Edrych nôl: 20 mlynedd ers tswnami enfawr Asia

Traeth Marina ym Madras, India ar 26 Rhagfyr 2004.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd India ymhlith y gwledydd a ddioddefodd wedi tswnami mawr 2004

  • Cyhoeddwyd

Ugain mlynedd yn ôl, ar ddydd Gŵyl San Steffan, dechreuodd y newyddion gyrraedd am tswnami yng Nghefnfor India.

Ychydig cyn 08:00 ar 26 Rhagfyr 2004, tarodd daeargryn oedd yn mesur 9.1, o dan y môr yng ngogledd Indonesia.

Yn yr oriau wedyn, fe ledaenodd tswnami enfawr ar draws Cefnfor India, gan daro Sri Lanka, Bangladesh, Myanmar, Malaysia, a'r Maldives.

Fe gafodd dros 230,000 o bobl mewn 14 o wledydd eu lladd ac Indonesia gafodd ei tharo galetaf gyda 165,000 o farwolaethau.

Ers y trychineb, mae systemau rhybuddio tswnami a threfniadau argyfwng brys wedi cael eu cyflwyno, er mwyn ceisio lleihau marwolaethau ac anafiadau yn y dyfodol.

Ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae Cymru Fyw wedi bod yn siarad gyda rhai o'r rheiny fu yno pan darodd y don, a'r rheiny fu yno yn ystod yr wythnosau wedyn yn helpu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Achosodd y tswnami ddinistr mawr yn Sri Lanka

Roedd Sian Hughes, a gafodd ei magu yn Aberaeron, ar wyliau yn Unawatuna ger Galle yn Sri Lanka gyda'i theulu ddiwedd 2004.

"Roeddwn i yn y gwely pan glywais fy ngŵr yn sydyn yn sgrechian bod rhywbeth yn digwydd."

Clywodd sŵn y dŵr yn rhuthro tuag atyn nhw a bu'n rhaid iddyn nhw ddringo ar ben to'r gwesty.

"Roedd sŵn fel trên yn rhuthro mewn, ac yn sydyn reit, fe stopiodd y dŵr, ac roedd distawrwydd llwyr am ryw eiliad," meddai.

"Yna fe ddechreuodd y cyfan eto, a gyda sŵn y dŵr yn rhuthro allan eto.

Mae Sian yn baediatregydd sy'n gweithio ym Melbourne, Awstralia a bu'n rhaid iddi ddefnyddio'i sgiliau meddygol yn syth.

"Rydych chi'n mynd i ryw fath o 'autopilot'," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Sian a'i theulu wedi dychwelyd i Sri Lanka droeon dros yr ugain mlynedd diwethaf.

"Dw i'n meddwl ein bod ni'n teimlo cysylltiad dwfn iawn, iawn gyda Sri Lanka," meddai, "ac rydyn ni wedi bod yn ôl, mae'n rhaid fy mod i wedi bod yn ôl tua 30 gwaith i gyd."

Mae hi'n meddwl bod y tswnami wedi diffinio'i theulu.

"Dwi'n meddwl ei fod wedi newid cwrs ein bywyd mewn sawl ffordd," meddai Sian, "rydym i gyd yn gwneud llawer mwy gydag elusennau a helpu pobl eraill, gan ein bod ni wedi sylweddoli cymaint sydd gennym ni mewn gwirionedd."

Mae hi'n cefnogi gwaith Tîm Cymorth Meddygol Sri Lanka Awstralia, sy'n ceisio gwella gwasanaethau iechyd ar yr ynys.

"Mae hynny'n werth chweil."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sri Lanka o'r awyr yn 2004

Fe deithiodd y dyn camera, Rhys Williams, i Sri Lanka, ar ran rhaglen Newyddion, gyda'r gohebydd Iolo ap Dafydd.

"Fe benderfynon ni fynd yno gyntaf," meddai, "gan fod y ffigyrau am y marwolaethau'n codi bob awr."

