Rheolwr Caerdydd, Erol Bulut, wedi ei ddiswyddo

Erol BulutFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
  • Cyhoeddwyd

Mae cyfnod Erol Bulut fel rheolwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi dod i ben wrth i'r clwb ei ddiswyddo.

Gyda chwe gêm o'r tymor wedi eu chwarae, roedd y clwb ar waelod y Bencampwriaeth wedi sicrhau un pwynt yn unig ac wedi sgorio un gôl yn unig.

Daw’r dechreuad siomedig i’r tymor wedi diweddglo siomedig i’r tymor diwethaf pan orffennodd yr Adar Gleision yn y 12fed safle.

Cafodd Erol Bulut ei benodi fel rheolwr i'r clwb ym Mehefin 2023.

Fis Mehefin 2024, fe arwyddodd gytundeb dwy flynedd i barhau'n rheolwr ar Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.