Carmen Smith: 'Rhaid diddymu Tŷ'r Arglwyddi'

Carmen Smith tu allan i Tŷ'r ArglwyddiFfynhonnell y llun, Carmen Smith
Disgrifiad o’r llun,

Carmen Smith tu allan i Tŷ'r Arglwyddi

  • Cyhoeddwyd

"Ar ôl treulio blwyddyn yn Nhŷ'r Arglwyddi, rydw i'n fwy penderfynol nag erioed i ymgyrchu dros newid."

Wedi blwyddyn o eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi fel y Farwnes Smith o Lanfaes, mae Carmen Smith yn rhannu ei phrofiadau a pham ei bod hi'n angerddol dros ddiwygio'r ail siambr.

Y Farwnes Smith yw'r person ieuengaf ym Mhrydain i gael ei hurddo yn Arglwydd am oes ac yma, mewn darn barn i Cymru Fyw, mae'r aelod dros Plaid Cymru yn trafod beth mae hi'n credu yw diffygion Tŷ'r Arglwyddi:

Carmen SmithFfynhonnell y llun, Plaid Cymru

Ychydig dros flwyddyn yn ôl, cymerais fy sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi fel yr Aelod am Oes ifancaf erioed.

Cyn hynny, roeddwn i'n gwybod bod San Steffan yn sefydliad hen ffasiwn ac aneffeithlon.

Ond dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi cael y cyfle i weld y strwythurau hyn ar waith gyda'm llygaid fy hun – ac erbyn hyn, mae gen i ddealltwriaeth llawer cliriach o'r hyn sy'n gweithio a'r hyn sydd angen ei ddiwygio.

Traddodiadau

Mae traddodiadau wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn systemau'r lle hwn – o'r clogynnau ffwr i'r byrllysg seremonïol. Yn siambr Tŷ'r Arglwyddi, ceir nifer o arferion hen ffasiwn sy'n dal i fodoli.

Yn ystod sesiynau holi, nid oes rhestr o'r aelodau sydd am gyfrannu; rhaid codi o'ch sedd a, heb air o gelwydd, gweiddi eich cyfraniad yn y gobaith y bydd aelod arall yn ildio ac y bydd eich llais chi'n dal sylw'r siambr. Mae hynny'n eironig o ystyried mai sefydliad sydd i fod ar sail urddas a mawredd yw hwn.

Mae hyn yn rhwystredig, ond mae hefyd yn cyfleu mor aneffeithlon yw'r dulliau i allu craffu ar y Llywodraeth yn y siambr. Yn aml o fewn y system hunan-reoledig hon, nid ydych yn llwyddo i rannu'ch cyfraniad.

Carmen SmithFfynhonnell y llun, Carmen Smith

Sefydliad

Crëwyd Tŷ'r Arglwyddi ganrifoedd yn ôl gan ddynion aristocrataidd er mwyn amddiffyn eu statws a'u buddiannau. Erbyn 2025, mae'r seiliau hynny'n dal yn amlwg – nid yn unig drwy'r traddodiadau, ond hefyd yn y ffordd mae'r lle'n cael ei redeg.

Enghraifft glir o hyn yw'r ffaith mai dim ond un Gweinidog yn Nhŷ'r Arglwyddi sy'n gyfrifol am faterion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon – ac mae'r Gweinidog hwnnw'n gyn-Aelod Seneddol o Loegr! Mae hyn yn amlygu'r diffyg cynrychiolaeth barhaus o fewn y Deyrnas Unedig hyd heddiw.

Mae'r ffaith nad yw'r sefydliad yn credu bod y gwledydd datganoledig yn haeddu un Gweinidog yr un nid yn unig yn sarhaus, ond mae hefyd yn golygu ein bod ni a'n cymunedau ar ein colled. Mae'n golygu nad oes unrhyw un wir yn canolbwyntio ar Gymru o fewn y Llywodraeth yn Nhŷ'r Arglwyddi nac yn sefyll ein cornel ar bolisïau fydd yn cael effaith ar ein gwlad.

O ystyried ein bod ni fod yn Deyrnas 'Unedig', dyw'r difaterwch yma tuag at Gymru ddim yn teimlo fel petaem yn cael y chwarae teg rydyn ni'n ei haeddu.

Carmen yn siarad gyda disgyblion ysgol mewn digwyddiad yn Nhŷ'r ArglwyddiFfynhonnell y llun, Carmen Smith
Disgrifiad o’r llun,

Carmen yn siarad gyda disgyblion ysgol mewn digwyddiad yn Nhŷ'r Arglwyddi

Dyma pam mae'n rhaid cael ail siambr etholedig. Ar hyn o bryd, nid yw llywodraethiant yn deg nac yn gynrychiolaidd ac mae'n anodd iawn herio'r drefn gan nad oes unrhyw atebolrwydd democrataidd.

Mae Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi wedi cyrraedd eu lle drwy amryw o ddulliau gwahanol. Mae Plaid Cymru a'r Blaid Werdd wedi ceisio creu elfen o ddemocratiaeth yn y broses drwy gynnal etholiadau mewnol i ddewis eu haelodau. Ond ar y cyfan, nid yw'r aelodau wedi'u hethol yn uniongyrchol gan y bobl maen nhw'n eu cynrychioli.

Yn fwyfwy aml, gwelwn Ysgrifenyddion Gwladol yn cael eu penodi o Dŷ'r Arglwyddi. Er bod gan y Prif Weinidog yr hawl i wneud hyn, mae'n codi cwestiynau difrifol am atebolrwydd – gan nad yw'r aelodau hyn yn atebol i etholwyr nac hyd yn oed i Dŷ'r Cyffredin, ond i Dŷ'r Arglwyddi yn unig.