"Erbyn cyrraedd a theithio o faes awyr Colombo ar hyd arfordir gorllewinol yr ynys i lawr i Galle, roedd y dinistr ar scale anferthol.

"Roedden ni'n dod ar draws cychod enfawr, milltir o'r môr, jesd wedi cael eu dympio."

Un o'r pethau ffilmiodd Rhys sydd wedi aros yn y cof ydi'r trên ym mhentre' Peralyia.

"Oedd o jesd mor ofnadwy o drist," meddai.

Roedd trên y Matara Express yn orlawn gyda theithwyr oedd yn dathlu'r Nadolig a'r ŵyl Fwdïaidd Gŵyl y Lleuad Lawn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Pan darodd y don gyntaf, fe geisiodd cannoedd o bobl leol gysgodi ar y trên, ond pan ddaeth y tonnau eto, fe gafodd y trên ei daflu oddi ar y cledrau a llenwi gyda dŵr.

Fe gafodd dros 1,000 o bobol eu lladd.

"Roedd e'n anferth o drên, gyda lot o carriages, ac roedd hi'n drist iawn sylweddoli bod cymaint wedi marw yno, a nhwtha'n trio dianc, gan feddwl bod y trên 'ma'n le saff.

"Oedd na ogle marwolaeth trwy'r lle."

Daeth hi'n amlwg ar ôl rhai dyddiau bod y dinistr yn Indonesia yn waeth ac fe deithiodd y tîm ymlaen i Indonesia.

"Oedd y raddfa yn Banda Aceh yn lot gwaeth," meddai Rhys, "pan aethon ni i Banda Aceh, mi roedd o'n Feiblaidd, oeddet ti'n methu gweld y gorwel.

"Ti'n trio fel dyn camera, i ffilmio'r llunie gore fedri di, yn dangos be sy' wedi digwydd."

"Ond oeddet ti'n methu cwmpasu'r dinistr i mewn i dy ffrâm," meddai Rhys, "roedd o'n gwbl, gwbl ofnadwy."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Richard Powell o Ddyffryn Aman, yn gweithio i elusen Achub y Plant, ac yn un o'r rhai cyntaf i deithio i Sri Lanka, wedi'r tswnami.

"Fi'n cofio deud wrth fy ngwraig fyddai nôl mewn rhyw ddau ddiwrnod, a deufis wedyn, ro'n i dal i fod yno," meddai.

Dyma oedd ei brofiad cyntaf o weithio mewn ardal argyfwng ac roedd timau o'r elusen oedd yn gweithio yn y wlad yn barod i'w groesawu.

"Oedd gen i lori, arian a bwyd, ac yn syth roedden ni'n gallu darparu bwyd i ddegau o filoedd o bobol oedd heb fwyta ers dyddiau.

"Dwi'n cofio mynd i un pentre', a meddwl yn syth am y trychineb gwaethaf yng Nghymru, hynny yw Aberfan, ond yn y pentre' yma roedd miloedd o blant wedi'u lladd," meddai.

'Roedd y sefyllfa'n ofnadwy'

Y pentre' hwnnw oedd Peralyia lle gafodd trên y Matara Express ei daflu oddi ar y cledrau.

"Roedd y sefyllfa'n ofnadwy," meddai.

Pan ddaeth yn ôl i Gymru, roedd yr hyn welodd Richard wedi cael cymaint o argraff arno fel nad oedd yn gallu setlo yn ôl i'w swydd.

"Ges i swydd byd eang wedyn gydag Achub y Plant, felly fe newidiodd fy ngyrfa fi yn gyfan gwbl," meddai, gan ychwanegu "Roedd e'n fraint, ie, dyna yw'r gair, braint, gallu helpu pobol yn y sefyllfa waetha' ar y planed."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 66,000 o bobl yn gwylio Eric Clapton yng nghyngerdd elusennol Caerdydd yn 2005

Yng Nghaerdydd, roedd cynlluniau ar y gweill i gynnal cyngerdd elusennol i godi arian ar gyfer yr ymdrech gymorth.

