'Ger Taid': 'Unigolyn mwyaf Cymraeg y byd'

ger taidFfynhonnell y llun, Geraint Edwards
  • Cyhoeddwyd

Mae saer coed sy'n byw yn ardal Llandeilo wedi ennill gwobr 'Unigolyn Mwyaf Cymraeg y Byd' gan Bwrlwm ARFOR - mudiad sy'n hybu twf economaidd a chryfder y Gymraeg yn siroedd gorllewinol Cymru.

Mae Geraint Edwards, sy'n wreiddiol o Ddolgellau, wedi ennill y wobr am ei waith yn hybu'r Gymraeg yn ei fusnes. Mae'n defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o'i fywyd, ac mae wedi trosglwyddo hyn i'w waith.

“Mae’n rhan o bwy ydw i," meddai Geraint. "Yn y Gymraeg dwi’n adrodd stori – hanes fy musnes a fi fy hun, felly mae’n rhywbeth cwbl naturiol. Mi fysa hi’n fwy o ymdrech i mi fod yn fusnes Saesneg."

Ffynhonnell y llun, Geraint Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bwrlwm Arfor yn anelu i hybu'r defnydd o'r Gymraeg ym musnesau Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Ceredigion a Môn

Dechreuodd Geraint, neu 'Ger Taid' fel mae'n cael ei 'nabod gan lawer, i weithio gyda coed gyda'i daid yn Nolgellau tra roedd yn blentyn.

Cafodd swydd mewn swyddfa yng Nghaerdydd, ond wedi rhai blynyddoedd yno roedd yn teimlo'n rhwystredig ac roedd am ddychwelyd i weithio gyda'i ddwylo. Felly dyna a wnaeth.

'Y Gymraeg yn weladwy'

Roedd Geraint yn saer coed yng Nghaerdydd am gyfnod cyn symud i orllewin Cymru tua thair blynedd yn ôl i fyw'n agosach i deulu ei wraig, Carys.

Boed yng Nghaerdydd neu yn Llandeilo, mae Geraint wedi sicrhau bod y Gymraeg yn cael man amlwg iawn yn ei fusnes.

“Mae popeth o’r ochr marchnata’n digwydd ble mae’r Gymraeg yn gyntaf, neu weithiau dim ond yn y Gymraeg - er enghraifft y logo ar ochr y fan, ble mae’r Gymraeg yn gwbl weladwy.

"Am flynyddoedd o’n i’n gwrthod defnyddio’r apiau ar gyfer anfonebau, achos drwy wneud hynny mi fyddan nhw’n uniaith Saesneg. Y prif beth ydy bo’r Gymraeg yn cael lle gwbl weladwy ac amlwg yn holl drafodion y busnes.”

Ffynhonnell y llun, Geraint Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Geraint yn adeiladu ei weithdy yn Ffairfach ger Llandeilo

Mae Geraint yn dweud fod y wobr wedi rhoi rhywfaint o gyhoeddusrwydd i'w waith, ond hefyd y cyfle iddo siarad am y pwysigrwydd o ddefnyddio'r Gymraeg.

“Mae Bwrlwm ARFOR yn fenter sy’n cefnogi datblygiad a thwf economaidd Cymraeg yn siroedd gorllewin Cymru. Felly dwi’n mynd i'w ddefnyddio i helpu i godi ymwybyddiaeth o fy ngwaith i yma, a defnyddio fo i angori fy hun yng ngorllewin a chefn gwlad Cymru."

Beth mae Geraint yn meddwl sydd angen ei wneud i annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg ym myd busnes?

“Mae ‘na wastad rhywun sy’n dweud bod hi’n help cael pres neu ryw grantiau i wneud hyn a’r llall. Ond dwi hefyd yn meddwl fod angen jest gofyn i fusnesau pam nad ydyn nhw’n cynnwys y Gymraeg, pam nad ydyn nhw’n rhoi enw Cymraeg i’r busnes neu roi manylion cyswllt yn Gymraeg ar ochr y fan."

Ffynhonnell y llun, Geraint Edwards

Mae Geraint yn gwerthfawrogi bod y Gymraeg yn rhywbeth i'w ddefnyddio wrth farchnata Cymru.

"Dwi ‘rioed wedi colli joban oherwydd bod y Gymraeg yn dod gyntaf, ac yn aml iawn efo busnesau fel y maes lletygarwch, yr unig beth sy’n gwahaniaethu Dolgellau a rhywle fel Cumbria yw’r Gymraeg, felly allen ni ddefnyddio’r Gymraeg gyda balchder."

Ffynhonnell y llun, Geraint Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Dresal derw a wnaeth Geraint sydd yng nghanolfan Yr Ysgwrn, Trawsfynydd

Mae rhywbeth mor syml ag arwydd ddwyieithog yn gallu gwneud byd o wahaniaeth, yn ôl Geraint.

“Yn aml iawn gyda fy musnes i, Pedair Cainc, ymysg y cwsmeriaid di-Gymraeg mae pobl yn holi am yr enw ac yn cael rhywfaint o'r hanes a dod i fy nabod i.

“Mae ‘na drafodaeth ynglŷn â normaleiddio’r iaith, a pan ti’n gwneud rhywbeth yn ddwyieithog ti’n gweld y gymhariaeth yn glir. Os ‘di cwsmeriaid yn gweld arwydd ‘Gwaith coed/Carpentry’, maen nhw wedyn yn gweld y cyfieithiad ac mae'n codi’r ymwybyddiaeth o'r Gymraeg yn naturiol.”

Ffynhonnell y llun, Geraint Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Geraint gyda'i wraig, Carys, a'i blant, Swyn a Leusa

Pynciau cysylltiedig