Cyffuriau colli pwysau ar gael ar y GIG i rai â chyflyrau difrifol

Pigiad colli pwysauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond pobl sydd angen colli pwysau'n gyflym oherwydd cyflwr meddygol difrifol fydd yn gymwys am y cyffuriau ar y GIG

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd pobl sydd angen colli pwysau'n gyflym oherwydd cyflwr meddygol difrifol yn gallu cael cyffuriau colli pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

Cyn hyn, dim ond drwy wasanaethau rheoli pwysau arbenigol roedd meddyginiaeth colli pwysau ar gael drwy'r GIG.

Ond nawr bydd modd cynnig cyffur colli pwysau tirsepatid (Mounjaro) mewn mwy o amgylchiadau.

Mae hynny'n cynnwys pobl sy'n aros am lawdriniaeth neu drawsblaniad organ, menywod sydd am gael triniaeth ffrwythlondeb, a phobl sydd â chyflyrau fel asthma difrifol, apnoea cwsg difrifol, neu ganser - lle byddai colli pwysau yn "gwella canlyniadau eu triniaeth neu eu gallu i gael therapïau".

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y "trefniadau newydd yn sicrhau bod pobl ag anghenion clinigol brys yn cael y cyfle i gael triniaeth yn gyflymach, tra bydd trefniadau ar gyfer mynediad ehangach yn cael eu datblygu".

Dyw'r cyhoeddiad ddim yn mynd mor bell â'r hyn sy'n cael ei gynnig yn Lloegr.

Yno, mae meddygon teulu yn gallu rhoi presgripsiwn ar gyfer cyffuriau colli pwysau - ond ar gyfer pobl sy'n cwrdd â meini prawf llym iawn.

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Jeremy Miles: "Mae galw sylweddol am wasanaethau rheoli pwysau arbenigol a galw cynyddol am i'r meddyginiaethau hyn fod ar gael drwy'r gwasanaeth iechyd.

"Er mwyn helpu i ddiwallu'r galw mewn ffordd gynaliadwy, ry'n ni'n meithrin capasiti a gallu, gan sicrhau hefyd bod pobl â'r angen clinigol mwyaf brys yn gallu cael mynediad at driniaeth heb oedi.

"Mae'r dull gweithredu hwn yn cydnabod bod angen i hyn fod ar gael i rai pobl nawr."