Brian May: 'Gall gwella glendid ffermydd helpu i ddatrys TB'
- Cyhoeddwyd
Gallai gwella glendid ar ffermydd helpu wrth geisio mynd i'r afael â lledaeniad TB mewn gwartheg, yn ôl gitarydd y band Queen a’r ymgyrchydd hawliau anifeiliaid Brian May.
Am dros ddegawd mae Mr May wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn polisïau o ddifa moch daear er mwyn taclo TB, gan honni fod moch daear yn cael eu "herlid yn giaidd".
Mae gwartheg yn cael eu profi’n gyson am bresenoldeb yr haint, ac yn cael eu difa os ydyn nhw’n ei gario.
Rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024 cafodd 11,197 o wartheg eu difa yng Nghymru ar ôl i TB gael ei ddarganfod.
21,298 oedd y ffigwr yn Lloegr a 18,577 yng Ngogledd Iwerddon.
Mewn rhaglen ddogfen ar y BBC, mae Brian May yn cwestiynu’r syniad fod moch daear yn ffactor sylweddol yn lledaeniad TB mewn gwartheg, gan awgrymu y gallai da fod yn pasio’r haint ymhlith eu hunain.
“Gwraidd hyn oll yw bod 'na egwyddorion penodol sydd angen eu dilyn, sy'n cadw'r pathogen rhag symud drwy'r fuches, gan dorri'r llinell drosglwyddo," meddai.
- Cyhoeddwyd13 Awst
- Cyhoeddwyd14 Awst
- Cyhoeddwyd17 Mai
Ar ôl gweithio â ffermydd yng Nghymru a Lloegr mae Brian May wedi dod i’r casgliad fod y pathogen sy'n achosi lledaeniad TB mewn gwartheg yn gallu cael ei ledaenu gan y gwartheg eu hunain wrth iddyn nhw heintio bwyd a diod gyda'u hwynebau.
"Mae popeth o fewn y fuches. Mae lledaeniad TB mewn gwartheg yn digwydd o fuwch i fuwch ac oherwydd sefyllfaoedd glendid aneffeithiol.
"Diogelwch bio, oedd yn yr hen ddyddiau'n golygu cadw'r moch daear mas, ond sydd nawr yn golygu cadw'r slyri o'r da fel nad ydyn nhw'n heintio ei gilydd."
Mae Dr Christianne Glossop, cyn-Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, wedi canmol gwaith Brian May wrth geisio datrys y broblem.
Dywedodd fod rheoli slyri yn bwysig iawn, ond mae'n anodd cyflawni hynny ar rai ffermydd.
"Gall TB gyrraedd fferm drwy anifail sydd wedi'i heintio, esgidiau budr yn cerdded i mewn i fferm neu slyri sydd wedi’i heintio yn cael ei ledu i gaeau drws nesa'," meddai.
Serch hynny, dyw Ms Glossop ddim yn diystyru achosion eraill.
"Mae hefyd yn bosibilrwydd y gallai rhywogaethau eraill sydd wedi’u heintio, gan gynnwys moch daear, gyflwyno haint i fferm."
'Taith ryfeddol o ddarganfod'
Yn y rhaglen ddogfen dywed Mr May ei fod bellach yn sylweddoli fod angen ystyried ffermwyr a'u hanifeiliaid hefyd fel rhan o'r sefyllfa ehangach.
"Mi ddes i mewn i achub moch daear. Dwi bellach yn sylweddoli, er mwyn achub moch daear, rhaid achub pawb."
Drwy weithio gyda’r milfeddyg Dick Sibley ar Fferm Gatcombe yn Nyfnaint, daeth May i’r casgliad nad yw'r prawf croen TB arferol yn darganfod pob achos o TB mewn gwartheg, fyddai’n cael ei gasglu gyda phrofi gwell.
O ganlyniad, mae'n dadlau y gallai gwartheg fyddai'n cael eu hystyried i fod yn glir o TB fod, mewn gwirionedd, yn lledaenu'r haint.
Wrth asesu rhannau o'r gwartheg, cafodd y pathogen TB, M. Bovis, ei ddarganfod mewn carthion.
Fe gyflwynodd y fferm drefn hylendid newydd, i gadw'r ysgarthion rhag heintio ardaloedd byw, bwyd a dŵr.
"Mae wedi bod yn daith hynod o ffrwythlon i ni. Taith ryfeddol o ddarganfod," meddai Mr May.
Mi gafodd achosion o TB eu cofnodi ar y fferm yn 2018, 2020 a mis Mai 2023 - ond mae'r safle bellach yn glir o TB yn swyddogol.
Dywedodd Christianne Glossop bod Mr May wedi amlygu "llwyddiant o ran leihau lefelau TB" trwy ddangos, yn yr achos yng Nyfnaint, "ble mae'r milfeddyg a'r ffermwr yn cydweithio, gwella arferion bioddiogelwch, [canolbwyntio] ar garthion ac atal lloi rhag cael eu heintio gan eu mamau adeg eu geni".
Ond gan gwestiynu a yw'r achos yna'n "profi nad oes gan foch daear unrhyw ran i'w chwarae yn lledaeniad TB mewn gwartheg", dywedodd: "Na, dydw i ddim yn cytuno â'r casgliad hwnnw."
Un sy'n ymddangos yn y rhaglen yw Chris Mossman, sy’n ffermio yn Llangrannog yng Ngheredigion.