Yn y cyfamser, mae ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth yn is nag erioed, ac mae sefydliadau fel Tŷ'r Arglwyddi yn creu mwy o bellter rhwng pobl a'r broses ddemocrataidd.

Diddymu

Ond nid yw'r sefyllfa yma'n anochel. Mae'n bosib diwygio – a rhaid inni wneud hynny i adlewyrchu cymdeithas fodern. I mi, mae'r ateb yn glir: rhaid diddymu Tŷ'r Arglwyddi fel ag y mae a sefydlu ail siambr etholedig, gwbl ddemocrataidd.

Byddai hyn yn mynd i'r afael â nifer o'r problemau presennol, gan greu system fwy blaengar, cynrychiolaidd ac effeithlon i wasanaethu pobl ledled y DU. Byddai hefyd yn sicrhau atebolrwydd go iawn, yn grymuso'r cyhoedd, ac yn ceisio adfer ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth.

Mae'n bwysig nodi nad ydw i ar ben fy hun yn fy ngalwadau. Mae bron 250,000 o bobl wedi arwyddo deiseb gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn galw am ail siambr etholedig.

Mae'n hen bryd i ni bellhau oddi wrth hen system annemocrataidd ac adeiladu un newydd sy'n gweithio i'r mwyafrif, nid i'r ychydig rai yn unig.

Ar ôl treulio blwyddyn yn Nhŷ'r Arglwyddi, rydw i'n fwy penderfynol nag erioed i ymgyrchu dros newid gan nad yw parhau â'r status quo yn opsiwn rhagor.

Dadansoddiad

Bethan James, gohebydd gwleidyddol

Bydd unrhyw un sy'n ymweld â'r Senedd yn San Steffan yn sylwi bod yna arferion diddorol - arferion digon rhyfedd, medd rhai. Mae traddodiadau o'r fath wedi'u hymgorffori'n ddwfn yng ngwaith Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. Ond mae yna wahaniaethau o fewn y ddwy siambr.

Mae rheolau a thraddodiadau'r Arglwyddi wedi'u seilio mewn dogfen sy'n deillio o 1621, sef Rheolau Sefydlog Tŷ'r Arglwyddi sy'n Ymwneud â Busnes Cyhoeddus (Standing Orders of the House of Lords Relating to Public Business).

Mae'r farn ynghylch a yw traddodiadau o'r fath yn angenrheidiol i waith yr Arglwyddi yn amrywio, gan ddibynnu ar bwy rydych chi'n gofyn. Mae rhai yn dadlau bod angen moderneiddio siambr yr Arglwyddi, eraill yn mynnu bod eu harferion yn hanesyddol bwysig.

Er mwyn deall rhai o'r arferion dadleuol yma efallai bod gwerth ystyried yr hanes.

Mae'r Senedd yn dyddio'n ôl i'r 11eg ganrif, gyda dau Dŷ Seneddol yn dod i'r amlwg yn y 14eg ganrif. Yn ffurfio Tŷ'r Arglwyddi oedd yr archesgobion, esgobion, abatiaid (Arglwyddi Ysbrydol) ac yr uchelwyr (Arglwyddi Temporal). Dechreuodd cynrychiolwyr o'r trefi a'r siroedd gyfarfod ar wahân fel Tŷ'r Cyffredin.

O'r 15fed ganrif, roedd aelodaeth yr uchelwyr yn Nhŷ'r Arglwyddi bron yn gwbl seiliedig ar drefn o etifeddiaeth.

Wrth gwrs, mae'r siambr wedi esblygu dros y canrifoedd, gyda'r nifer o aelodau yn cynyddu. Mae'r ddadl dros ddiwygio'r siambr wedi bod dan sylw ers degawdau lawer.

Gwaith y siambr

O ran eu gwaith o fewn y siambr, anogir aelodau'r Arglwyddi i beidio â darllen eu hareithiau. Yr eithriad yw os oes angen darllen datganiad gweinidogol. Ni all aelod siarad fwy nag unwaith yn ystod dadl - heblaw am yr Aelod a gynigiodd y cynnig.

Ac yn wahanol i Dy'r Cyffredin, mae'r drefn o fewn Ty'r Arglwyddi yn dilyn system o 'hunan-reoleiddio'. Mae'r ffordd hon o weithio yn golygu bod ymddygiad yn y siambr yn dibynnu ar barch tuag at yr arferion, yn ogystal â pharodrwydd yr Arglwyddi eu hunain i ddilyn y confensiynau.

Yn ystod sesiynau holi, mae'n rhaid i Arglwyddi fod yn eithaf parod i godi llais, fel bod y cwestiwn yn cael ei glywed. Yn hynny o beth, mae angen rhywfaint o gwrteisi i'w gilydd. Ond heb os, mi all arwain at rywfaint o anhrefn os yw nifer o Aelodau yn mynnu siarad ar yr un pryd.

Nid yw hynny'n wir yn ystod dadleuon o fewn y siambr gan fod Rhestr y Llefarydd o Aelodau a fydd yn siarad yn ystod y dadleuon. Mae rôl Llefarydd Tŷ'r Arglwyddi yn debyg i rôl Llefarydd Tŷ'r Cyffredin gan fod y ddau yn goruchwylio'r dadleuon yn eu priod siambrau.

Gan bod Tŷ'r Arglwyddi yn hunan-reoleiddio, nid oes gan y Llefarydd y pŵer i reoli'r ddadl. Nid yw'n penderfynu pwy sy'n siarad, beth sy'n cael ei drafod nac yn cynnal trefn. Mae hyn i gyd yn cael ei wneud ar y cyd gyda 'r Arglwyddi. Mae'r Llefarydd wedyn yn darparu cymorth ac yn arwain y dadleuon.

Pynciau cysylltiedig