Caerdydd yn penodi Riza yn rheolwr tan ddiwedd y tymor
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau fod Omer Riza wedi cael ei benodi yn rheolwr tan ddiwedd y tymor.
Cafodd Riza, 44, ei benodi yn rheolwr dros dro ar ôl i'r Adar Gleision ddiswyddo Erol Bulut ym mis Medi.
Wedi dechrau siomedig i'r tymor, mae canlyniadau wedi gwella ers penodiad Riza.
Mae Caerdydd wedi hawlio 16 o bwyntiau mewn 12 gêm, gan ennill pedair o'r saith gêm gyntaf dan ei arweiniad.
Ond dydy'r Adar Gleision heb ennill mewn pum gem erbyn hyn, ac roedd grwpiau cefnogwyr wedi mynegi eu hanfodlonrwydd yr wythnos hon ynglŷn â'r ansicrwydd am sefyllfa'r rheolwr.
Dywedodd perchennog y clwb, Vincent Tan mewn datganiad: "Mae arddull y chwarae yn amlwg wedi gwella, ac mae'r perfformiadau dan arweiniad Omer wedi arwain at ganlyniadau calonogol.
"Ar ôl ystyried yn ofalus dros yr wythnosau diwethaf be fyddai orau i'r clwb a'r chwaraewyr, rydw i'n falch iawn i allu rhoi'r cyfle yma i Omer a dwi'n dymuno'r gorau iddo."
Mae Caerdydd yn yr 20fed safle yn y Bencampwriaeth ac fe fydd yr Adar Gleision yn croesawu Watford i'r brif ddinas yn eu gêm nesaf ddydd Sadwrn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi
- Cyhoeddwyd28 Hydref