Dirgelwch y corff gafodd ei ddarganfod mewn cronfa ddŵr

Cronfa Ddŵr Claerwen ydy'r mwyaf anghysbell o argaeau Cwm Elan ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Tydi corff person a oedd yn gwisgo siwt wlyb a gafodd ei ganfod mewn cronfa ddŵr ym Mhowys dal heb gael ei adnabod, a hynny bedwar mis yn ddiweddarach.
Cafodd swyddogion eu galw i Gronfa Ddŵr Claerwen ar 18 Hydref, ond ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw eiddo na cherbyd i awgrymu sut cyrhaeddodd y dyn yno.
Hyd yma mae profion fforensig ac apêl fyd-eang am wybodaeth wedi methu â chanfod atebion.
Dywed yr heddlu y gallai'r dyn fod wedi mynd fewn i'r gronfa ddŵr rhywbryd yn ystod yr haf, ond bod y diffyg gwybodaeth yn "anarferol iawn".

Cronfa Ddŵr Claerwen ydi'r mwyaf o ran maint a'r mwyaf anghysbell o argaeau Cwm Elan ym Mhowys.
Fe agorwyd yr argae ym 1952 gan y Frenhines Elizabeth II ar ei hymweliad swyddogol cyntaf i Gymru, ac mae'n darparu dŵr yfed i ddinas Birmingham.
Mae'r dŵr hefyd yn cyflenwi rhannau o Gymru ar adegau.
Bu swyddogion yn archwilio'r ardal gan ddefnyddio dronau a hofrennydd ond ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw eiddo, car na beic.
Methu hefyd wnaeth y profion fforensig a DNA a gafodd eu cynnal i geisio adnabod y dyn.
Y cyfan y mae'r heddlu'n ei wybod yw ei fod rhwng 6-6.5 troedfedd, yn ddyn gwyn rhwng 30 a 60 oed, a'i fod yn gwisgo siwt wlyb gwerth £200 sy'n boblogaidd gyda thriathletwyr a nofwyr dŵr agored.
Maen nhw'n credu y gallai fod wedi pwyso rhwng 14 a 15 stôn.
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2024
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Anthea Ponting wrth BBC Cymru mai ei damcaniaeth yw bod y dyn "wedi mynd i mewn i'r dŵr yn wirfoddol" rhywbryd yn ystod yr haf.
Ym mis Gorffennaf ac Awst, gallai tymheredd y dŵr fod wedi bod yn 10°C ar yr wyneb, ond oherwydd y dyfnder mae'n gallu bod llawer oerach.
Mae dŵr o dan 16°C yn cael ei ystyried yn beryglus ar gyfer sioc dŵr oer ac mae arwyddion ar hyd y lan yn rhybuddio rhag nofio neu weithgareddau dŵr eraill.

"Y peth pwysicaf yw i ni gael gwybod pwy ydy'r person yma," meddai Anthea Ponting
Mae Ms Ponting yn cadw "meddwl agored" am yr hyn a allai fod wedi digwydd, ond dywedodd mai dim ond ar "wybodaeth sydd eisoes yn hysbys" y gall ei thîm seilio eu damcaniaethau.
Maen nhw hefyd yn apelio ar y cyhoedd am gymorth, ond dydy'r awgrymiadau hyd yma heb gynnig arweiniad.
"Os oes unrhyw un sydd heb gysylltu â ni o'r blaen yn meddwl efallai eu bod nhw'n gwybod pwy yw'r dyn yma neu fod ganddyn nhw bryder am rywun ac yn meddwl ei bod hi'n bosib mai nhw ydi'r person yma, yna cysylltwch gyda ni," meddai.
"Y peth pwysicaf yw dod i wybod pwy ydy'r person yma a sut y gwnaethon nhw farw er lles eu hanwyliaid."
'Hynod o beryglus'
Mae tref Rhaeadr yn lleoliad poblogaidd ar gyfer beicio a cherdded ac mae pobl sy'n gyrru rhwng y gogledd a'r de yn aml yn stopio yno.
Dywedodd Alan Austin, sy'n cadeirio grŵp crwydro lleol ac sy'n cerdded yn yr ardal yn rheolaidd, nad yw "erioed" wedi gweld unrhyw un yn nofio yn nŵr Claerwen.
"Mae'n gallu bod yn hynod o beryglus," meddai.
"Gall y dŵr fynd yn oer iawn, mae dŵr o'r gronfa ddŵr yn arllwys dros yr argaeau pan mae hi wedi bod yn bwrw glaw."

Fe agorwyd yr argae ym 1952 gan y Frenhines Elizabeth II
Gofynnodd trigolion eraill sut y gallai rhywun gyrraedd yno heb unrhyw fodd amlwg o deithio, a pham na fyddai eu heiddo ar y lan.
Dywedodd Rosemary Stow, sy'n rhedeg oriel grefftau Quillies, nad yw'r rhan fwyaf o dwristiaid yn mynd yn bellach na'r ganolfan ymwelwyr yng Nghwm Elan.
"Dydych chi ddim yn gweld llawer o geir i fyny ar argae Claerwen nac yn y maes parcio islaw, mae'n le mor unig," meddai.
"Mae pobl yma yn gofyn, ydi o wedi cael ei adael yno? Ond os cafodd ei adael pam ei roi mewn siwt wlyb?"
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad i gysylltu â'r heddlu ar-lein neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 64 ar Hydref 18, 2024.