Enwi Tomos Williams yn chwaraewr y flwyddyn Uwch-gynghrair Lloegr

Mae Tomos Williams wedi ennill 65 o gapiau dros Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae mewnwr Cymru, Tomos Williams wedi cael ei ddewis fel chwaraewr y flwyddyn yn Uwch-gynghrair Lloegr ar ôl serennu i Gaerloyw.
Fe ymunodd Williams, sy'n 30 oed ac wedi chwarae 65 o weithiau i Gymru, gyda Chaerloyw o Rygbi Caerdydd yn 2024.
Gorffennodd Caerloyw yn y pumed safle yn y Premiership y tymor diwethaf, gan fethu allan ar le yn y gemau ail gyfle o ddau bwynt yn unig.
Ond roedd perfformiadau Williams yn ddigon iddo sicrhau ei le yng ngharfan y Llewod ar gyfer eu taith i Awstralia yn yr Haf. Mae'n un o ddau Gymro i gael eu cynnwys.
"Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl y tymor yma, fe wnes i gyrraedd gyda meddwl agored ac rydw i wir wedi mwynhau," meddai Williams.
"Fyswn i ddim wedi gallu dewis clwb gwell na Chaerloyw. Mae'r hyfforddwyr wedi bod yn wych ac mae'r ffordd o chwarae wedi apelio hefyd.
"Rydyn ni wedi cael rhyddid i fynegi ein hunain ar y cae, ac mae hynny wedi bod yn amlwg drwy gydol y tymor.
"Dwi'n meddwl fy mod i a gweddill y bechgyn wedi elwa o hynny."

Tomos Williams a Jac Morgan fydd yr unig Gymry yng ngharfan y Llewod yn yr Haf
Dadansoddiad
Ers iddo ennill ei gap cyntaf nôl yn 2018, mae Tomos Williams wedi bod yn chwaraewr allweddol dros Gymru, ond chwaraewr nad oedd, o bosib, yn gwireddu ei wir botensial.
Does dim dwywaith ei fod yn chwaraewr arbennig â'i ddawn ar y cae chwarae yn amlwg i bawb.
Yn rhannol drwy anafiadau a'r ffaith ei fod, ar hyn o bryd, yn chwarae mewn tîm sydd wedi disgyn i'r dyfnderoedd ar y llwyfan rhyngwladol, mae wedi bod yn anodd i'r chwaraewr greu argraff ar adegau.
Y penderfyniad mwyaf o safbwynt ei yrfa yn y 12 mis diwethaf oedd symud o Gaerdydd wedi degawd ar Barc yr Arfau ac ymuno â Chaerloyw.
Ond mae'r penderfyniad hwnnw bellach wedi dwyn ffrwyth a'r wobr ddiweddaraf yn gydnabyddiaeth o'i berfformiadau disglair a chyson yn ystod y tymor.
Heb os mae Williams wedi elwa drwy chwarae mewn tîm cryf a thu ôl i flaenwyr o safon uchel ac mae ei berfformiadau unigol wedi mynd o nerth i nerth.
Y gobaith yw y bydd yn cael llwyfan i serennu gyda'r Llewod yn Awstralia ac y bydd yn hawlio'r crys rhif naw yn y gemau prawf.