Anogaeth i Man City dorri cysylltiad gyda chyn-seren bêl-droed
- Cyhoeddwyd
Mae Manchester City wedi cael eu hannog i dorri cysylltiadau gyda’r pêl-droediwr Natasha Harding, sy’n wynebu honiadau ei bod wedi cymryd miloedd o bunnau gan gyd-chwaraewyr, rhieni a busnesau ac heb eu talu yn ôl.
Mae cyn-seren Cymru, sydd bellach yn defnyddio ei chyfenw priodasol Allen-Wyatt, yn aml yn ymddangos fel sylwebydd ar gemau menywod Man City.
Mae hi’n wynebu honiadau sy’n cynnwys cymryd arian am hyfforddiant un-i-un gyda phlant, wnaeth wedyn ddim digwydd.
Dywedodd Ms Allen-Wyatt ei bod hi wedi gorfod canslo “rhai sesiynau” oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth, gan ymddiheuro i’r rheiny gafodd eu heffeithio.
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2024
Ers i’r BBC adrodd ar yr honiadau gan rieni, cyd-chwaraewyr a busnesau wnaeth noddi Academi Tash Harding, mae eraill wedi cysylltu i ddweud eu bod nhw hefyd wedi colli arian.
Mae’r BBC yn deall bod adroddiadau wedi eu gwneud i sawl llu heddlu yng Nghymru a Lloegr, a rhai wedi cael eu pasio i Action Fraud.
Dywedodd Action Fraud bod o leiaf un adroddiad “yn cael ei asesu ar hyn o bryd” gan y Fenter Twyll Cenedlaethol.
Mae’r BBC yn deall nad yw Ms Allen-Wyatt yn cael ei chyflogi’n uniongyrchol gan Man City, ond mae hi wedi bod yn gwneud gwaith llawrydd iddyn nhw tan yn ddiweddar.
Fe wnaeth hi ymddangos fel sylwebydd ar raglen Matchday Live y clwb ar 8 Tachwedd ochr yn ochr â chyn-golwr Lloegr, Karen Bardsley, sydd bellach yn rheoli Academi Merched Manchester City.
Mae gwefan y clwb hefyd yn nodi iddi sylwebu ar y gêm WSL rhwng Man City a Chelsea ar 16 Tachwedd.
Fe wnaeth Ms Allen-Wyatt, a enillodd 103 o gapiau dros Gymru, chwarae i Man City yn 2015 cyn cynrychioli Lerpwl, Reading ac Aston Villa.
Mae Manchester City wedi cael cais am sylw.
'Dyletswydd moesol'
Dywedodd Steve Lloyd, cadeirydd clwb sy’n honni iddyn nhw golli £650 ar ôl buddsoddi yn Academi Tash Harding yn gynharach eleni, y dylai Man City deimlo “dyletswydd moesol” i dorri cysylltiadau gyda Ms Allen-Wyatt.
Ychwanegodd bod rhaid rhoi clod i Man City fel clwb sy’n “gefnogwr mawr o gêm y merched”, ond bod angen siarad yn agored.
“I gael y llwyfan mae Manchester City yn ei gynnig [i Ms Allen-Wyatt], dwi’n meddwl bod dyletswydd moesol arnyn nhw i beidio â’i chyflogi hi’n llawrydd,” meddai.
Ychwanegodd y dylai’r clwb “siarad allan o blaid y bobl sydd wedi gwneud yr honiadau yma, yn hytrach na brwsio’r peth dan y carped”.
Mae Dreigiau Dâr yn Aberdâr yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac yn ceisio darparu hyfforddiant am ddim i blant o bob cefndir.
Maen nhw’n dweud eu bod wedi talu £650 i Ms Allen-Wyatt er mwyn cael 20% o elw’r academi, a 12 sesiwn hyfforddi gyda’r clwb.
Dim ond dwy sesiwn gafodd eu cynnal, a chafodd y clwb ddim elw o’r academi.
Roedd Steve a rhiant arall hefyd wedi talu am floc o sesiynau hyfforddi un-i-un ar gyfer eu plant, wnaeth ond gael eu cynnal yn rhannol.
Maen nhw’n dweud eu bod wedi gofyn am ad-daliad, ond heb dderbyn arian yn ôl eto.
Roedd ei ferch 10 oed Eliza, meddai Steve, wedi gobeithio chwarae dros Gymru ryw ddydd ond nawr roedd hi’n “drist” pan na ddigwyddodd y sesiynau.
“Fel 'dyn ni gyd yn gwybod, mae llawer mwy o rieni, cwmnïau ac unigolion eraill sydd wedi dioddef yr un torcalon hefyd,” meddai ar Radio Wales Breakfast ddydd Iau.
“Yn ddelfrydol byddai’n grêt petai pawb yn cael eu harian yn ôl, ond mae’n mynd i fod yn broses hir ac anodd.”
Wnaeth Ms Allen-Wyatt ddim ymateb i’r honiadau gan ei chyn cyd-chwaraewyr, na chan fusnesau.
Dywedodd ei bod wedi canslo sesiynau oherwydd amgylchiadau gan gynnwys “difrod i fy nghar, a’r ail gar yn torri lawr”, a bod arian wedi ei ad-dalu i rai rhieni a’i gytuno gydag eraill.
Dywedodd ei bod wedi sefydlu’r academi er mwyn darparu “hyfforddiant technegol manwl” ar gost isel, i roi cyfleoedd i blant “na ches i erioed”.
Ychwanegodd ei bod yn dal i weithredu gan “ddarparu sesiynau lleol”.