ChatGPT yn troi at y Gymraeg i ddefnyddwyr ar draws y byd
- Cyhoeddwyd
Mae'r ap deallusrwydd artiffisial ChatGPT wedi bod yn ymateb i ymholiadau ar draws y byd yn Gymraeg.
Mae sawl defnyddiwr ar draws y byd wedi nodi fod yr ap AI yn ymateb yn Gymraeg i ymholiadau Saesneg.
Nid dyma’r tro cyntaf i ddefnyddwyr chatbot OpenAI ddod i gysylltiad â materion ieithyddol.
Ym mis Chwefror, cwynodd defnyddwyr am nam lle byddai'r bot yn ateb cwestiynau testun mewn cyfuniad o Sbaeneg a Saesneg.
Mae'r byg diweddaraf yn dro newydd ar broblem gyffredin o fodelau iaith fawr yn "rhithweld" - sef ffurfio atebion ffuglennol neu ddisynnwyr.
Mae ChatGPT bellach yn cefnogi dwsinau o ieithoedd, gan gynnwys Islandeg, Georgaidd a Macedoneg.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bartneriaeth ddata gydag OpenAI ym mis Mehefin i wella sut mae technolegau AI yn gweithio yn yr iaith.
Mae OpenAI wedi cyfaddef mewn papur ymchwil bod ChatGPT yn cynnig “perfformiad llawer gwaeth na’r disgwyl” yn y Gymraeg, ar ôl darganfod bod y rhan fwyaf o’i ddata hyfforddi ar gyfer y cyfieithiad yn “sain Saesneg mewn gwirionedd” oedd wedi cael ei gam-adnabod gan y system.
Dywedodd Sarah Coward, entrepreneur o Sir Gaergrawnt, iddi ddod ar draws y byg Cymreig wrth roi cynnig ar y nodwedd llais newydd yn ChatGPT-4o, a gyflwynwyd yn gynharach eleni.
“Doedd gen i ddim syniad pa iaith oedd hi oherwydd fe wnaeth fy synnu’n llwyr,”’ meddai Ms Coward wrth y Financial Times.
Pan ofynnodd Ms Coward i’r chatbot pam y dechreuodd siarad yn Gymraeg, atebodd ChatGPT ei fod yn meddwl y byddai Coward yn “fwy cyfforddus yn yr iaith honno”.
Dywedodd OpenAI fod y model weithiau’n mynd yn ddryslyd ac y bydd yn trawsgrifio sain mewn iaith wahanol - Cymraeg yn yr achos hwn.
Roedd yn argymell bod defnyddwyr sy’n profi’r nam Cymraeg yn gosod eu gosodiad “Speech” i’r Saesneg yn hytrach nag “Auto-detect,” er na allai warantu y byddai hyn yn datrys y broblem.
Beth yw ChatGPT?
Mae ChatGPT, a sefydlwyd gan y cwmni OpenAI, yn ap AI sy'n gallu ysgrifennu traethodau, sgriptiau, cerddi, a datrys codio cyfrifiadurol mewn ffordd debyg i berson. Gall hyd yn oed gael sgyrsiau a chyfaddef camgymeriadau.
Mae'r GPT yn sefyll am 'Generative Pre-Trained Transformer'. Mae hyn yn golygu ei fod yn dysgu beth i'w ddweud trwy gipio gwybodaeth o'r rhyngrwyd.
Yna mae'n defnyddio'r holl destun hwn i "gynhyrchu" ymatebion i gwestiynau neu orchmynion y gallai rhywun eu gofyn.
Ei brif bwrpas yw creu brawddegau a allai fod wedi cael eu hysgrifennu gan berson - yn hytrach na chwilio'r rhyngrwyd am ffeithiau. Mae hyn yn golygu y gall weithiau gael pethau'n anghywir.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2023