Pwy yw aelod ieuengaf Tŷ'r Arglwyddi?

  • Cyhoeddwyd
Carmen SmithFfynhonnell y llun, Plaid Cymru

Yn 28 oed, Carmen Smith yw aelod ieuengaf Tŷ'r Arglwyddi erioed. Ac mae'r aelod newydd dros Blaid Cymru yn credu'n gryf taw dyma yw ei chryfder pennaf wrth iddi gymryd ei sedd fel Barwnes Smith o Lanfaes ar 21 Mawrth.

Meddai mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw: "Dwi eisiau sefyll i fyny dros bobl sy' ddim gyda llais mewn gwleidyddiaeth. Dwi ddim yn edrych fel y pobl eraill sy' yn Nhŷ'r Arglwyddi a gobeithio fedra'i ddod â phobl eraill gyda fi sy' ddim yn edrych fel y pobl sy' yno.

"Dwi'n gweld pethau mewn persbectif wahanol i bobl sy' wedi tyfu i fyny yn ddosbarth canol, dosbarth uwch, mynd i Gaergrawnt ac Eton... mae San Steffan yn llawn o bobl fel hynny ond dwi isho sefyll i fyny i bobl ar draws Cymru.

"Mae pobl ar draws y Deyrnas Unedig ddim rili yn cael eu cynrychioli yno."

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru

Ymateb

Mae Carmen yn cymryd lle Dafydd Wigley yn yr ail siambr fel Arglwydd am oes ac yn disgrifio'r ymateb mae wedi ei gael i'w hetholiad fel 'cymysg': "Mae 'na lawer o bobl wedi bod yn gefnogol a llawer o bobl ifanc wedi dod ataf i i siarad.

"Ond hefyd mae 'na rai pobl yn dweud 'ti ddim gyda'r profiadau rhaid i ti gael i fod yn y siambr hynaf'. Mae'n iawn i bobl feddwl fel hynny ond dwi'n meddwl rhaid i ni gael mwy o bobl sy'n wahanol yn gwneud dewisiadau am bethau sy'n newid bywydau pobl bob dydd.

"Rhaid i ni gael mwy o bobl sy'n rhoi persbectif gwahanol.

"Y cyfartaledd oedran yn Nhŷ'r Arglwyddi yw 71 a dwi'n 28 so dwi'n gallu sefyll i fyny am bobl o dan 50. Y materion pobl ieuengaf dwi isho siarad amdanynt ydy pethau fel costau rhentu a pha mor anodd ydy hi i gael swyddi a'r argyfwng costau byw. Dwi gyda diddordeb mewn pynciau fel hynny."

Magwraeth

Wedi tyfu i fyny yn Llanfaes ar Ynys Môn yn un o saith o frodyr a chwiorydd, mae cefndir Carmen wedi tanio ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth - er gwaetha'r ffaith fod gweddill ei theulu 'ddim yn wleidyddol', fel mae'n dweud gan chwerthin.

Roedd y profiad o fod yn ofalwraig ifanc i'w thad oedd yn dioddef o dementia hefyd wedi ei gwneud hi'n ymwybodol o'r problemau mae gofalwyr yn eu hwynebu: "Mae yn bwnc pwysig i fi a dwi eisiau ymgyrchu dros bobl sy' yn ofalwyr am deuluoedd. Y profiad hynna sy' wedi bod yn sail i fy egwyddorion.

"Pan o'n i'n ifanc o'n i'n edrych ar ôl fy nhad a phan ti'n edrych ar ôl rhywun mae'n rhaid ti feddwl am lawer mwy na amdano ti. Mae'r profiadau hynny i gyd wedi helpu fi i dyfu fyny.

"Oedd o'n anodd achos oedd rhaid i fi siarad gyda llawer o bobl i gael cyllid fel myfyriwr a phethau fel 'na.

"Ro'n i'n 'neud llawer o waith gwahanol gyda'r undeb myfyrwyr yn Ynys Môn ac wedyn ar draws Cymru a gweld pawb sy' gyda problemau fel 'na. Roedd hwnna yn motivateio fi i fynd mewn i wleidyddiaeth.

Annibyniaeth

"Un peth arall sy' wedi 'neud fi'n wleidyddol yw pan o'n i'n Plaid Ifanc (mudiad ieuenctid Plaid Cymru) o'n i wedi mynd i'r refferendwm yn Catalonia ac oedd hwnna'n bwysig i fi oherwydd o'n i'n gweld pobl oedd rili isho pleidleisio.

"Cyn hynny ro'n i'n credu mewn annibyniaeth i Gymru ond yn meddwl amdano fel stori yn unig. Pan o'n i yn Catalonia daeth e'n real iawn i fi ac 'nath hynny wneud i fi eisiau ymgyrchu dros beth sy'n bwysig i fi. Roedd hwnna'n bwysig i ddatblygu fy ngwleidyddiaeth i a beth dwi'n sefyll dros.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru

Denu pobl ifanc

"Y person sy' wedi dod â fi mewn i wleidyddiaeth oedd Leanne Wood pan oedd hi'n arweinydd Plaid Cymru so dwi'n meddwl os mae pobl yn gallu gweld mwy o bobl fel nhw, maen nhw'n gallu meddwl 'dwin gallu neud o hefyd'."

Mae Carmen, sy'n gyn-bennaeth staff yng nghrŵp Senedd Plaid Cymru, wedi cael croeso yn Nhŷ'r Arglwyddi a'r syndod pennaf iddi oedd faint o aelodau wnaeth ei chroesawu yn Gymraeg yn ystod ei hymweliad cyntaf gyda'r siambr.

Ar 21 Mawrth mae hi'n gwneud ei llw yn Gymraeg ac yn cymryd ei sedd yn y siambr gyda'i ei mam ac un o'i chwiorydd yno i'w chefnogi. Bydd ei haraith gyntaf yn digwydd ddiwedd mis Ebrill. Cafodd ei theitl newydd Barwnes Smith o Lanfaes sêl drwy lythyr ati gan y brenin.

Meddai: "Dwi'n meddwl amdano fel fancy graduation!

"Dydw i ddim yn cefnogi Tŷ'r Arglwyddi mewn egwyddor oherwydd fod y siambr yn unelected. Ond tra fod o yno mae'n rhaid i ni fod yno a chael lleisiau yn y stafell i neud gwahaniaeth i bobl ar draws Cymru.

"Mae o'n chwarae rôl pwysig yn y broses deddfwriaethol a phan oedd Dafydd Wigley yno roedd o'n gallu neud pethau dros Brexit.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru

"Mae'n gyfle i siarad am bethau sy'n bwysig i bobl yng Nghymru. Wythnos diwethaf oedd 'na rhywun yn Nhŷ'r Arglwyddi wedi dweud fod yr iaith Gymraeg fel linguistic fascism yn y siambr.

"Dwi eisiau sefyll i fyny a dweud bod hynny'n nonsens.

"Mae o'n lle ti'n gallu 'neud newidiadau mae pobl yn meddwl sy'n fach ond sy'n bwysig.

"Yn yr Arglwyddi maen nhw'n gallu trafod y manylion a 'neud sens o'r ddeddfwriaeth. Maen nhw'n gallu 'neud pethau sy'n 'neud gwahaniaeth."

Pynciau cysylltiedig