'Oedd gen i deimlad mod i wedi cael £2 - ond nes i ennill £1 miliwn'

Disgrifiad,

Roedd gan Ceri Roscoe-Roberts o Gaernarfon "deimlad bod ni wedi ennill" pan edrychodd ar ei ffôn

  • Cyhoeddwyd

Newidiodd bywyd Ceri Roscoe-Roberts a'i theulu dros nos pan enillodd hi £1m yn raffl yr Euromillions y llynedd.

Dywedodd y fam i bump o blant o Gaernarfon ei bod hi a'i gŵr yn eu dagrau pan gafon nhw'r newyddion da - ond na fydd rhai pethau'n newid ers ennill y loteri.

"Dwi'n dal yn cerdded rownd y siop a d'eud 'mae pris hwnna'n ofnadwy, dwi'n gwybod bod y pris yn rhatach lawr lôn'," meddai.

Mae Ms Roscoe-Roberts ymysg 400 o Gymry sydd wedi troi'n filiwnyddion ers cychwyn y loteri genedlaethol 30 o flynyddoedd yn ôl.

Mae miloedd o achosion da wedi elwa o gronfa'r loteri hefyd ers y gêm gyntaf ar 14 Tachwedd 1994.

Pan ddeffrodd Ms Roscoe-Roberts un bore Sadwrn wedi chwarae'r Euromillions y noson gynt, fe estynnodd am ei ffôn.

"Dwi ddim yn gw'bod beth oedd o ond roedd gen i deimlad bod ni wedi ennill," meddai.

"Nes i logio i fewn i edrych a disgwyl gweld bod ni wedi ennill ticed am ddim yr wythnos nesaf neu dwy bunt. A’r unig beth o'n i’n gweld oedd y baner las efo 'UK win' arno fo.

"Nes i ddeffro fy ngŵr a dweud bod ni wedi ennill y loteri."

Wrth eistedd yn y car gyda'i theulu tra bod ei mab yn chwarae pêl-droed fe wnaethon nhw ffonio'r loteri i sicrhau fod y cyfan yn wir.

"Dwi’n siŵr roedd y bobl yn y ceir eraill 'di meddwl beth sy’n mynd ymlaen yn y car yna achos doedd neb 'di sgorio ond roedd y plant yn neidio yn y cefn a fi a’r gŵr yn crio yn y ffrynt," meddai.

'Cymryd bob diwrnod fel mae’n dŵad'

Ers troi'n filiwnydd, mae Ms Roscoe-Roberts wedi prynu tŷ newydd gyda digon o le i'w phlant yn ogystal â gwyliau bythgofiadwy yn Marrakesh, Moroco.

Mae ei gŵr wedi prynu clybiau golff a char newydd hefyd.

"Os ma' rhywun yn ennill, byswn i’n dweud i gymryd bob diwrnod fel mae’n dŵad," meddai.

Yn ogystal ag unigolion yn ennill y loteri, mae £2.3biliwn wedi'i buddsoddi i fewn i fwy na 73,000 o brosiectau yng Nghymru yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf.

Fe wnaeth yr ymdrech i godi Stadiwm y Mileniwm dderbyn y swm fwyaf yn 1997.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru, Canolfan y Mileniwm a Gardd Fotaneg Cenedlaethol Cymru hefyd wedi derbyn y symiau mwyaf sylweddol gan gronfa'r loteri.

Arian loteri yn 'hollbwysig'

Mae prosiect Yr Ysgwrn, sef cartref Hedd Wyn, ym Mharc Cenedlaethol Eryri, wedi derbyn grantiau treftadaeth y loteri ddwywaith yn ystod y degawd diwethaf.

"Mae cefnogaeth y loteri yn hollbwysig ar gyfer prosiectau fel hyn," meddai Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri.

"Mi oedd y gwaith yn cael ei gefnogi gan grant o dros £3m ac heb gefnogaeth y gronfa treftadaeth, fydden ni byth wedi medru cyflawni y gwaith yna - y gwaith cadwraethol ar yr adeiladau, yr archif a’r casgliad."

Disgrifiad o’r llun,

Derbyniodd Yr Ysgwrn arian o gronfa dreftadaeth y loteri yn 2014 a 2023 - ac roedd hynny'n hollbwysig, meddai Naomi Jones

Ond ers y pandemig mae'r gystadleuaeth ar gyfer grantiau treftadaeth y loteri wedi cynyddu, yn ôl Ms Jones.

"Fe ostyngodd nifer yr ymwelwyr ac incwm ac ati," meddai.

"Roedd rhaid i ni fod yn fwy dyfeisgar a meddwl ymlaen ar gyfer rhaglenni i ddatblygu prosiectau newydd, cryfhau partneriaethau a gweithio mwy gyda amgueddfeydd ac ati. Mae yna dda ym mhob drwg felly."

'Risgiau ar-lein'

Yn y cyfamser, mae Ms Roscoe-Roberts yn rhybuddio pobl i fwynhau chwarae'r loteri ond i beidio gwario mwy na'r hyn ydych chi'n gallu fforddio.

"'Da chi’n cael lot o gefnogaeth gan y loteri. Mae’n newid bywyd chi."

Dywedodd Llywodraeth y DU fod ymchwil gan Arolwg Iechyd Lloegr wedi canfod bod cyfradd problemau gamblo ar gyfer gemau fel y loteri yn is nag 1% ac yn 1.4% ar gyfer 'scratch cards' o'i gymharu â 2.7% i 12.7% ar gyfer mathau eraill o gamblo.

Ond fe ychwanegon nhw bod y twf yng ngemau ar-lein yn "cyflwyno risgiau" a bod "angen aros yn wyliadwrus".