Iechyd meddwl: Clwb Rygbi Nant Conwy'n annog trafodaeth
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl ganlynol yn cynnwys gwybodaeth allai beri gofid.
Mae un o glybiau rygbi’r gogledd wedi sefydlu grŵp i godi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl.
Bwriad aelodau Clwb Rygbi Nant Conwy ger Llanrwst ydy ei gwneud hi’n haws i chwaraewyr, cefnogwyr ac aelodau o’r gymuned ehangach i drafod materion sy’n eu pryderu.
Roedd un o’u chwaraewyr, Aaron Newman, wedi lladd ei hun yn 20 oed y llynedd.
Yn ôl ei deulu a’i ffrindiau mae angen i bobl fedru siarad yn agored am eu problemau.
'Hogiau rygbi angen dangos cryfder'
Yn ôl un o ffrindiau a chyd-chwaraewyr Aaron, doedd dim awgrym fod ei ffrind yn dioddef pan welson nhw ei gilydd ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth.
"Mae wedi bod yn flwyddyn anodd," meddai Carwyn Jones.
"Blwyddyn 'di mynd yn sydyn ond 'dan ni’n colli Aaron a 'dan ni’n ei golli fo wrth y bwrdd, pan 'dan ni’n cael peint ar nos Sadwrn, neu yn y group chat pan o’dd o’n gyrru pethau gwirion mewn i ni, neu tecst funny a ballu.
“Does yna neb yn gallu deud os ydy rhywun yn stryglo achos does yna neb wirioneddol yn gwybod beth sy’n mynd 'mlaen ym mhennau lot o bobl. Dyna sy’n drist.
"Mae’n ofnadwy bod hogyn fatha Aaron yn methu agor fyny a d'eud wrth ei ffrindiau be' mae o’n ei boeni am, be' sy’n mynd o’i le yn ei fywyd ac mae’n drist ofnadwy be' wnaeth o yn diwedd.”
Yn ôl Carwyn Jones mae’r "tabŵ" sy’n dal ynghlwm ag iechyd meddwl yn ei gwneud hi’n anodd siarad yn agored.
“I ddynion yn enwedig mae agor fyny yn gallu dangos gwendid, yn enwedig i hogiau rygbi gan fod y gêm mor gorfforol, bo' ti angen dangos dy gryfder.
“Dwi’n meddwl bod agor fyny yn bwysig ond dwi ddim yn meddwl bod pobl yn gwbo' pa mor bwysig 'di o.
“Ma' pawb yn stryglo – mae hynna’n ffaith a dydi pawb ddim yn agor fyny a dwi’n meddwl bod hynna yn arwain at bethau drwg.”
'Ceisio torri’r stigma'
Mae tad Aaron, Phillip Newman yn aelod o bwyllgor Dal Dy Dir fydd yn ceisio helpu pobl i chwilio am help.
Yn ôl Mr Newman roedd Aaron yn gymeriad mawr, hwyliog a direidus ac yn chwaraewr caled a dewr, ond roedd ganddo “ei frwydrau ei hun” oddi ar y cae.
“Roeddem ni’n gwybod am rai problemau ac mi gafodd ei anfon i gael ychydig o gymorth," meddai.
“A dwi’n meddwl bod hynny’n mynd yn groes i gymeriad Aaron - chwilio am gymorth efo rhywbeth roedd o falle’n teimlo oedd yn fater gwirion nad oedd angen poeni amdano.
“A dwi’n teimlo ei fod o’n gyndyn o gymryd rhan yn y broses yn llawn.
“Mae’r gwaith 'den ni’n wneud yn Nant Conwy yn ceisio torri’r stigma yna ac annog pobl i chwilio am help a rhoi gwybod iddyn nhw lle i gael cymorth, a defnyddio’r cymorth hwnnw’n llawn.”
Mae ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn awgrymu bod cyfradd hunanladdiad y llynedd ar ei uchaf ers 1999 gyda 11.4 marwolaeth fesul 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru a Lloegr yn 2023.
Roedd y gyfradd yn uwch ymysg dynion - 17.4 marwolaeth fesul 100,000 o’r boblogaeth - eto yr uchaf ers 1999.
Ymysg merched roedd y gyfradd yn 5.7 marwolaeth fesul 100,000 o'r boblogaeth, yr uchaf ers 1994.
Roedd y gyfradd yn uwch yng Nghymru (14 marwolaeth fesul 100,000) nag yn Lloegr (11.2 fesul 100,000).
Fel rhan o ymgyrch Dal Dy Dir, bydd rhai o aelodau Clwb Rygbi Nant Conwy yn gwisgo dillad a breichledau i roi gwybod i eraill y gallan nhw helpu gyda chymorth iechyd meddwl.
Mewn cydweithrediad â sefydliad Speakeasy Club, sy’n gweithio yn y maes iechyd meddwl a chwaraeon, bydd mainc yn cael ei phaentio’n binc ac arni god QR i bobl fedru ei sganio’n ddirgel os ydyn nhw’n dymuno.
Bydd y cod yn arwain y darllenydd at wefannau fel y Samariaid a Sefydliad DPJ.
Cefn gwlad
Un aelod o’r pwyllgor ydy Alun Jones sy’n hyfforddwr sydd wedi byw gydag iselder yn y gorffennol ar ôl colli baban i feningitis 17 mlynedd yn ôl.
“Tan mae rhywun yn agor allan ac yn siarad a derbyn lle ma' nhw o fewn y broses o iselder, yna does yna ddim modd symud allan ohono fo,” meddai Mr Jones.
“Yn anffodus iawn fel teulu mi ddaru ni gael colled enbyd o golli Mam jest cyn 'Dolig flwyddyn diwetha' 'ma. Ac yn anffodus hunanladdiad oedd hynny.”
“Felly mae’r grŵp yma Dal Dy Dir a bod yn rhan o’r grŵp yma i helpu ac annog pobl eraill i agor allan a siarad yn rhywbeth dwi’n meddwl ei fod yn bwysig iawn i ni fel clwb.
“Mewn clwb fel Nant Conwy, 'den ni mewn ardal amaethyddol gryf iawn yn yr ardal yma.
“Ac fel 'dech chi’n gwybod mae 'na broblemau enfawr o fewn i’r maes amaethyddiaeth.
“Y problemau sydd ar ysgwyddau lot o’r chwaraewyr 'ma, mae annog rhywun i agor allan, mae’n bwysig bod y deialog yn cael ei agor allan."
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan gynnwys yr erthygl yma, mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar wefan BBC Action Line
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd27 Awst