Drysfa corn yn codi arian i elusen iechyd meddwl

Disgrifiad,

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwr yn ardal Y Bala wedi creu drysfa o gnwd corn, yn siâp Y Ddraig Goch, er mwyn codi arian i elusen iechyd meddwl.

Yn ôl Aled Lewis o Fferm Maesyfallen, mae’r ddrysfa wedi cael “ymateb ffantastig” gan deuluoedd yr ardal.

Mae tair lefel i’r ddrysfa, ac ar hyn o bryd dim ond pedwar teulu sydd wedi cyflawni’r drydedd lefel, yr un anoddaf.

Bydd yr arian sy’n cael ei godi yn mynd tuag at gost creu’r ddrysfa ac i elusen DPJ, sy’n cefnogi iechyd meddwl pobl yn y sector amaethyddol.

Disgrifiad o’r llun,

Cyfaddefodd Aled Lewis ei fod yntau wedi mynd “ar goll braidd” yn torri’r cnwd

Penderfynodd Aled i greu’r ddrysfa gan ei fod yn “rhywbeth da i godi prês” ynghyd â “gwneud defnydd o’r pridd”.

Dywedodd fod y broses o greu’r cnwd “ddim mor anodd ag y mae e’n edrych”.

Y broblem fwyaf oedd cael y cnwd ei hun i dyfu, meddai.

Cyfaddefodd ei fod ef ei hun wedi mynd “ar goll braidd” yn torri’r cnwd er mwyn creu’r ddrysfa!

Pynciau cysylltiedig