwynwen, ein Nawddsant Cariadon.
Rwy'n hoff o gerdded am yr ynys drwy'r coed, yna croesi dros y traeth, a chymryd y llwybr i'r ochr dde – fe welwch stepiau yn y graig.
Byddwch yn pasio traethau bychan, ac yn gweld y goleudy o'ch blaen. Wedyn cerddwch yn ôl heibio'r bythynnod, ac ewch i gael golwg ar adfeilion Eglwys Santes Dwynwen.
Llun da i'w gael o fynyddoedd Eryri drwy agoriad ffenestr yr Eglwys. Edrychwch allan am ferlod yn fan hyn hefyd!
Chwarel Dinorwig, Llanberis

Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn awr yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Ewch i weld hanes Chwarel Dinorwig, sydd wedi bod ar gau ers 1969, a mwynhau picnic ym Mharc Padarn wrth edrych dros y llyn, neu neidio ar y trên stêm sy'n rhedeg ar ran o'r lein a fyddai yn cludo'r llechi i lawr i Bort Dinorwig.
O fan honno byddant yn cael eu llwytho ar y llongau ac yn cael eu hallforio dros y byd.
Os ydych yn teimlo fel mynd am dro ar ôl eich picnic, ewch i Allt Ddu, a cherdded draw tua'r chwarel – golygfeydd syfrdanol tuag at Grib Goch a'r Wyddfa.
Mae rhannau o Chwarel Dinorwig i'w gweld o fan hyn – a sôn am le! Fe welwch sut mae natur wedi ail gydio ers i'r chwarel gau, a geifr yn crwydro lle bu 3000 o ddynion yn gweithio pan oedd y chwarel yn ei hanterth.
Cofiwch ddilyn y llwybr – mae ffens i atal mynediad i'r chwarel ei hun yna er pwrpas - nid oes mynediad cyhoeddus i'r chwarel oherwydd peryglon.
Ond yn wir werth mynd am dro ar hyd y llwybr cyhoeddus.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd14 Ebrill
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl