'Achosion cyson' o hiliaeth yn ysgolion Cymru - arolwg

DisgyblFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae pum cyngor yn ne ddwyrain Cymru yn dweud eu bod nhw am wella'r ffordd maen nhw'n ymateb i achosion o hiliaeth yn erbyn disgyblion a staff, ar ôl i ymchwiliad ddarganfod achosion cyson o hiliaeth o fewn ysgolion.

Fe wnaeth academyddion o Brifysgol Metropolitan Caerdydd ddarganfod fod bwlio hiliol weithiau yn cael ei esgusodi fel 'banter'.

Mae'r adroddiad yn galw am greu ffordd gyson o gofnodi a delio hefo achosion o hiliaeth ar draws holl ysgolion Cymru.

Dywedodd Bwrdd Diogelu Gwent, a gomisiynodd yr ymchwiliad, bod yr adroddiad wedi cadarnhau eu pryderon fod achosion yn mynd heb eu hadrodd.

Fe siaradodd ymchwilwyr gyda disgyblion, rhieni a staff ar draws 10 ysgol fel rhan o'r prosiect "graddfa fach" yn 2023.

Daeth i'r amlwg bod hiliaeth yn gyffredin ym mywydau sawl cyfrannwr, a'u bod nhw'n ei brofi yn eu hysgolion a chymunedau.

'Ddim eisiau cael nhw i drwbl'

Mewn rhai achosion, ni wnaeth plant adrodd achosion o hiliaeth oherwydd eu bod nhw'n poeni am greu helynt i ffrindiau.

Dywedodd un disgybl: "Cefais fy ngalw yr n-word, ond dwi ddim yn meddwl fod y plentyn yn gwybod beth oedd o'n meddwl, felly wnes i ddim ei adrodd.

"O'n i ddim eisiau cael nhw i mewn i drwbl."

Roedd hefyd esiamplau o blant yn profi hiliaeth tu allan i giatiau'r ysgol, a chael eu galw'n enwau hiliol ar fysiau ysgol ac yn y safle bws.

Mae rhai wedi gweld graffiti hiliol ar y ffordd i'r ysgol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd rhai plant eu bod wedi cael eu galw'n enwau hiliol wrth fynd i ac o'r ysgol

Fe wnaeth yr ymchwilwyr hefyd glywed gan rieni a ddywedodd eu bod nhw wedi cael eu dilyn gan swyddogion wrth siopa.

Mae'r adroddiad wedi galw am ddull dim goddefgarwch i ymdrin â hiliaeth, gan gynnwys beth ddisgrifiodd rhai fel 'banter'.

Mae angen proses glir i ddelio gydag achosion, mae'n dadlau.

Dywedodd rhai disgyblion a staff nad oedden nhw'n hyderus y byddai unrhyw beth yn cael ei wneud ynghylch cwynion o hiliaeth, felly doedd "dim pwynt" gan ei fod ond yn achosi "mwy o siom iddyn nhw a'u teuluoedd".

Er hyn, dywedodd yr adroddiad bod enghreifftiau o ymarferion da.

Tystiolaeth 'sobreiddiol'

Dywedodd awdurdodau Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen - aelodau Bwrdd Diogelu Gwent - eu bod nhw’n cefnogi ysgolion i gynnig hyfforddiant gwrth-hiliaeth i'w staff wrth wella eu systemau adrodd.

"Roedd y sylwadau gan y plant, pobl ifanc a staff yn hynod o siomedig weithiau, a wastad yn sobreiddiol," dywedodd Gareth Jenkins, cyd-gadeirydd Bwrdd Diogelu Gwent.

"Nid yw hyn am roi bai, ond am ddysgu sut all pethau gael eu gwella i sicrhau bod ein hysgolion yn fwy diogel, ac yn fwy cynhwysol i bawb."

Daw ar ôl i adroddiad gan Gomisynydd Plant Cymru yn 2023 ddweud bod trais hiliol yn digwydd yn rheolaidd mewn ysgolion ac yn cael ei "normaleiddio" gan ddisgyblion.

Mewn ymateb i'r adroddiad yna, dywedodd Llywodraeth Cymru bod hiliaeth mewn ysgolion yn annerbyniol a'i fod yn bwysig i wrando i blant a phobl ifanc.

Dadansoddiad Bethan Lewis, Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

Fe ofynnodd bump o awdurdodau lleol y de ddwyrain am ddarlun o brofiadau disgyblion, staff a rhieni o hiliaeth ac mae’n destun tristwch meddai’r ymchwilwyr nad yw'r hyn glywon nhw yn syrpreis.

Roedd themâu tebyg mewn adroddiad gan y Comisiynydd Plant y llynedd a oedd hefyd yn galw am ymateb mwy cyson a chadarn gan ysgolion i ddigwyddiadau hiliol.

Mae’r academyddion o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn dweud eu bod yn croesawu cyfleoedd i addysgu plant fel rhan o’r pwyslais ar ‘gynefin’ ac ar hanes a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yn y cwricwlwm newydd.

Ond dydy ysgolion ddim yn gallu datrys problem sydd i’w gweld yn y gymdeithas ehangach ar eu pennau eu hunain.

Serch hynny, mae’r adroddiad yn gweld eu rôl yn allweddol o ran herio agweddau hiliol mewn rhai plant ifanc iawn, ac fel cyswllt gyda rhieni a’r gymuned tu hwnt i’r ysgol.