'Holwch ysgol a oes lle i blant cyn gwrthod cais rhieni'

Disgrifiad,

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen pedair oed o Groesoswallt wedi cael wythnos gyntaf "wrth ei fodd" yn yr ysgol, ar ôl i'w rieni frwydro i sicrhau lle iddo mewn ysgol Gymraeg dros y ffin ym Mhowys.

Fe gafodd Lowri a Dylan Jones wybod ym mis Ebrill nad oedd lle i'w mab, Ynyr, yn Ysgol Llanrhaeadr-ym-Mochnant er bod ei chwaer hŷn, Lluan, eisoes yn mynd yna.

Roedd yna dro pedol wedi i'r teulu apelio, ac fe gynigiodd y cyngor le i Ynyr wedi'r cyfan.

Dywedodd Lowri Jones wrth raglen Dros Frecwast ddydd Gwener, ei fod yn "syndod mawr" fod Ynyr heb gael cynnig lle o ystyried fod Lluan yn ddisgybl yno yn barod.

"Oedd o ddim wedi croesi fy meddwl i fod yn onest achos pan o'n i'n gwneud cais am Lluan, oedd Powys yn dweud oedd 'na le, ac oedd [Cyngor] Sir Amwythig yn hapus i blant Sir Amwythig i fynd yno."

Y "gwahaniaeth mwya'" wrth geisio am le i'w mab eleni, oedd bod Ynyr ymysg 18 o blant o Sir Amwythig oedd yn ceisio am 18 o lefydd dosbarth derbyn, ac roedd Cyngor Powys wedi gosod "terfyn o 15".

Chwech oedd y nifer pan roedd Lluan yr un oedran.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ynyr "wrth ei fodd" yn nosbarth derbyn yr un ysgol â'i chwaer fawr

Dywedodd Lowri ei bod yn deall bod rhaid rhoi blaenoriaeth i blant sy'n byw ym Mhowys ac nad yw hi'n dymuno i'w plant gymryd lle plant eraill.

Ond yn yr achos hwn, meddai, roedd yr ysgol yn fodlon eu bod yn gallu ymdopi â dosbarth derbyn mwy na'r arfer gan fod yna lefydd gwag mewn dosbarthiadau eraill.

Yr hyn y dylai awdurdodau addysg wneud, mae hi'n dadlau, yw "gofyn i'r ysgol 'oes gennych chi le? Allwn ni 'neud i hyn weithio?'" cyn gwrthod ceisiadau "yn lle achosi'r poen meddwl a'r gofid a'r straen 'da ni a dau deulu arall wedi bod trwyddo".

Ychwanegodd bod sefyllfa teuluoedd Cymraeg Amwythig yn neilltuol, gan fod rhieni ers degawdau wedi anfon eu plant dros y ffin am addysg mewn ysgolion yn siroedd Powys a Wrecsam.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys eu bod "wedi ymrwymo i sicrhau bod pob disgybl yn gallu elwa o addysg cyfrwng Cymraeg.

"Mae cynyddu mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y sir yn flaenoriaeth i'r cyngor, fel yr amlinellir yn ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg," meddai.

Mae rhannu ffin ag awdurdodau lleol Lloegr, ychwanegodd, "yn rhoi cyfle i ddatblygu partneriaethau trawsffiniol a byddwn yn trafod gyda'n cymdogion am y ffordd orau i hyrwyddo mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i'r rhai sy'n byw dros y ffin".

Pynciau cysylltiedig