Ampadu i fethu pedair gêm nesaf Cymru gydag anaf

Ethan AmpaduFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl y bydd Ethan Ampadu yn absennol tan y flwyddyn newydd

  • Cyhoeddwyd

Bydd Ethan Ampadu yn absennol ar gyfer pedair gêm nesaf Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd wedi iddo ddioddef anaf i'w ben-glin.

Mae disgwyl y bydd y chwaraewr 24 oed yn absennol tan y flwyddyn newydd ar ôl iddo gael ei orfodi o'r maes tra'n chwarae i Leeds United yn erbyn Coventry ddydd Sadwrn.

Byddai Ampadu wedi bod yn rhan allweddol o garfan Cymru ar gyfer y gemau oddi cartref yn erbyn Gwlad yr Iâ a gartref yn erbyn Montenegro fis yma.

Bydd y rheolwr Craig Bellamy yn cyhoeddi'r garfan ddydd Mercher.

Mae disgwyl y bydd Ampadu yn absennol ar gyfer y gemau yn erbyn Twrci a Gwlad yr Iâ ym mis Tachwedd hefyd.