Mae dros 500 o'i wartheg wedi'u difa ers 2016 ar ôl profi'n bositif am TB, ac fe gafodd ei gyflwyno i ddamcaniaethau Brian May ddiwedd 2020.
Ers hynny mae wedi colli dros 120 yn rhagor o anifeiliaid, ac mae mwy i fod i gael eu difa yr wythnos hon.
"Dwi'n meddwl ei fod o'n ddiddorol iawn beth mae Brian May a Dick Sibley wedi ei wneud. Fy marn i am TB yw ei fod yn glefyd cymhleth iawn. Dyw'r sefyllfa ddim yn gwella.
"Fy nheimlad yw: beth am roi cynnig arno ar ffermydd eraill a gweld a ydyn nhw’n cael yr un matho lwyddiant, ond allwn ni ddim rhoi ein holl wyau mewn un fasged."
Mae Mr Mossman yn credu bod moch daear yn cyfrannu at broblem TB mewn gwartheg.
Ychwanegodd bod delio â'r sefyllfa wedi effeithio ar ei iechyd meddwl, a bod dilyn y gweithdrefnau profi a'r mesurau bioddiogelwch angenrheidiol bron fel cael "job arall ar ben ein gwaith bob dydd".
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd14 Mai
Cafodd arbrawf difa moch daear ei sefydlu yn y 1990au i asesu ei effeithiolrwydd wrth reoli TB mewn gwartheg,
Arweinydd y prawf gwyddonol 10 mlynedd oedd yr Arglwydd John Krebs.
Dywedodd wrth raglen Brian May: "Os rydych wir eisiau rheoli TB mewn gwartheg dydy lladd moch daear ddim yn mynd i fod yn bolisi ofnadwy o effeithiol."
Yn 2011 penderfynodd Llywodraeth y DU i ddifa moch daear mewn mannau ble roedd lefel uchel o TB yn Lloegr, ar ôl ail-ddehongli tystiolaeth treialon Krebs a dod i'r casgliad y gallai moch daear fod yn cyfrannu at ledu TB mewn gwartheg.
Dyw polisi o ddifa eang erioed wedi cael ei weithredu yng Nghymru na Gogledd Iwerddon. Mae'r Alban yn swyddogol yn glir o TB ac mae amlder achosion yn isel iawn.
Dywed Llywodraeth newydd y DU eu bod yn anelu at sefyllfa lle mae modd dod â difa moch daear yn Lloegr i ben.
"Rydym yn cydnabod effaith ddinistriol TB mewn gwartheg ar y gymuned amaethyddol a dyna pam rydym wedi ymrwymo i drechu'r haint hwn.
"Bydd y llywodraeth hon yn cyflwyno pecyn dileu TB gan gynnwys brechlynnau, rheoli buchesi a mesurau bioddiogelwch i gyflawni ein nod o gyrraedd statws di-TB mewn gwartheg a dod â'r difa moch daear i ben."
Yr wythnos ddiwethaf fe sefydlodd Llywodraeth Cymru Fwrdd TB i geisio sicrhau Cymru heb TB erbyn 2041.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod TB mewn gwartheg yn cael "effaith ofidus ar iechyd a lles ein ffermwyr a'u teuluoedd ac rydym yn hollol benderfynol o gael gwared ar y cyflwr dinistriol yma yng Nghymru."
Fe gyflwynodd May gyflwyno ei syniadau i gynulleidfa o ffermwyr yn Aberystwyth yn 2023.
Dywed ei fod yn gwybod fod ganddo lawer i’w wneud i ddwyn perswâd ar rai o fewn y byd ffermio ond mae’n benderfynol o fwrw ymlaen.
"Yn gyffredinol, rydym yn cael ymateb eitha' amheus a gelyniaethus gan y gymuned ffermio i ddechrau, a dwi ddim yn eu beio achos pam fydde gyda ni rywbeth i’w gynnig – seren roc ac ymgyrchydd bywyd gwyllt?
"Ond rydym wedi bod yn gwneud hyn am amser hir. Dydw i ddim yma i frwydro - rwy'n meddwl gallen ni gael newid a chynnig gobaith.
“Ry''n niar y daith hon ers 12 mlynedd ac ry'n ni wedi gwneud darganfyddiadau s'neb arall wedi'u gwneud.
“Mae siarad mas yn erbyn difa moch daear wedi dod yr un mor bwysig i mi â cherddoriaeth."
Wrth ymateb i waith ymchwil Mr May, dywedodd Y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth: "Mae TB mewn gwartheg yn afiechyd cronig ac ofnadwy.
"Mae sut yn union mae'r haint yn lledu yn amrywio o fferm i fferm, a tra nad oes un ffordd benodol i allu rheoli'r afiechyd, mae'n cael ei dderbyn yn gyffredinol bod moch daear yn chwarae rhan yn y lledaeniad mewn ardaloedd risg uchel yng Nghymru a Lloegr.
"Mae data gafodd ei gasglu gan Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion - gafodd ei gasglu ar hyd 52 ardal lle mae difa wedi digwydd - yn dangos fod achosion o TB mewn gwastradd yn gostwng 56% ar gyfartaledd wedi pedair blynedd o ddifa moch daear.
"Mae'r diwydiant ffermio yn dal i weithio'n galed gyda'r llywodraethau er mwyn dod o hyd i'r ffordd orau i gael gwared a'r afiechyd yma er lles ein hanifeiliaid."