Galw am drafodaeth agored ar gywirdeb ym myd y theatr
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gyfarwyddwr y Theatr Genedlaethol wedi galw ar bobl sy'n gweithio ym maes y theatr yng Nghymru i ddod at ei gilydd i drafod cywirdeb gwleidyddol yn y diwydiant.
Yr wythnos diwethaf cafodd seremoni’r Fedal Ddrama ei chanslo heb unrhyw esboniad gan yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ers hynny mae cryn ddyfalu a thrafod wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol a nifer wedi codi pryderon ynghylch dyfodol ysgrifennu a chreadigrwydd yn y theatr.
Dywedodd Cefin Roberts fod "pethau fel hyn wedi bod yn berwi ers tro" a'i fod yn awyddus i greu lle diogel ar gyfer trafodaeth agored.
Mewn datganiad nos Fawrth, dywedodd beirniaid y gystadleuaeth mai nid "sensora" oedd bwriad yr Eisteddfod "ond gwarchod pawb a oedd ynghlwm â’r gystadleuaeth a’r gymuned roedd y dramodydd [buddugol] yn honni ei chynrychioli".
'Pobl ofn sgwennu o hyn ymlaen?'
Wrth siarad â Cymru Fyw nos Lun, dywedodd Cefin Roberts: "Beth bynnag oedd y dyfarniad o ran yr Eisteddfod, mae cwestiynau wedi cael eu codi, a dwi’n meddwl bod ni angen trafodaeth llawer iawn ehangach - tu allan i faes yr Eisteddfod.”
Yn sgil diffyg eglurhad mae Mr Roberts yn galw am sefydlu fforwm i drafod y materion cymhleth sy’n wynebu gweithwyr theatr heddiw.
Mae hyn, meddai, yn cynnwys yr hyn sy’n gywir yn wleidyddol, sensoriaeth, a’r heriau sy’n codi wrth greu cynnwys sy'n ymdrin â materion sensitif.
"Trafodaeth sydd angen arnon ni – 'dan ni angen addysgu’n gilydd a rhoi cyfle i bobl ddweud wrthym ni pam maen nhw'n teimlo fel hyn, llall, neu arall, yn hytrach na’i gadw fo tu ôl i ddrysau caeëdig a teimlo bod y drafodaeth yn gorffen cyn iddo gychwyn fel y digwyddodd ar y llwyfan y diwrnod o'r blaen," meddai Mr Roberts.
"Y cwestiwn mawr yw, ydyn ni’n mynd i wneud i bobl i ofni sgwennu o hyn ymlaen?
"A ydyn nhw’n teimlo fel bod ganddyn nhw ddim y rhyddid i sgwennu?”
Mae Mr Roberts yn cynnig mai cwmnïau theatr a sefydliadau yng Nghymru ddylai arwain y drafodaeth hon er mwyn sicrhau bod lleisiau awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr yn cael eu clywed.
"Mae’r trafodaethau hyn yn hanfodol ar gyfer sicrhau dyfodol iach i'r theatr yng Nghymru, lle mae creadigrwydd yn gallu ffynnu, a lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel ac yn barchus wrth leisio'u barn.
"Rhaid i ni greu amgylchedd lle gall dramodwyr a sgriptwyr leisio eu barn yn ddiogel, heb ofn cyhuddiadau, a sicrhau nad yw creadigrwydd yn cael ei gyfyngu."
'Awyru'r ddadl a'r gwrthddadl'
Mae'n cydnabod bod angen bod yn wyliadwrus wrth drafod materion sensitif ond mae hefyd yn dweud bod yn rhaid peidio cyfyngu ar greadigrwydd neu ryddid mynegiant.
"Dwi’n berson sy’n teimlo dylai awduron gael rhyddid llwyr i fynegi’u hunain, ond dwi hefyd yn credu bod angen gwrando ar y llais arall," esboniodd Mr Roberts.
"Mae'r drafodaeth yma'n un gymhleth, ac mae'n hawdd i ni lithro i sefyllfa lle mae ofn yn llywio ein creadigrwydd.
"Mae angen i ni sicrhau bod awduron yn teimlo'n ddiogel i archwilio syniadau, hyd yn oed y rhai mwyaf dadleuol, heb ofn bod eu gwaith yn cael ei gau i lawr cyn iddo gael ei ystyried yn llawn.
"Mae pethau fel hyn wedi bod yn berwi ers tro go lew – sut 'dan ni’n bod yn deg ac yn ystyriol o'n gilydd heb fygwth creadigrwydd? Fan yna mae'r drafodaeth angen bod.
"Mae angen awyru'r ddadl a’r gwrthddadl - rydyn ni wedi rhoi rhyw zip ar ein cegau ers sbel ac mae angen agor hwnna fyny fel bod pobl yn gallu bod yn onest heb gychwyn ryw ffrae fewnol," ychwanegodd.
"Mae’n bryd rhoi ryw awyr iach ar ôl wythnos yr Eisteddfod ac agor y fforwm yma i drafodaeth gonest ac adeiladol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst 2024
- Cyhoeddwyd9 Awst 2024
- Cyhoeddwyd8 Awst 2024