Paul Sergeant oedd rheolwr cyffredinol Stadiwm y Mileniwm ar y pryd, a fo drefnodd y cyngerdd fwyaf ers Live Aid i godi arian at elusen, ond bu bron iawn rhaid canslo'r holl beth.

"Fe ges i alwad gan Sarjant Gareth Owen o Heddlu De Cymru yn dweud 'Paul, fedrwn ni ddim dy gefnogi di nawr, does dim amser ar ôl i ganslo gwyliau swyddogion'.

"Mi wnes i ymbil arno fo ac mi ddywedodd o: 'Mae gen ti tan dri o'r gloch',"

Treuliodd Mr Sergeant a'i dîm y ddwy awr nesaf yn galw cymaint o artistiaid, rheolwyr ac asiantau ag y gallent.

Am 2:53pm, galwodd rheolwr Eric Clapton yn ôl i ddweud wrtho ei fod wedi cytuno i berfformio.

'Ti 'di neud o, yn do?'

Fe gafodd contractau, fyddai fel arfer yn cymryd misoedd i'w cwblhau, eu cyfnewid dros ffacs.

"Mi ddoth y ffacs nôl, ac mi ffoniais i Gareth am 2:57pm a doedd dim angen i mi ddweud dim byd," meddai Mr Sarjant.

"Mi ddywedodd o wrthai 'ti 'di neud o, yn do?' ac mi atebais i: 'Do. Mae'n digwydd!'."

Roedd Eric Clapton, Manic Street Preachers, Kelly Jones o Stereophonics, Keane a Snow Patrol ymhlith yr 20 act a berfformiodd ar 22 Ionawr 2005 o flaen 66,000 o bobol a chodi £1,248,963.

Fe gafodd cyngherddau eraill eu cynnal i godi arian, gan gynnwys dau gyngerdd gafodd eu darlledu'n fyw ar BBC Radio Cymru.

Hywel Gwynfryn, Amanda Protheroe-Thomas a Huw Ceredig oedd yn cyflwyno Cyngerdd Tsunami Relief Cymru o'r Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd gydag artistiaid fel Caryl Parry Jones, Geraint Griffiths, Delwyn Siôn, Heather Jones, Siân James, Mynediad am Ddim, Huw Chiswell, Tara Bethan, Shân Cothi, Sue Roderick, Côrdydd, Côr CF1, aelodau o gast Pobol y Cwm a Peter Karrie yn perfformio.

Yn Theatr Gogledd Cymru Llandudno, fe berfformiodd artistiaid fel Anweledig, Estella, Moniars a Sara Mai, Meinir Gwilym, Frizbee, Maharishi, Elin Fflur, Tara Bethan, Siân Alderton a Brigyn yng nghyngerdd Cân o Gymorth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Perfformiodd Charlotte Church yn nghyngerdd elusennol Caerdydd hefyd

Nôl yn Sri Lanka, fe gafodd Richard Powell, neges yn gofyn iddo ffilmio neges i bobl Cymru i'w dangos ar y sgrin fawr yn Stadiwm y Mileniwm yn ystod y cyngerdd.

"O'n i wedi ffeindio criw camera NBC a gofyn fydden nhw'n fodlon ffilmio'r neges ar gyfer y cyngerdd, ac fe wnaethon nhw gytuno.

"Oedd fy mhlant i yn y stadiwm, a co fi'n gweithio fan hyn, ac maen nhw yna, ac yn meddwl bod y byd yn dod at ei gilydd, a helpu.

"Roedd 'na deimlad o gysylltiad dynol a gobaith wrth wraidd y cyfan, ac mae hynny arnom yn fwy nag erioed, hyd yn oed ugain mlynedd yn ddiweddarach," meddai.

Pynciau cysylltiedig